Neges gan yr Is-Ganghellor
30 Awst 2023Annwyl gydweithiwr
Dyma’r ebost olaf y byddaf yn ei anfon atoch cyn gorffen ar 31 Awst. Hwyrach y byddai pob un ohonom wedi dymuno dechrau mwy ffafriol i’r flwyddyn academaidd newydd i groesawu fy olynydd, yr Athro Larner, ac yn benodol y byddai’r anghydfod ag UCU wedi’i ddatrys. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol ar y mater hwnnw ers fy ebost diwethaf, ac mae’r niferoedd sy’n cymryd rhan yn y boicot marcio ac asesu wedi lleihau’n sylweddol iawn. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gallu tawelu meddwl llawer o’n myfyrwyr y byddant yn derbyn set gyflawn o farciau erbyn diwedd mis Medi. Rwyf yn gobeithio’n fawr y gellir datrys yr anghydfod ac y bydd pob myfyriwr yn cael set gyflawn o farciau cyn bo hir, ond fel y gwyddoch, dyma fater ar lefel y DU gyfan sy’n cael ei drin gan negodwyr cenedlaethol UCEA ac UCU, a’r priod aelodau sy’n rhoi mandad i bob un ohonynt.
Mae nifer y derbyniadau israddedig wedi mynd rhagddynt yn weddol foddhaol, ond fel bob tro, mae recriwtio myfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol yn allweddol i ddyfodol y Brifysgol ac mae llawer o waith i’w wneud o hyd o ran hynny. Mae llawer o ffactorau allanol yn effeithio ar y maes hwn, yn anad dim y polisi ar fisâu a’u prosesu ar lefel llywodraeth y DU, ond gwn y bydd cydweithwyr ar draws y Brifysgol yn gwneud cryn ymdrech i gael y maen i’r wal fel y gallwn gyrraedd ein targedau cyn belled ag y bo modd.
Fel arfer, mis tawel fydd mis Awst ac am y rhan fwyaf o fy amser yn Is-Ganghellor yma nid wyf wedi anfon ebost mis Awst am y rheswm hwnnw. Ni chawsom yr un mis tawel oherwydd Covid wrth gwrs, ac mae eleni yn wahanol oherwydd fy mod yn gadael, ond erys y ffaith mai cymharol ychydig sydd i’w adrodd.
Mewn ebyst diweddar rwyf wedi myfyrio ar sut mae pethau wedi mynd yn ystod fy nghyfnod yn y swydd, ond teimlaf ei bod yn adeg i edrych yn ein blaenau. Mae dechrau newydd bob amser yn rheswm dros optimistiaeth, ac mae llawer o resymau eraill dros fod yn obeithiol am y dyfodol. Rwyf o’r farn ein bod wedi gwneud cynnydd aruthrol o ran meithrin ein hunaniaeth Gymreig, o ran yr iaith yn ogystal â bod yn glir iawn ynghylch y ffaith mai ni yw’r unig brifysgol yng Nghymru sy’n rhan o Grŵp Russell. Testun balchder a phleser gennyf yw’r ffaith bod y defnydd o’r Gymraeg ar draws ein campysau wedi datblygu’n fater beunyddiol, a bod cytundeb cryf a chyffredin bod y Gymraeg, Cymru a’n hunaniaeth Gymreig o bwys mawr i ddyfodol y Brifysgol a’r wlad hon. Mae ein perfformiad cryf mewn cynifer o feysydd, yn ogystal â’r buddsoddiadau yr ydym wedi’u gwneud (a daw rhagor, heb os nac oni bai), yn golygu ein bod yn wirioneddol bwysig i ddyfodol Cymru. Gwn fod llywodraeth Cymru yn hynod ymwybodol o hyn hyd yn oed ar adeg o gyfyngiadau cyllidebol sy’n effeithio ar gynifer o feysydd mewn bywyd cyhoeddus, ac rwyf yn siŵr y bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd yr un mor ymwybodol o rôl Prifysgol Caerdydd.
Y cwbl a erys imi i’w wneud nawr yw diolch ichi am eich cefnogaeth a’ch herio dros y blynyddoedd ac i ddymuno pob llwyddiant yn y dyfodol i bob un ohonoch, ac yn arbennig i’r Is-Ganghellor newydd yr Athro Wendy Larner a Chadeirydd y Cyngor Pat Younge. Bydd Prifysgol Caerdydd bob amser yn bwysig imi a byddaf yn dilyn ei hynt â diddordeb mawr (ond heb fod ynghlwm mewn unrhyw ffordd) o bell. Pob lwc bawb!
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014