Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Fy Sefydlu’n Aelod o Gomisiwn Fulbright

15 Medi 2014

Nod Comisiwn Fulbright, a sefydlwyd ym 1948, yw meithrin dealltwriaeth ddiwylliannol drwy gyfrwng cyfnewidiadau addysgol rhwng Prydain a’r Unol Daleithiau. Cefais gais ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf i fod yn aelod o Fwrdd y Comisiynwyr. Pleser mawr oedd derbyn gan fod meithrin cysylltiadau cyfnewid addysgol yn beth pwysig iawn i mi am ei fod o les aruthrol i unigolion a sefydliadau. Mae myfyrwyr Fulbright hefyd o’r safon uchaf: mae 28 o gynfyfyrwyr Fulbright wedi bod yn benaethiaid gwladwriaeth neu lywodraeth. Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn un o bartneriaid Fulbright ers amser maith. Fe es i i’r Sesiwn Sefydlu yn Llundain a chael fy atgoffa o’u holl waith da, eu nodau a’u gweledigaeth.