Y Ffordd Ymlaen
26 Medi 2014Mae’r rhifyn hwn o Blas yn rhoi’r newyddion diweddaraf ichi am ddiwygiad diweddar Y Ffordd Ymlaen. Mae’n esbonio arwyddocâd cynyddol arloesedd ac yn rhoi manylion ichi am ein Gŵyl Arloesedd ‘Camu Ymlaen/Fast Forward’. Hefyd mae’n esbonio rhai o’r prosiectau a ddeilliodd o sesiynau Y Ffordd Ymlaen: Gwneud iddo Ddigwydd y llynedd ac yn esbonio newid allweddol yng ngweithdai eleni.
Mae diwygiad Y Ffordd Ymlaen yn adlewyrchu newidiadau yn yr amgylchedd allanol. Nid yw unrhyw un o’r targedau uchel a osodon ni i’n hunain o ran perfformiad y Brifysgol wedi newid. Yr hyn sydd wedi newid, yn y cyhoeddiad newydd diwygiedig, yw’r ffocws ar arloesedd.
Mae gan Brifysgol Caerdydd ddiwylliant arloesedd ffyniannus ers tro. Mae System Arloesi Caerdydd, sydd bellach yn rhan o Y Ffordd Ymlaen, yn adeiladu ar hyn. Mae’n cynnig buddsoddiad sawl miliwn o bunnoedd i gyflwyno gweledigaeth er mwyn rhoi’r un parch i’n gweithgareddau arloesi ag a roddir i’n haddysgu a’n hymchwil. Gan weithio ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol a’r gymdeithas ehangach, byddwn yn dynfa o ran menter, creadigedd ac arloesedd i’r dinas-ranbarth. Mae’r strategaeth ddiwygiedig yn nodi sut rydym yn bwriadu gyrru twf yn rymus ac mae’n mynd i’r afael â heriau polisi, gwyddonol ac economaidd y dyfodol.
Mae Y Ffordd Ymlaen yn mynd â ni i 2017 ac rwy’n fodlon â’r cynnydd rydym yn ei wneud.
Y Ffordd Ymlaen: Mae gweithdai Gwneud iddo Ddigwydd wedi bod yn rhan allweddol o’r cynnydd hwn. Unwaith y mis, gydol 2013/14, cynhaliodd aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol (UEB) weithdy deuddydd. Roedd hon yn fenter a gyflwynais i helpu staff i ymgysylltu â’n gweledigaeth strategol. Fi arweiniodd y sesiwn gyntaf gyda phob aelod o’r Bwrdd yn cymryd rhan, a chynhaliwyd y sesiynau dilynol ar yr un patrwm.
Rwy’n sylweddoli nad yw hi’n hawdd cymryd diwrnodau i ffwrdd o’r swyddfa, ond rwy’n credu y gallant fod yn ddefnyddiol o dro i dro. Mewn gwirionedd, yr adborth a gawson ni o bob sesiwn oedd bod yr ‘amser i ffwrdd’ yn werthfawr ac yn fuddiol. Rhoddodd y sesiynau amser a lle i staff edrych ar Y Ffordd Ymlaen, archwilio’r pedair thema, eu cysylltu â’u meysydd gwaith a deall yr effaith ar feysydd eraill. Gwn fod pob un o’m cydweithwyr ar y Bwrdd wedi mwynhau hwyluso’r sesiynau, ac roedd y rhai a gymerodd ran yn gwerthfawrogi cael cwrdd â phobl o bob rhan o’r Brifysgol. Gwelwyd bod y cyfle i ddod i adnabod cydweithwyr o feysydd nad oedd ganddyn nhw gysylltiad â nhw fel arfer – boed rhai academaidd neu broffesiynol – yn arbennig o werthfawr.
Hyd yma mae ychydig dros 300 aelod o staff wedi bod ar y rhaglen. Gan i’r adborth fod mor gadarnhaol, rydym wedi penderfynu rhedeg rhaglen debyg yn ystod 2014/15. Y gwahaniaeth mawr eleni yw bod gwahoddiad i bawb ymgeisio os ydych chi’n dymuno hynny. Y llynedd gofynnwyd i Benaethiaid Colegau a Phenaethiaid isadrannau Gwasanaethau Proffesiynol enwebu staff; eleni cewch eich enwebu eich hun. Felly os nad aethoch chi i weithdy Gwneud iddo Ddigwydd y llynedd, ac yr hoffech wneud hynny, cofrestrwch, da chi.
Bydd y sesiwn gyntaf ym mis Tachwedd ac eto rydym yn bwriadu rhedeg sesiwn bob mis. Bydd aelod o’r Bwrdd yn arwain pob un a bydd y fformat a’r cymysgedd o staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol yn debyg. Eto byddwn yn edrych ar ein pedair thema allweddol ac yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr drafod sut mae’r cyfeiriad strategol yn effeithio arnoch chi a’r meysydd rydych chi’n gweithio ynddyn nhw. Bydd rhai pethau newydd hefyd i’n cadw ar flaenau ein traed.
Gobeithio y bydd y wybodaeth hon ar y llu prosiectau sy’n cael eu symud ymlaen yn eich annog i gofrestru a gwneud gwahaniaeth.
Rwy’n edrych ymlaen at arwain sesiwn fy hun, ac yn gobeithio eich gweld chi yno.
Yr Athro Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014