Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost mis Mai yr Is-Ganghellor i’r holl staff

29 Mai 2015

Annwyl gydweithiwr

Mae canlyniad yr Etholiad Cyffredinol wedi esgor ar lawer mwy o eglurder i ni nag y disgwyliai neb ei weld. Am un peth, gwyddom y caiff refferendwm ei gynnal ynghylch parhad ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Bydd gwahaniaeth barn o fewn yr academi, wrth gwrs, ond rwy’n sicr mai’r peth gorau o ran buddiannau’r Brifysgol hon, a rhai’r sector cyfan, fydd aros yn yr Undeb hwnnw. Bydd Universities UK yn cynyddu ei ymgyrch ar hyd y llinellau hynny a hoffwn weld Caerdydd yn chwarae ei rhan. Gan fod angen i ni fel sector yn y DU ymgyngrheirio â sefydliadau o gyffelyb fryd, calondid oedd gweld i’r NUS yn ei chynhadledd yn ddiweddar bleidleisio o blaid cefnogi’r ymgyrch ‘Ie’.

Mae ethol llywodraeth Geidwadol hefyd yn golygu y gallwn ni ddisgwyl gweld y tynhau ar y polisi ar fisâu myfyrwyr yn parhau, ac mae’n sicr y bydd dileu’r rheolau ynghylch niferoedd myfyrwyr yn Lloegr yn esgor ar fwy o gystadlu am fyfyrwyr cartref a myfyrwyr o’r UE. Go brin bod angen tanlinellu pwysigrwydd cynnal a gwella’r profiad a gaiff myfyrwyr, ac mae’n bwysig i ni fuddsoddi yn y cyfleusterau i fyfyrwyr yn unol â’n cynllun. Yn olaf ar y mater hwn, bydd cyllideb arall ar 8 Gorffennaf ac adolygiad cynhwysfawr o wariant yn yr hydref. Gan mai eithaf llwm, i bob golwg, yw’r rhagolygon o ran cyllid cyhoeddus, symud ymlaen yn bwyllog fydd ei angen tan i ni gael gwybod rhagor.

Fel y gwyddoch chi, un o’r prif drywyddau rwyf wedi’u dilyn ers dod i Gaerdydd yw bod rhaid i ni weithredu’n strategol a sicrhau defnyddio adnoddau’r Brifysgol gyfan i sicrhau’r lles mwyaf i’r sefydliad drwyddo draw. Efallai i chi glywed bod yr Ysgol Meddygaeth, fel rhan o’r broses honno, wedi cynnal ei adolygiad strategol ei hun o dan y teitl Medic Forward, a’n bod ni erbyn hyn yn ymgynghori yn ei gylch.

Y nod yw sicrhau y gall yr Ysgol ddatblygu’r un mor gyflym â’r anghenion sy’n cyflym esblygu yn y proffesiwn meddygaeth ac ym myd cleifion, a gosod yr Ysgol yn gadarn ymhlith 10 Ysgol Meddygaeth orau’r DU. Ar y cyd â’r cwricwlwm meddygaeth newydd ac arloesol i israddedigion, C21, bydd prosiect Medic Forward yn ein helpu ni i gyrraedd y nod hwnnw. Fel rhan o adolygiad trylwyr o’i meysydd presennol o gryfder, mae’r Ysgol wedi penderfynu bod angen iddi greu timau cydlynol sy’n ddigon mawr i allu cystadlu ar y lefel uchaf ym myd ymchwil. Mae hynny’n golygu gwneud y dewis anodd i ganolbwyntio ar feysydd penodol o gryfder a phwysigrwydd. Mae angen hoelio sylw’n arbennig ar ymchwil lle mae gennym ddigon o arbenigedd a staff i roi sylw i heriau mawr yr oes sydd ohoni er mwyn i ni gael effaith amlwg a phendant ar iechyd y cyhoedd. Rhan o nod y prosiect yw cynyddu’r recriwtio ar feddygon i Gymru a’u cadw hwy yma, a chanolbwyntio ar y meysydd lle gallwn ni wneud gwahaniaeth go-iawn i helpu i gyrraedd y nod. Os hoffech chi wybod rhagor, neu fynegi’ch barn, gallwch chi e-bostio MedicForward@caerdydd.ac.uk.

Mae’n bleser mawr gen i ddweud ein bod ni newydd allu gwneud ein hail apwyntiad Sêr Cymru. Nod y rhaglen nodedig honno, gyda chymorth hael Llywodraeth Cymru, yw denu sêr byd ymchwil i Gymru. Daw’r Athro Diana Huffaker atom o Brifysgol California yn Los Angeles, a bydd ei harbenigedd ym myd uwch-beirianneg a defnyddiau yn hwb gwirioneddol i’n hymchwil ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae penodi Diana’n gam mawr ymlaen yn ein partneriaeth â byd diwydiant sef, yn yr achos hwn, ag IQE, cwmni sy’n cynhyrchu lled-ddargludyddion. Nod y bartneriaeth yw pontio’r bwlch rhwng ymchwil wyddonol sylfaenol a chymwysiadau masnachol yn y byd go-iawn, a dyna’r union beth y mae arnom eisiau adeiladu arno drwy System Arloesi Caerdydd.

Newydd arall yw ein bod ni bellach wedi cwblhau’r arolwg o’r staff y gwnaeth llawer ohonoch chi gymryd rhan ynddo. Mae’r canlyniadau’n cael eu dadansoddi ac fe roddwn ni gyhoeddusrwydd iddynt drwy Blas yn y dyfodol agos. Yn olaf, gwnes gamgymeriad yn fy e-bost diwethaf wrth osod yr Athro Kevin Morgan yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn hytrach na’r Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth lle mae’n gweithio. Ymddiheuriadau i Kevin am y camgymeriad hwnnw.

Gyda dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor