Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Dyfodol Caerdydd

2 Chwefror 2015

Dyfodol Caerdyddyw rhaglen ddatblygu yr Is-Ganghellor ac mae’n gyfle i staff academaidd ddatblygu eu llwybrau gyrfa a helpu i gyfrannu at lywio dyfodol y Brifysgol. Mae’r rhaglen yn rhedeg am flwyddyn ac yn cynnwys prosiect grŵp, ac mae noddwr i bob prosiect. Pleser mawr yw noddi’r ddau brosiect eleni. Mae’r naill yn astudio cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws y Brifysgol a’r llall yn ystyried cynaladwyedd yn yr ystyr ehangaf ar draws y Brifysgol. Mae elfennau cyffredin i’r prosiectau am fod ar y ddau grŵp eisiau cychwyn drwy astudio’r data a’r ystadegau, ond mae gennym ni lwyth o’r rheiny’n barod a gall hi fod yn rhwystredig iawn gwneud dim ond edrych ar y data a dweud ein bod ni’n gwneud yn dda neu heb fod yn gwneud cystal. Mae’r grwpiau wedi cytuno, felly, i hoelio’u sylw ar yr ymarfer gorau ledled y byd ac yna gallwn ni weld yr hyn y gallem ni yma’i fabwysiadu yn y ddau faes pwysig hynny. Gwyliwch y gofod hwn! Edrychaf ymlaen at weld pa welliannau y cynigiant ein bod ni’n ystyried eu cyflwyno.