Urddas a pharch i bawb
21 Tachwedd 2023Y Dirprwy Is-Ganghellor, Damian Walford Davies, yn pwysleisio pa mor bwysig yw trin pobl ag urddas a pharch yn ystod cyfnod llawn tensiwn a phryder.
Un o brif gryfderau cymuned y Brifysgol yw ei hamrywiaeth, sy’n golygu bod gwahanol safbwyntiau a chredoau i’w cael.
Mae hyn wedi bod ar flaen fy meddwl, wrth i mi wylio (fel llawer ohonoch chi) y digwyddiadau trasig sy’n datblygu o hyd yn y Dwyrain Canol, a hynny yn ystod cyfnod o wrthdaro ehangach ledled y byd. Mae’r Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner, wedi ysgrifennu atoch chi’n barod mewn perthynas â’r hynny a ddigwyddodd ar 7 Hydref a’r hyn sydd wedi digwydd ers hynny. Rydyn ni’n gwbl ymwybodol o bryderon ein staff a’n myfyrwyr, ac yn eu deall yn llwyr, wrth i’r gwrthdaro yn Gaza barhau.
Yn y cyd-destun hwn, roeddwn i am atgoffa ein cymuned – gan mai dyna’n union yw hi ac y mae angen iddi fod – o’r angen i drin pobl ag urddas a pharch. Mae’n rhaid i’n prifysgol fod yn lle diogel. Byddwn ni – pob un ohonon ni – yn dewis peidio â goddef aflonyddu a gwahaniaethu o unrhyw fath. Byddai rhai, yn siŵr, am i’r Brifysgol gymryd safiad clir ar y gwrthdaro. Mater o egwyddor yw ein bod yn rhoi pwyslais, mewn negeseuon fel hyn, ar y pethau sy’n ein huno: diogelu ein staff a’n myfyrwyr a chondemnio aflonyddu ac ysgogi o bob math.
Mis Ymwybyddiaeth o Islamoffobia yw hi, ac rydyn ni’n iawn i dynnu sylw at hyn. Ar yr un pryd, nid ydyn ni’n gwahaniaethu o gwbl rhwng un mis a’r 11 mis arall, nac rhwng un math a math arall o wahaniaethu. Mae hyn yn cynnwys gwrth-semitiaeth. Byddwn ni’n galw ymddygiad o’r fath allan ac yn gweithredu arno pan fyddwn ni’n ei weld.
Ar yr un pryd, mae’n iawn nad yw ein hymrwymiad cadarn i ryddid barn o dan y gyfraith yn gwywo.
Os bydd unrhyw un yn aflonyddu arnoch chi neu’n gwahaniaethu yn eich erbyn, rydyn ni’n eich annog yn gryf i roi gwybod am hyn.
Cefnogaeth sydd ar gael i staff
Gall staff gysylltu â Care First, ein rhaglen cymorth i weithwyr, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae Care First yn cynnig llinell gymorth, adnoddau cyfrinachol, a chwnsela wyneb yn wyneb neu dros y ffôn yn rhad ac am ddim.
Rydym yn cynnig cefnogaeth fugeiliol ac ysbrydol i holl aelodau o gymuned y Brifysgol ni waeth os oes gennych ffydd benodol. Gallwch gysylltu ag un o’n caplaniaid a byddant yn trefnu amser i gwrdd â chi neu gallwch eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun sy’n gynrychiolydd o draddodiad ffydd eich hun.
Cael gafael ar gymorth – myfyrwyr
Os ydych chi’n poeni am effaith digwyddiadau diweddar ar eich astudiaethau, cysylltwch â’ch tiwtor personol i drafod ein polisi amgylchiadau esgusodol.
Cysylltwch â Cyswllt Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr i gael mynediad at unrhyw un o’n gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys cwnsela a chyngor lles.
Gallwch gael cyngor annibynnol gan Undeb y Myfyrwyr. Mae’r tîm Cyngor i Fyfyrwyr yn darparu cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim.
Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth fugeiliol ac ysbrydol i holl aelodau’r gymuned brifysgol p’un a oes gennych unrhyw ffydd benodol. Gallwch gysylltu ag un o’r caplaniaid a byddant yn trefnu amser i gwrdd â chi, neu gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â chynrychiolydd o’ch ffydd eich hun.
Parch at bob aelod o’n cymuned
Mae gennym ymagwedd dim goddefgarwch tuag at hiliaeth, gwrthsemitiaeth, Islamoffobia, camdriniaeth, annogaeth neu aflonyddu yn ein prifysgol.
Os ydych chi neu unrhyw un rydych chi’n ei adnabod wedi profi, neu’n profi troseddau casineb neu unrhyw fath o ymddygiad treisgar a cham-drin, mae help ar gael i chi. Eich dewis chi yw p’un a ydych chi’n dweud wrth rywun am eich profiad, ond gallwch gael gafael ar gymorth cyfrinachol, anfeirniadol ac arbenigol gan ein Tîm Ymateb i Ddatgeliadau (DRT).
Gallwch gael gafael ar gymorth y DRT ni waeth a ydych am riportio’r digwyddiad yn ffurfiol i’r Heddlu neu’r brifysgol.
Sicrhau eich bod yn teimlo’n ddiogel ar y campws
Mae gan y brifysgol gefnogaeth diogelwch ar gael 24 awr y dydd a gellir cael gafael ar hyn unrhyw bryd drwy ffonio +44 (0)29 2087 4444, neu estyniad 744444 o linell dir prifysgol.
Ein ap SafeZone yw eich ffordd gyflym a hawdd i rybuddio ein tîm Diogelwch os oes angen help neu gymorth arnoch tra ar y campws. Os ydych oddi ar y campws bydd yr ap yn hysbysu’r heddlu bod angen cymorth arnoch.
Hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Dyma wybodaeth am hyfforddiant, yn cynnwys:
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014