Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Y Bobl a’r Blaned

28 Ionawr 2015

Tablau cynghrair sy’n cael y sylw i gyd ar hyn o bryd ac er nad oes dim dal arnyn nhw bob tro, maen nhw’n un ffordd y mae’r byd y tu allan yn ein barnu ni. Mae’n galondid mawr, felly, pan wnawn ni’n dda ac mae’n bwysig dathlu hynny. Tynnodd fy mlog diwethaf sylw at ein perfformiad arbennig yn ddiweddar ym mynegai Stonewall o Gydraddoldeb yn y Gweithle. Maes arall lle’r ydyn ni’n symud yn ein blaen yw’r People and Planet University League (y ‘Green League’ gynt), sef asesiad cynhwysfawr ac annibynnol o 151 o brifysgolion y DU o’u heffaith amgylcheddol a chymdeithasol ar y byd. Daethom yn 46ain eleni, gan godi 39 lle o’r 85ain safle pan gyhoeddwyd y canlyniadau ddiwethaf yn 2013. Gan ein bod ni’n Brifysgol ymchwilddwys sydd ag amryw byd o hen adeiladau, daliwn i wynebu llu o heriau amgylcheddol ond mae’n amlwg ein bod ni’n symud ymlaen yn y maes pwysig hwn. Cawsom 2:1 yn gyffredinol a sgôr o 100% am ein polisi, ein harchwiliad a’n rheolaeth a’n heffaith ar yr amgylchedd. Mae’n hymdrechion ni wedi’u cydnabod ac yr ydym wedi cyflawni rhywbeth i ymfalchïo ynddo, ond mae angen i ni’n awr gymryd y cam nesaf a sicrhau y caiff arferion ac egwyddorion cynaladwy eu gwreiddio yn ein diwylliant. Mae llawer o waith i’w wneud o hyd, gan bob un ohonon ni. Rhaid mai’n dyhead yw datblygu’n un o’r prifysgolion gwyrddaf yn y DU ac yn un sy’n gosod y safon i gyrff a sefydliadau eraill.