Gwrthdaro yn y Dwyrain Canol: mae cymorth a chyngor ar gael
18 Hydref 2023Mae’r Is-ganghellor yr Athro Wendy Larner yn estyn ei chydymdeimlad i bawb yr effeithiwyd arnynt gan ddigwyddiadau diweddar, ac yn ein hatgoffa ill dau o’r gefnogaeth sydd ar gael, ac o bwysigrwydd cefnogi ein gilydd.
Mae’r digwyddiadau yn y Dwyrain Canol dros y pythefnos diwethaf wedi peri cryn ofid i sawl aelod o’n cymuned. Mae nifer o’n staff a’n myfyrwyr yn disgwyl gwybodaeth am eu teulu a’u ffrindiau yn Israel ac yn Gaza. Mae eraill yn ofni dioddef aflonyddwch a thrais, wrth i nifer y digwyddiadau hiliol, gwrthsemitig ac Islamoffobaidd gynyddu ledled y DU. Hoffwn ddiolch i’r rhai ohonoch sydd wedi ysgrifennu ataf i rannu eich profiadau a’ch ofnau. Mae fy nghydymdeimlad dwysaf â phawb y mae’r drasiedi newydd hon yn effeithio arnynt.
Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i atgoffa pawb bod pob un aelod o’n cymuned yn haeddu cael eu trin ag urddas a pharch. Mae’r safbwyntiau, profiadau a chefndiroedd amrywiol yn ein cymuned yn ein gwneud ni’n gryfach. Mae gennym ni’r hawl i anghytuno’n barchus â’n gilydd, wrth gwrs. Fodd bynnag, dydy gwahaniaethu ar sail hil, crefydd neu gred byth yn dderbyniol o dan unrhyw amgylchiadau. Fydd hiliaeth, gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia ddim yn cael eu goddef ar y campws.
Rydyn ni wedi rhoi cyngor i’r rhai y mae’r gwrthdaro’n effeithio arnyn nhw. Mae’n esbonio ym mha ffordd y gallwn ni helpu ein myfyrwyr. Mae gwybodaeth isod am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i’r staff. Os ydych chi’n cael trafferth ymdopi, cysylltwch â’ch rheolwr llinell neu Bennaeth eich Ysgol neu adran. Rwy’n deall bod hanes hir ym Mhrifysgol Caerdydd o bobl yn cefnogi ei gilydd ar adegau anodd. Felly, rwy’n gofyn i bob un ohonoch chi barhau â’r traddodiad hwnnw a gofalu am eich gilydd, yn enwedig y rhai y mae hyn yn effeithio arnyn nhw fwyaf.
Mae cymorth a chyngor ar gael
Rydyn ni’n deall bod y digwyddiadau yn y Dwyrain Canol yn dal i beri gofid a straen i sawl aelod o gymuned y brifysgol.
Rydyn ni’n cydymdeimlo’n fawr â phawb y mae’r digwyddiadau hyn yn effeithio arnyn nhw.
Mae cymorth ar gael os bydd angen, a’n blaenoriaeth yw gwneud yn siŵr bod y brifysgol yn dal i fod yn lle diogel i bawb.
Mae gennym ni hanes cryf o ddod ynghyd i ddangos cefnogaeth i’n gilydd ar adegau anodd fel y rhain. Os ydych chi’n poeni amdanoch chi eich hun neu bobl eraill o’ch cwmpas, cysylltwch â ni.
Parchu pob aelod o’n cymuned
Nid ydyn ni’n goddef hiliaeth, gwrthsemitiaeth, Islamoffobia, camdriniaeth, ysgogiad nac aflonyddwch yn y Brifysgol o gwbl.
Gall myfyrwyr sy’n dioddef neu’n dyst i’r pethau hyn hysbysu’r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau.
Dylai’r staff roi gwybod am unrhyw achosion i’w rheolwr llinell, yn unol â’r polisi Urddas yn y gwaith ac wrth astudio. Mae’r dulliau hyn o roi gwybod am achosion ar gael i’w defnyddio gan bob aelod o’n cymuned, p’un a ydyw wedi dioddef achos neu wedi bod yn dyst i achos.
Gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo’n ddiogel ar y campws
Mae cymorth diogelwch ar gael gan y brifysgol 24 awr y dydd. Gallwch chi gael cymorth o’r fath unrhyw bryd drwy ffonio +44(0)29 2087 4444 (neu 74444 o linell dir yn y brifysgol).
Ap sydd ar gael i bob myfyriwr ac aelod o’r staff yw SafeZone er mwyn ei gwneud hi’n haws cysylltu â’r Adran Diogelwch yn uniongyrchol o ffôn symudol. Mae rhagor o wybodaeth am SafeZone a sut i’w lawrlwytho ar gael yma. Mewn argyfwng, dylech chi ffonio 999 a gofyn am y gwasanaeth priodol.
Cymorth i’r staff
Mae’r staff yn gallu cael cymorth gan Care First, a bydden ni’n annog yr aelodau hynny o’r staff y mae’r digwyddiadau wedi effeithio arnyn nhw i gysylltu â’u rheolwr llinell neu Bennaeth yr Ysgol/Pennaeth yr adran yn y Gwasanaethau Proffesiynol.
Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth bugeiliol ac ysbrydol i bawb sy’n rhan o gymuned y Brifysgol, p’un a ydyn nhw’n dilyn ffydd penodol neu beidio. Gallwch chi gysylltu ag un o’r caplaniaid, a fydd yn trefnu amser i gwrdd â chi. Fel arall, gallwn ni eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun sy’n cynrychioli eich ffydd eich hun.
Cymorth i fyfyrwyr
Gall myfyrwyr gysylltu â’r tîm Cyswllt Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr er mwyn defnyddio unrhyw rai o’n gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys cael cyngor cwnsela a lles.
Gall myfyrwyr hefyd gael cyngor annibynnol gan Undeb y Myfyrwyr. Gallwch chi gysylltu â’r tîm Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr i gael cyngor cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim, a hynny drwy ebostio advice@caerdydd.ac.uk, ffonio +44(0)29 2078 1410 neu fynd i weld y tîm yn bersonol ar drydydd llawr Undeb y Myfyrwyr rhwng 09:30 a 16:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os bydd myfyriwr yn poeni am effaith y digwyddiadau diweddar ar ei addysg, gall gysylltu â’i diwtor personol a thrafod ein polisi Amgylchiadau esgusodol.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014