Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Y Gymdeithas Brydeinig er Astudio Deintyddiaeth Gymunedol (y BASCD)

13 Tachwedd 2014

Fi yw Llywydd BASCD ar gyfer 2014. Treuliais heddiw, 13 Tachwedd, yn llywio’i chynhadledd hydref yn Llundain. Am eu bod yn broblemau enfawr ym myd deintyddiaeth ac mewn cymdeithas fel ei gilydd, thema’r gynhadledd eleni oedd ‘Alcohol, Tybaco a Deiet’. Roedd y gynhadledd yn awyddus i ymchwilio ymhellach i’r problemau hynny a hefyd i’r ffordd orau o annog proffesiynolion deintyddol i sicrhau bod eu hymarfer yn cyd-fynd â’r polisi.

Bu’n ddiwrnod llawn ysbrydoliaeth. Cafwyd cyflwyniadau ar amrywiaeth o feysydd,  gan gynnwys ‘Polisi Iechyd Cyhoeddus a Siwgrau’ (mwy diddorol nag y mae’n swnio) yn ogystal â sesiwn dan arweiniad ein Hathro Simon Moore ni ar ‘Diod, Cyffuriau a Deintyddiaeth’. Diwedd perffaith i grynhoi’r cyfan oedd y sesiwn olaf ar ‘Bwydo Tystiolaeth i Bolisi ac Ymarfer’, ac os gallwn ni gyflawni hynny fe ddechreuwn ni symud ymlaen o ran taclo’r problemau hynny.