E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff ar gyfer mis Tachwedd
28 Tachwedd 2014Annwyl gydweithiwr
Gan ddilyn ymlaen o lansio Cynghrair GW4 yn Llundain fis diwethaf, fe gynhalion ni’r lansiad ohono yng Nghymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yr wythnos hon. Daeth cynulleidfa dda iawn yno ac roeddwn i’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ei hagwedd gadarnhaol iawn. Braf oedd teimlo’r brwdfrydedd dros y prosiect yn araith Mr Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a chyn-Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, ac roedd geiriau cefnogol Mrs Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, i’w croesawu’n fawr. Yn fy araith, pwysleisiais y bydd y cydweithio hwn o les i Gymru drwy greu màs critigol na ellid ei sicrhau fel arall. Bydd modd i ni ymgysylltu â’n rhwydweithiau yng Nghymru o GW4 mewn ffyrdd a fydd o fudd i bawb. Yn wir, gan fod Aberystwyth yn aelod o’r Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol y mae GW4 yn rhan sylweddol ohoni, mae hynny’n digwydd yn barod. Gogoniant prifysgolion, yn aml, yw bod angen i chi gydweithio i gystadlu, a chynlluniau i gydweithio’n rhanbarthol yng nghyffiniau dinasoedd sy’n tyfu’n gyflym – cynlluniau cydweithio fel GW4 – yw rhai o’r rhai mwyaf cynhyrchiol oll.
Maes y mae angen i Brifysgol Caerdydd gystadlu’n fwy effeithiol ynddo yw codi arian. Os daethoch chi i unrhyw un o’r briffiadau a roddais yn gynharach y tymor hwn i’r staff cyfan, efallai y cofiwch i ni bron â threblu’r rhoddion a’r addewidion a gawsom ni y llynedd, ond cymharol fach oedd y cyfanswm, sef £4.5m. Er bod y cydweithwyr sy’n ymwneud â’r gweithgaredd hwnnw’n ymroddedig dros ben ac wedi sicrhau rhai llwyddiannau o bwys, mae angen i ni ragori ar hynny. Dyna pam rwy’n falch iawn o gyhoeddi i ni allu gwneud penodiad rhagorol i swydd Pennaeth y Swyddfa Datblygu a Chyn-fyfyrwyr. Ar ôl y Nadolig, bydd Tania (‘TJ’) Rawlinson yn ymuno â ni o Brifysgol Bryste, lle bu hi’n gyfrifol am lwyddiant eu hymgyrch nodedig i godi £100m. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Bryste nid yn unig eu bod wedi cyrraedd y targed cyn y dyddiad cau, ond eu bod wedi rhagori arno. Felly, daw TJ atom â hanes o lwyddo’n rhagorol ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda hi.
Yn gynharach yn y mis, cymerais ran mewn trafodaeth ar banel mewn digwyddiad a drefnwyd gan y Cyngor Prydeinig a Llysgenhadaeth Tsieina, sef Fforwm Symudedd Tsieina. Fe’i cynhaliwyd i ddathlu deugain mlynedd o gydweithredu rhwng Prydain a Tsieina ynghylch cyfnewid myfyrwyr. Yr hyn a’m trawodd oedd holi bywiog iawn y gynulleidfa; er i ni fynd dros y terfyn, doedd dim digon o amser i ateb pob un o’r cwestiynau yr oedd y gynulleidfa gymysg o fyfyrwyr, staff ac eraill yn dymuno’u gofyn. Y newid mwyaf y sylwais arno, o gymharu â’r hyn y gellid bod wedi’i ddisgwyl ychydig flynyddoedd yn ôl, oedd i’r rhelyw o’r cwestiynau holi ynghylch myfyrwyr o’r DU yn mynd i Tsieina, yn hytrach nag fel arall, ac mae hynny’n cyd-fynd yn dda â’n strategaeth i sicrhau symudedd tuag allan. Cafwyd hefyd sylw perthnasol iawn, sef bod angen i ni, wrth hyrwyddo symudedd tuag allan, sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd llai breintiedig yn cael eu cynnwys a’u cynorthwyo; mae ymchwil yn dangos mai’r duedd, am amrywiaeth o resymau, yw i lawer mwy o fyfyrwyr o gartrefi cyfoethocach fynd dramor i astudio. Rwy’n sylweddoli bod hynny’n broblem, ond gair i gall oedd y sylw hwnnw i sicrhau’n bod ni’n gwneud ein gorau glas yn hyn o beth.
Cawsom ddwy ddirprwyaeth o Tsieina yn ystod y mis, y naill dan arweiniad y Llywydd Dong Qi o Brifysgol Normal Beijing (BNU) a’r llall dan arweiniad y Llywydd Zhui Chongshi o Brifysgol Xiamen. Mae’r ddwy brifysgol yn rhai rhagorol ac yn bartneriaid da iawn i Gaerdydd. Llofnodais gytundeb cydweithredu â’r Llywydd Dong Qi, a bydd hwnnw’n arwain at sefydlu Cyd-Goleg anarferol: bydd ganddo safle yma yn ogystal ag yn Tsieina a bydd yn rhoi pwys ar gael myfyrwyr o’r DU a’r UE i fynd i Tsieina. Cydlofnodais, gyda’r Llywydd Zhui Chongshi o Xiamen, lythyr sy’n mynegi bwriad i sefydlu cyd-gronfa a fydd yn fodd i gydweithredu a chyfnewid ym meysydd ymchwil ac addysgu. Mae Xiamen yn bartner ers tro byd gan mai hi yw prifysgol cartref ein Sefydliad Conffiwsiws ni: mae’n gwneud cyfraniad pwysig i’n rhaglen Ieithoedd i Bawb ac yn hyrwyddo iaith a diwylliant Tsieina mewn amrywiaeth o ffyrdd. I mi, mae’r ddau gytundeb yn wirioneddol gyffrous. Byddant yn ychwanegu dimensiynau pellach at ein cydweithredu presennol â Tsieina ac yn cynnig cyfleoedd mawr i staff a myfyrwyr pob un o’r prifysgolion perthnasol.
Rwy’n falch o ddweud bod y gweithredu diwydiannol ynghylch Cynllun Blwydd-dal y Prifysgolion wedi’i atal ers fy e-bost diwethaf, a hynny tra cynhelir trafodaethau. Mae gan y Cyd-Bwyllgor Negodi amser tan ei gyfarfod ar Ionawr 15 i ddod i gytundeb. Rwy’n credu bod awydd pendant ar y ddwy ochr i sicrhau ffordd o ddatrys y mater er gwaethaf y cymhlethdodau a’r anawsterau a amlinellais fis diwethaf. Rhaid i ni ddal i groesi’n bysedd, felly.
Rhaid croesi’n bysedd hefyd (a bysedd ein traed, yn ddelfrydol) ynghylch canlyniad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ar Ragfyr 16. Rhag i neb orfod aros eiliad yn fwy nag y bydd ei angen i gael gwybod manylion ein perfformiad ynddo, fe fydda i, cyn gynted ag y caiff y canlyniadau eu rhyddhau (00:01 ar 18 Rhagfyr), yn anfon fy e-bost misol i roi’n dadansoddiad rhagarweiniol ni ohonynt.
Gyda dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014