Prifysgol Caerdydd, colofn Barn y Brifysgol
15 Tachwedd 2023Mae’n ddau fis, bron iawn, ers imi ymgymryd â swydd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd.
Cefais fy nenu i Gaerdydd oherwydd fy mod yn gallu gweld pwysigrwydd y Brifysgol i’r wlad fach, uchelgeisiol a blaengar hon. Mae gennym ni botensial enfawr – a chyfrifoldeb enfawr – i ddefnyddio ein harbenigedd, ein chwilfrydedd a’n gwybodaeth i wneud bywyd yn well i bobl Cymru yn bennaf oll yn ogystal ag i’r byd ehangach.
Mae gennym gymuned o bobl dalentog ac eithriadol sy’n poeni go iawn am ddyfodol y Brifysgol ac yn gwneud cyfraniad ystyrlon i’r gymdeithas.
Rwy’n mwynhau dod i adnabod ein staff a’n myfyrwyr yn fawr. Dywedais yn ddiweddar mewn neges at y staff nad ydw i o’r farn bod ein staff yn gwybod pa mor dda ydym. Ymddengys Prifysgol Caerdydd yn sefydliad gweddol ddiymhongar, ond dylem wella’r ffordd rydym yn mynd ati i ddathlu ein llwyddiannau â balchder.
Wedi dweud hynny, rwyf wedi ymgymryd â swydd yr Is-Ganghellor ar adeg hynod greiddiol i brifysgolion. Yn blwmp ac yn blaen, mae ein sefyllfa ariannol yn anghynaliadwy. Bellach, nid yw ffioedd dysgu gartref yn talu am y costau addysgu. Mae disgwyliadau myfyrwyr ohonom wedi cynyddu. Mae ffioedd cartref wedi aros yr un fath yn ystod y deg mlynedd ddiwethaf ond ar ben hynny mae’r uned adnoddau sydd ar gael i ariannu addysg a phrofiad pob myfyriwr wedi gostwng. Yn gynyddol rydym yn rhoi cymhorthdal i gost ymchwil o’n cyllidebau ein hunain.
Mae’n gadael prifysgolion fel Caerdydd – a’r sector yn ei gyfanrwydd – mewn sefyllfa heriol. Rydym yn ffodus iawn bod cymuned gref a bywiog o fyfyrwyr rhyngwladol sy’n dod ag amrywiaeth a safbwyntiau gwahanol i’n hystafelloedd dosbarth. Fodd bynnag, mae nifer y prifysgolion sy’n ceisio ehangu’n gyflym nifer y myfyrwyr rhyngwladol y maent yn eu haddysgu ar gynnydd, a hynny yn sgil y ffioedd uchel y mae’r myfyrwyr hyn yn eu talu.
Mae marchnadoedd rhyngwladol yn anhygoel o gythryblus ar ôl y pandemig ac mae rhethreg llywodraeth y DU ar fewnfudo yn peri bod y DU yn fwyfwy yn ddewis llai poblogaidd i fyfyrwyr rhyngwladol sy’n cael eu croesawu i’r Unol Daleithiau, Awstralia a Chanada.
Mae gennym staff sy’n dadlau dros gyflog gwell. Rydym yng nghanol argyfwng costau byw. Mae ein myfyrwyr eisiau cefnogaeth a chymorth gennym i’w hamddiffyn rhag yr argyfwng hwn; ond rydym hefyd yn gweld bod sylfaen ein costau ein hunain yn codi o ran popeth, boed yn fwyd neu’n ynni.
Mae’r ffordd y mae prifysgolion wedi bod yn gweithio yn ystod y degawdau diwethaf bellach yn y fantol.
Pan fyddwch chi’n ymgymryd â rôl uwch-arweinydd fel Is-Ganghellor, bydd llawer yn edrych atoch i gael yr atebion i’n heriau mwyaf. Rwyf wedi bod yn glir wrth ymateb nad oes gennyf yr holl atebion, ond yr hyn y mae gennyf helaethder ohono yw rhai o’r meddyliau gorau i fanteisio arnynt. Dyna pam y penderfynais lansio Y Sgwrs Fawryn fuan iawn ar ôl imi ddechrau swydd yr Is-Ganghellor.
Ymarfer ymgynghorol ar y cyd yw hwn i ddeall y newidiadau y mae’n rhaid i Brifysgol Caerdydd eu gwneud i sicrhau ei bod yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Yn ogystal â staff a myfyrwyr, mae gan randdeiliaid allanol boed yn llywodraeth, yn fyd diwydiant neu’n gymunedau hefyd ran bwysig i’w chwarae yn ein sgwrs. Bydd yn arwain at ddatblygu ein strategaeth newydd yn y Flwyddyn Newydd.
Gallaf eisoes synhwyro bod ein staff yn derbyn nad yw aros yr un peth yn opsiwn. Bydd gofyn inni flaenoriaethu. Bydd hyn yn anochel yn golygu gwneud penderfyniadau anodd am atal neu gyfyngu ar rai gweithgareddau, newid y ffordd rydym yn gweithio a thorri tasgau nad ydynt yn ychwanegu gwerth.
Wrth imi ystyried y daith o’n blaenau, byddaf yn meddwl am y Fonesig Athro Teresa Rees, gwyddonydd cymdeithasol ysbrydoledig a dylanwadol a fu farw’n ddiweddar. Mae dylanwad Terry ar gadarnhau hawliau menywod yn y Gymru fodern a thu hwnt wedi’i ddogfennu’n dda. Llai adnabyddus yw ei rôl wrth lunio Prifysgol Caerdydd a’i gallu rhyfeddol i fynd â phobl ar daith a oedd yn golygu newidiadau, hyd yn oed pan oedd y daith honno’n anodd.
Byddaf yn cael fy ysbrydoli gan ei hesiampl wrth inni lywio ein llwybr newydd.
Wendy Larner
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014