E-bost mis Ionawr yr Is-Ganghellor i’r holl staff
30 Ionawr 2015Annwyl gydweithiwr
Gadewch i mi ddechrau’r e-bost cyntaf hwn yn 2015 drwy longyfarch amryw o’n cydweithwyr. Gwn fod llawer o bobl yn y Brifysgol a thu hwnt wrth eu bodd o glywed bod yr Athro Terry Rees wedi’i dyrchafu’n Fonesig yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Mae Terry wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol eithriadol nid yn unig yn y bywyd academaidd ond yn ehangach o lawer, ac nid yn unig yng Nghymru ond ar lefel y DU ac yn rhyngwladol. Hoffwn longyfarch Terry’n gynnes ar ran pawb ohonom ni yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Llongyfarchiadau hefyd i’r Athro Steve Eales ar ddyfarnu iddo fedal hynod nodedig Herschel am ymchwiliad o deilyngdod arbennig mewn astroffiseg arsylwadol, ac i Dr Haley Gomez ar iddi gael Gwobr Fowler am gyfraniad o bwys i astroffiseg. Mae’r gwobrau hynny, wrth gwrs, yn ategu perfformiad arbennig Ffiseg yn yr REF, ac mae’n wych gweld cymaint o lwyddiant. Ond nid dyna’i diwedd hi am i’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth gyflawni camp driphlyg pan lwyddodd tri chais i’r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (yr ERC) am grantiau ymchwil yn yr un rownd. Mae’n arbennig o braf bod y ceisiadau llwyddiannus yn rhai am grantiau cyfnerthu hynod gystadleuol sydd wedi’u hanelu at academyddion sy’n datblygu eu gyrfa tuag at uwch-swydd Athro prifysgol. Enillwyd y tri dyfarniad gan Dr Haley Gomez (unwaith eto!) am brosiect o’r enw ‘Lighting up the dark – the evolution of dust throughout cosmic time’, Dr Mark Hannam (‘Mapping gravitational waves from collisions of black holes’) a Dr Oliver Williams (‘Superconducting Diamond Quantum Nano-Electro-Mechanical Systems’). Gan fod cyfanswm y grantiau hynny’n werth dros €6.5 miliwn, maent yn argoeli’n dda at y dyfodol. Unwaith eto, llongyfarchiadau i bawb perthnasol.
Newyddion llai dymunol yw bod cynnig a wnaed gan y Comisiwn Ewropeaidd yn gynharach yn y mis yn debyg o effeithio er gwaeth ar yr ERC am y bydd yn tynnu rhyw €2.2bn o raglen Horizon 2020 y mae’r ERC yn rhan ohoni. Byddai’r cynnig yn ailgyfeirio cyllid o Horizon 2020 i helpu i greu Cronfa Buddsoddi Strategol Ewropeaidd (EFSI) mewn ymdrech i ysgogi twf a swyddi. Byddai’r ERC yn colli €221m, yn bennaf o alwadau yn 2016 a 2017. Rhaid aros i weld a gaiff twf a swyddi eu hysgogi, ond mae hi’n glir bellach y caiff y gronfa newydd honno’i chyfeirio mewn gwirionedd at ganiatáu i’r Banc Buddsoddi Ewropeaidd wneud benthyciadau – creu dyled gyhoeddus, i bob pwrpas – a bod y rheiny’n debyg o gael eu dosbarthu ar sail daearyddiaeth. Dosbarthu cyllid ar sail rhagoriaeth wna’r ERC, ac ar ffurf grantiau yn hytrach na benthyciadau. Felly, os cyfeirir hyd yn oed gyfran fach o’r EFSI newydd tuag at ymchwil, fel yr awgrymwyd, ni fydd yn destun y broses drylwyr o adolygu gan gydweithwyr, ac nid yw cyllid dyledion yn rhyw ddefnyddiol iawn o ran ymchwil bur. Datblygiad hynod o ddiflas yw hwn ar ôl i’r blynyddoedd o drafod arwain yr hen Gomisiwn a’r Senedd i gytuno yn y pen draw ar y setliad o ryw €80bn ar gyfer Horizon 2020. Bydda i’n arwain dirprwyaeth yr UUK i Frwsel ym mis Chwefror a byddwn ni’n lobïo’n egnïol ynghylch hyn. Er ’mod i’n ofni mai cyfyngedig fydd ein gallu i sicrhau newid go-iawn yn y cynnig, fe wnawn ni’n gorau. Gwaetha’r modd, symudiadau mympwyol fel hyn sy’n tueddu i atgyfnerthu’r argraff negyddol o’r UE yr ydym ni’n ceisio’i hymladd yn y wlad hon, ac rwy’n credu bod hynny’n bwynt y mae angen i ni ei gyfleu. Wedi dweud hynny, daliwch ati i geisio i ennill grantiau gan yr ERC; i Brydain ac i Brifysgol Caerdydd mae’n stori o lwyddo ac mae arnon ni eisiau ei gweld hi’n parhau.
Fel y dywedais yn fy e-bost fis Ionawr diwethaf, mae etholiadau Undeb y Myfyrwyr ar y gweill a hoffwn ofyn i’m holl gydweithwyr academaidd esmwytho llwybr y myfyrwyr sy’n sefyll neu sy’n cymryd rhan fel arall. Byddwch cystal â chytuno â cheisiadau rhesymol am amser i ymroi i’r broses honno yn ystod y cyfnod ymgyrchu eleni, sef 23-27 Chwefror; mae’n bwysig i fyfyrwyr gael eu cynrychioli’n briodol ac i ni gefnogi’r broses ddemocrataidd sy’n fodd i hynny ddigwydd.
Mae’n dda gen i ddweud i ni lwyddo o’r diwedd, ym mis Rhagfyr, i gwblhau’r broses o lunio’n prif gynllun ac i’r Cyngor gymeradwyo’r cynllun hwnnw. Fel yr esboniais o’r blaen, mae prif gynllun yn arwydd cyffredinol o’r cyfeiriad y byddwn ni’n ei gymryd i ddatblygu’r ystâd dros y deg i ugain mlynedd nesaf ac nid yw’n manylu ar brosiectau penodol. Ond gan ei fod yn rhan hanfodol o’r broses benderfynu pan ddaw hi’n fater o fuddsoddi cyfalaf, rwyf wrth fy modd o weld bod y cynllun yn ei le. Os oes gennych ddiddordeb, cewch wybod rhagor amdano yma.
Yn olaf, byddwch chi’n gwybod bod UUK a’r UCU wedi gallu dod i gytundeb ar fater pensiynau ac felly na fydd y gweithredu diwydiannol sydd wedi’i ohirio ers mis Tachwedd yn ailgychwyn. Nid yw’n achos dathlu am nad oes ar neb eisiau bod mewn sefyllfa i orfod diwygio darpariaethau pensiwn yr USS ond bellach mae gennym ni o leiaf ffordd adeiladol ymlaen ac mae buddiannau’r myfyrwyr wedi’u diogelu.
Gyda dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014