Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 11 Mai 2015
11 Mai 2015- Cafodd y Bwrdd bapur a amlinellai’r trefniadau llywodraethu a gynigiwyd ar gyfer y ddau Adeilad Arloesi newydd. Cytunwyd y deuai papur diwygiedig yn ôl i’r Bwrdd yr wythnos ganlynol, a hwnnw wedi’i alinio’n agosach â chylchoedd gwaith cyfredol Grŵp Llywio’r Prosiectau Adeiladu a’r aelodaeth wedi’i diwygio ychydig.
- Cafodd y Bwrdd bapur a ddadansoddai berfformiad y Brifysgol yn y REF gan roi rhagor o fanylion a chyd-destun ynghylch cyflwyniad y Brifysgol ar lefel yr Unedau Asesu unigol.
- Cafodd y Bwrdd achos busnes dros brynu datrysiad modelu beichiau gwaith, a hwnnw wedi’i brynu oddi allan, i grisialu’r data. Bu’r datrysiad hwnnw’n allweddol wrth ganiatáu i’r data am waith modelu beichiau gwaith gael eu crisialu’n gyson. Cytunodd y Bwrdd y dylid symud hyn yn ei flaen.
- Cafodd y Bwrdd adroddiad cynllun ffioedd 2013/14 y Brifysgol i fyfyrwyr, a chytunwyd y caiff hwnnw ei gyhoeddi’n awr ar y wefan.
- Cafodd y Bwrdd Gynllun Ffioedd Sefydliadol 2016/17 CCAUC. Caiff y wybodaeth ar y ffurflen ei hystyried i’w chymeradwyo gan y Cyngor ar 18 Mai ac yna’i chyflwyno i CCAUC erbyn 22 Mai.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Adroddiad Misol y Prif Ddirprwy Is-Ganghellor. Rhoes yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch misol y Prif Ddirprwy Is-Ganghellor, gan gynnwys ymweliad Dirprwyaeth Llywodraeth Cyngor Beijing a llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, cyfarfod â Simon Wright (y Cofrestrydd Academaidd newydd) i drafod y cynlluniau ar gyfer Cadarnhau a Chlirio eleni, a Chinio Gwobrau Athro Clinigol y Flwyddyn. Soniwyd ynddo hefyd am ddigwyddiad blynyddol y Gwobrau Cyfoethogi Bywydau Myfyrwyr dan arweiniad Rhys Jenkins, yr Is-Lywydd Addysg.
- Adroddiad ar Weithgareddau Ymgysylltu. Rhoes yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am bob un o’r prif brosiectau ymgysylltu ac am y gweithgareddau ymgysylltu â llywodraethau Cymru a’r DU. Nododd hefyd y digwyddiadau a’r mentrau sydd ar y gweill, gan gynnwys digwyddiadau yn yr Eisteddfod, y cyd-gyfarfod o’r GW4 y bwriedir ei gynnal ym mis Mehefin i drafod effaith ymchwil ac ymgysylltu, a rhaglen Gŵyl y Gelli gydag enwau’r staff a gadarnhawyd o Gaerdydd.
- Adroddiad ar Weithgareddau Rhyngwladol. Ynddo, cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch gyda KU Leuven, Tsieina, India a datblygiadau Horizon 2020.
- Adroddiad Misol y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata. Nododd yr adroddiad fod ymgynghoriad ynghylch cyfathrebu mewnol wedi’i ehangu i gynnwys pob Ysgol. Mae mewnrwyd yr arolwg o ansawdd y Gwasanaethau Proffesiynol wedi’i datblygu. Rhoes yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf hefyd am gysylltiadau â’r cyfryngau ac ymgyrchoedd yn y cyfryngau yn ogystal â datblygiadau o ran materion cyhoeddus.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014