Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 12 Ionawr 2015
12 Ionawr 2015- Croesawodd y Bwrdd yr Athro Nora de Leeuw, y Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop, i’w chyfarfod cyntaf o’r Bwrdd.
- Cafodd y Bwrdd achos busnes dros sefydlu Academi Meddalwedd Genedlaethol a fydd â’i chanolfan yng Nghasnewydd. Adeiladai hwnnw ar bapur cynharach a aeth gerbron y Bwrdd ar 30 Mehefin 2014 a sicrhau cymeradwyo cyd-ariannu blwyddyn beilot i’r Academi Meddalwedd gan Brifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Mae’r flwyddyn beilot yn golygu bod myfyrwyr cyfredol o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn gwneud eu blwyddyn mewn diwydiant yng Nghasnewydd fel ffordd o dreialu datblygiad cysylltiadau â diwydiant. Mae adborth cychwynnol y myfyrwyr perthnasol wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae’r Academi’n agor amryw o gyfleoedd i’r Brifysgol, gan gynnwys y posibilrwydd o greu cysylltiadau cryfach â chwmnïau meddalwedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Caiff canlyniad trafodaethau’r Bwrdd ei gyhoeddi cyn hir.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Adroddiad Misol y Prif Ddirprwy Is-Ganghellor
- Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Tynnwyd sylw ynddo at berfformiad y Coleg yn yr REF ac at benodi dau Ddeon Cyswllt yn y Coleg. Cynigiai hefyd ddiweddariad ynghylch partneriaeth Beijing Normal a Phrifysgol Caerdydd. Dros dro, trefnir i’r bartneriaeth honno gael ei lansio’n ffurfiol yn Llundain neu Gaerdydd ym mis Mai 2015 fel rhan o’r Ddeialog rhwng Pobl y DU a Phobl Tsieina.
- Adroddiad Misol y Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu ar Weithgareddau Ymgysylltu. Cyfeiriwyd ynddo at lwyddiant y lansio mewnol ar y Prif Brosiectau Ymgysylltu ar 15fed Rhagfyr – digwyddiad y daeth 150 o staff a myfyrwyr iddo. Mae’r ystadegau am ddigwyddiadau cyhoeddus wedi’u cyflwyno fel rhan o’r wybodaeth flynyddol i arolwg yr HEBCI ar gyfer HEFCE. Daeth dros 260,000 o bobl i’r digwyddiadau a redwyd gan Gaerdydd a threuliwyd 413 o ddiwrnodau academaidd ar gynllunio/cyflwyno’r gweithgareddau.
- Adroddiad Misol y Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu ar Ymchwil ac Arloesi. Mae Ymddiriedolaeth Leverhulme wedi gwahodd cynigion i greu Canolfannau Ymchwil Leverhulme. Caiff pob Canolfan hyd at £10 miliwn dros ddeg mlynedd i wneud “ymchwil arloesol ac iddi’r uchelgais ddeallusol ac academaidd uchaf”. Y dyddiad cau i geisiadau amlinellol yw 16 Ebrill 2015 ac mae proses fewnol wedi’i chychwyn i benderfynu ar bwnc o ddewis y Brifysgol.
- Adroddiad Misol y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata. Y prif weithgaredd oedd cyfleu canlyniadau REF 2014. Yn ogystal â chael sylw helaeth yn y cyfryngau, denodd tudalennau’r REF a’r storïau newyddion ar y we dros 58,000 o ymweliadau â’r tudalennau at 18 Rhagfyr. Cyfeiriwyd hefyd at lansio’r cylchgrawn ymchwil, Herio Caerdydd. Mae eitem ynghylch dathlu Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Caerdydd wedi’i rhoi ar y we, gan gynnwys y ffaith fod yr Athro Teresa Rees o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Dirprwy Is-Ganghellor Cyswllt, wedi’i henwi’n Fonesig-Gomander o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014