Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Rhwydweithiau Arloesi

5 Rhagfyr 2014

Roedd yn wych gweld cymaint o staff yn y Prif Adeilad ddoe ar gyfer y lansiad mewnol o’n prosiectau ymgysylltu blaenllaw. Roedd rhai ohonoch yn syml yn awyddus i ddarganfod mwy am ein cynlluniau i helpu i drawsnewid cymunedau yng Nghymru a thu hwnt, tra bod eraill eisiau gwybod sut y gallent gymryd rhan. Mae’r pum prosiect yn anelu at wella iechyd, addysg a lles, lleihau anghydraddoldeb a mynd i’r afael â thlodi, ymhlith nodau eraill. Darllenwch fwy am sut y gallwch helpu’r prosiectau blaenllaw i lwyddo.

Tynnwyd sylw at y prosiectau hyn yn y gynhadledd ymgysylltu Genedlaethol – Ymgysylltu 2014 – ym Mryste yn gynharach y mis yma (2-3 Rhagfyr). Y prosiect Treftadaeth CAER oedd un o’r prif areithiau cyntaf gyda chyflwyniad ar y cyd gan Dr Dave Wyatt (SHARE) a’i bartner cymunedol ACE (Action in Caerau and Ely) a phreswylydd lleol yn dathlu eu llwyddiant yn ennill y wobr gyffredinol gan y Ganolfan Gydlynu Genedlaethol ar gyfer y Wobr Ymgysylltu â’r Cyhoedd eleni.   Adroddwyd bod y gweithdai ar gyfer hyn, y prosiect Ymgysylltu ag Ysgolion a ariennir gan RCUK a’r pum prosiect ymgysylltu blaenllaw hefyd yn orlawn neu’n gorlifo oherwydd y diddordeb yn ein gwaith.

Roedd hefyd yn ddiddorol clywed am gyflwyniad HEFCE gan eu Prif Weithredwr, Madeline Atkins a dynnodd sylw at y cyfeiriad teithio ar gyfer prifysgolion yn Lloegr i fod yn angorau o’r cymunedau ac fel datblygwyr manteision cymdeithasol ac economaidd fel ‘gwneuthurwyr lle’. Pwysleisiodd bwysigrwydd heriau mawr wrth yrru’r agenda o amgylch ymgysylltu â’r cyhoedd a sut mae cyllid HEFCE yn gorfodi newid yn y maes. Anogodd brifysgolion i weithio gydag ysgolion lleol, o amgylch yr agenda sgiliau lleol, gan feddwl am arloesi cymdeithasol a menter gymdeithasol a thwf economaidd lleol. Yn wir, gallai fod wedi bod yn siarad am waith Prifysgol Caerdydd o fewn y System Arloesedd a’r prosiectau ymgysylltu blaenllaw. I goroni’r cyfan, cyfeiriodd at waith Prifysgol Caerdydd ar CAER a’r Parc Gwyddorau Cymdeithasol fel rhai blaengar a Chymru ar flaen y gad o gymharu â Lloegr. Yn sicr, gwnaeth Prifysgol Caerdydd ei marc.