Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Cyfarfod o Fwrdd Rheoli DECIPHer

7 Tachwedd 2014

Heddiw, fe gadeiriais gyfarfod o Fwrdd Rheoli DECIPHer. Ystyr DECIPHer yw Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er lles Iechyd y Cyhoedd ac mae’n bartneriaeth strategol rhwng prifysgolion Caerdydd, Bryste ac Abertawe. Mae ei ymchwil yn hoelio sylw ar dri maes allweddol sy’n ymwneud ag iechyd pobl ifanc: tybaco, alcohol a chyffuriau; gordewdra, gweithgarwch corfforol a diet; ac iechyd meddwl a lles. Allai ei waith ddim â bod yn fwy cyffrous a pherthnasol i’r gymdeithas sydd ohoni.

 

UKCRC (Cydweithrediad Ymchwil Glinigol yn y DU) yw’r Ganolfan ac fe’i hariannir am 10 mlynedd tan 2019. Mae tair o ysgolion Caerdydd yn ymwneud â’r ymagwedd drawsddisgyblaethol hon – y Gwyddorau Cymdeithasol, Meddygaeth a Deintyddiaeth. Mae’n ymgysylltu’n gryf â chymunedau polisi, ymarfer a defnyddwyr cyhoeddus. Treuliwyd llawer o’r cyfarfod yn ystyried record y Ganolfan a’r cyfoeth godidog o ddatblygiadau y mae’n eu darparu. Gan eu bod nhw’n rhy niferus o lawer i’w rhestru yma, ewch i’w gwefan i gael gwybod rhagor amdanynt. Wrth adael y cyfarfod, teimlais i mi gael hwb o’r newydd am fod angen ein hatgoffa ni weithiau o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud o dan ein trwynau.