Caerdydd a’r Gymraeg
15 Hydref 2014O boblogaeth o 36,000 o aelodau o staff a myfyrwyr, mae’r Brifysgol yn ymfalchïo bod yma ryw 4000 o siaradwyr Cymraeg rhugl.
Mae ein hymrwymiad i ddiwylliant Cymru, y mae cyflwr yr iaith yn dibynnu cymaint arno, wedi’i amlinellu yn Y Ffordd Ymlaen 2012-17. Yma dywedir mai ein huchelgais yw bod yn sefydliad sy’n “arwain y byd”, sydd, yn ogystal ag anelu at ragoriaeth ymchwil, yn cyflawni “ei rwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a’r byd.”
Enghraifft o’r ffordd rydym yn cyflawni ein rhwymedigaeth i’r Gymraeg yw ein Cynllun Iaith Gymraeg a ddiweddarwyd yn ddiweddar. Cafodd ei gyflwyno ledled y Brifysgol ym mis Mehefin. Dogfen statudol yw’r Cynllun a baratowyd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 19993 a Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Mae’r Cynllun a gafodd gefnogaeth Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a’i amlygu’n enghraifft o arfer dda, yn dweud wrth staff a myfyrwyr sut byddwn yn parhau i weithio i wreiddio’r Gymraeg yn ein diwylliant, ein darpariaeth addysgol a’n harferion gweithio.
Prif nod y Cynllun yw newid agwedd tuag at y Gymraeg a mynd ati i hyrwyddo’r egwyddor na fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth ymdrin â staff y Brifysgol, myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr, yn ogystal â’r cyhoedd.
Hefyd un o nodau’r Cynllun yw sicrhau bod gennym ddigon o staff sy’n siarad Cymraeg i ateb anghenion ein myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd, gan gydnabod a darparu unrhyw anghenion hyfforddi sydd gan staff.
Darllenwch yma i gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r Cynllun Iaith Gymraeg yn effeithio arnoch chi, neu gwyliwch y fideo a wnaethon ni sy’n dangos staff a myfyrwyr yn rhannu eu profiadau’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau a’u hastudiaethau bob dydd.
Gwybodaeth a dolenni defnyddiol:
Rydym bellach yn cynnig 118 o fodiwlau i fyfyrwyr, y gellir eu hastudio’n gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, ar draws ystod eang o bynciau gan gynnwys y Gyfraith, Gofal Iechyd, Meddygaeth, Mathemateg, y Biowyddorau, Athroniaeth, Newyddiaduraeth a’r Gymraeg.
Mae gennym gynlluniau cyffrous i ddatblygu llawer mwy o gyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg y gallwch ddarllen amdanyn nhw ar dudalen cangen Caerdydd gwefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
I fyfyrwyr sy’n dymuno datblygu neu wella eu sgiliau Cymraeg, rydym yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau er mwyn dysgu Cymraeg yn rhan o’u rhaglen astudio, neu wrth ei hochr, gan gynnwys modiwlau annibynnol i ddechreuwyr a chymorth i sefyll Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gyda chyfleoedd dysgu allgyrsiol pellach drwy raglen “Cymraeg i Bawb” sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
Gallwn gynnig cyfle i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ymgeisio am lety sydd wedi’i neilltuo’n benodol i siaradwyr Cymraeg mewn dwy neuadd breswyl: Llys Senghennydd a Gogledd Tal-y-bont.
Mae gan Undeb y Myfyrwyr Swyddog y Gymraeg, a’i rôl yw cynrychioli buddiannau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Undeb ei hun ac ar draws y Brifysgol yn ei chyfanrwydd.
Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu Cymraeg – rydym yn cynnig nifer o gyrsiau ‘Cymraeg i Oedolion ar gyfer ystod o alluoedd o ddechreuwyr pur i ddysgwyr hyfedr.
I gael rhagor o gyngor ac arweiniad am ystod lawn gwasanaethau Cymraeg/dwyieithog y Brifysgol a’r cymorth sydd ar gael, cysylltwch â thîm y Gymraeg.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014