Ymgysylltu â’r Almaen
5 Rhagfyr 2014Oherwydd fy nghefndir academaidd a’m Halmaeneg rhugl, bydda i’n aml yn cael gwahoddiad gan brifysgol neu ryw gorff arall sy’n ymwneud ag addysg uwch i fynd ar ymweliadau byr â’r Almaen. Mae’n gyfle pellach i dynnu sylw at Gaerdydd a chodi syniadau gan bobl eraill yn ogystal â chyfrannu o’r hyn rwyf wedi’i ddysgu o ’mhrofiad i yma. Rwy’n aelod o Gyngor Rhyngwladol Prifysgol Rydd Berlin, er enghraifft, ac yn y cyfarfod blynyddol ym mis Tachwedd 2014 fe drafodon ni eu strategaeth o ddatblygu’n ‘brifysgol rwydwaith ryngwladol’, un sy’n debyg i’n nod ni o sicrhau dau bartner rhyngwladol agos (Leuven yw’r cyntaf ohonyn nhw). Mae hi bob amser yn fuddiol cymharu’r hyn a wnawn ni â’r hyn y mae prifysgolion nodedig eraill yn ei wneud.
Yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr, rhoddais ddarlith ym Mhrifysgol Rostock cyn mynd i gyfarfod o Gyngor Menter Ragoriaeth Prifysgol Bremen. Y stori fawr ym myd yr economi tra oeddwn i yno oedd hollti E.on, y cwmni ynni mawr o’r Almaen, yn ddau gwmni newydd: bydd ‘Eon Future’ yn hoelio’i sylw ar ddefnyddiau adnewyddadwy, y grid cenedlaethol a defnyddwyr, ac ‘Eon Classic’ yn delio ag ynni niwclear, gorsafoedd cynhyrchu sy’n llosgi glo, a masnachu nwy ac ynni. Canlyniad yw hynny i’r hyn sy’n cael ei alw yn yr Almaen yn ‘Energiewende’, sef y ‘shifft ynni’ lle mae’r llywodraeth, er mwyn hybu’n gryf y symud at ddefnyddio defnyddiau adnewyddadwy, yn rhoi cymorthdaliadau blynyddol o ryw €23bn i’w gwneud hi’n aneconomaidd cynhyrchu ynni drwy’r dulliau ‘traddodiadol’. Ofn y beirniaid ‘gwyrdd’ yw mai troi’n ‘fanc drwg’ y system ynni wnaiff ‘Eon Classic’ ac mai’r trethdalwr, yn y pen draw, fydd yn talu cost datgomisiynu’r holl offer a ddefnyddir i gynhyrchu ynni niwclear, glo a nwy. Elfen sy’n cymhlethu’r broblem yw bod sylwebwyr amgylcheddol blaenllaw – a George Monbiot yn eu plith ym Mhrydain – yn dadlau’n gryf bod gan ynni niwclear rôl hollbwysig i’w chwarae am mai allyriadau carbon yw’r gwir fygythiad ac y dylen ni felly, lle bynnag y gallwn ni, fod yn canolbwyntio ar ddefnyddio ynni niwclear yn hytrach na thanwyddau ffosil. Yn yr Almaen, mae hanes y protestio gwrth-niwclear yn golygu bod hynny’n wleidyddol amhosibl, ond nid yw’n cynnig ateb i’r cwestiwn sut mae cadw’r goleuadau ynghynn yn gyson ac yn ddibynadwy. Yn absenoldeb ynni niwclear, does dim ateb i hynny ar hyn o bryd. Er nad yw’r syniad yn apelio aton ni efallai, hyd y gallwn ni weld bydd angen defnyddio tanwyddau ffosil yn y dyfodol. Mae’n dibyniaeth ni arnyn nhw’n aruthrol ar hyn o bryd; o’r ffynhonnell honno y daw’r rhan fwyaf o lawer o’r ynni a gynhyrchir yma a does dim ateb cyflym er ein bod ni wedi ymrwymo i gwtogi ar allyriadau carbon dros amser os oes unrhyw obaith o atal y newid yn yr hinsawdd. Ni all neb ddianc rhag y ddibyniaeth honno; yr eiliad y cyneuwch chi olau neu yr ewch chi ar fws, rydych chi’n defnyddio ffrwyth proses sy’n allyrru carbon, serch y gall hynny ragori ar deithio mewn car, ac er eich bod chi efallai wedi diffodd yr holl oleuadau eraill yn y tŷ. Bathodd Uwe Johnson, yr awdur o’r Almaen y lluniais fy nhraethawd PhD arno ac un a oedd yn gyfarwydd iawn â Rostock, ymadrodd bachog i gyfleu anhawster ceisio peidio â chael ein llygru’n foesegol mewn byd lle mae popeth wedi’i blethu i’w gilydd, sef ‘nad oes yr un Swistir foesol y gallwn ni ymfudo iddi’. Rhaid mai’r ateb i hyn yw cwtogi cymaint ag y gallwn ni ar ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil a chymryd pob cam rhesymol-bosibl, fel unigolion ac fel sefydliad, i wneud hynny. Ni fydd ceisio ymwrthod â thanwyddau ffosil yn gwneud iddyn nhw fynd i ffwrdd, ac er bod gwahanu Eon, o leiaf yn yr achos penodol hwnnw, yn peri bod hynny’n gam a fyddai’n ymarferol-bosibl, mae problemau ymarferol aruthrol yn codi mewn llu mawr o achosion eraill ac mae cryn botensial i ni weld colledion mawr.
Dylai prifysgolion fod yn fannau lle y byddwn ni’n mynd i’r afael â chymhlethdod dyrys problemau fel y rhain ac yn peidio â’n twyllo’n hunain fod safbwynt moesegol rhwydd yn bod. Rwy’n gyrru car ‘hybrid’ oddi ar 2007 ond go brin bod diben credu y bydd hynny’n dileu defnyddio tanwyddau ffosil; yn sicr, mae ei beiriant trydan yn helpu i leihau allyriadau wrth i mi ddefnyddio’r car, ond dros oes y cerbyd dyw’r sefyllfa o ran defnyddio tanwyddau ffosil ddim yn argyhoeddi dyn cymaint. Mae llywodraeth yr Almaen wrthi’n cyflwyno pecyn mawr newydd o fesurau i gwtogi ar allyriadau carbon, gan gynnwys rhagor o gerdded a beicio a defnyddio rhagor ar gludiant cyhoeddus. Yn ein hachos ni, rwy’n gobeithio y bydd y Prif Gynllun newydd ar gyfer ystadau, sydd i’w ystyried gan y Cyngor cyn y Nadolig, a phrosiect Rhanbarth Prifddinas Caerdydd, a fydd yn cynnwys cynllun cludiant cynhwysfawr, yn ein helpu ni i allyrru llai o garbon a gronynnau niweidiol. Bydd rhan fawr i’w chwarae gan ymdrechion i gwtogi cymaint â phosibl ar ynni, ymladd gwastraff a gwella inswleiddio. Drwy fuddsoddi yn adeiladwaith y brifysgol ac addasu’n harferion personol ymhellach fyth, gallwn ni wneud cyfraniad go-iawn i daclo’r broblem. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn un real, a’i fygythiad at y dyfodol yn un difrifol; gadewch i ni sicrhau’n bod ni’n cymryd mesurau ystyrlon i’w ymladd.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014