Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Graddio, prosiect Treftadaeth CAER, ymchwil cemeg

28 Gorffennaf 2023

Annwyl gydweithiwr

Uchafbwynt y mis heb os oedd ein seremonïau graddio, a gynhaliwyd yn Neuadd Dewi Sant am y tro cyntaf ers pedair blynedd. Daeth bron i 8,000 o fyfyrwyr a dros 20,000 o’u gwesteion i Gaerdydd yn ystod yr wythnos, gan fwynhau pob eiliad, yn ôl yr hyn a welais. Roedd y seremonïau’n gynnes ac yn groesawgar, ac roedd mwy na 70,000 o bobl wedi’u gwylio ar YouTube, yn ogystal â 20,000 ar Weibo hefyd. Roedd y derbyniadau graddio hefyd yn llwyddiant mawr, gydag adran Arlwyo Prifysgol Caerdydd yn darparu lletygarwch rhagorol ynghyd â chwe masnachwr bwyd lleol. Cafodd myfyrwyr a’u gwesteion flasu amrywiaeth o arbenigeddau Cymreig, gan yfed 25,280 gwydraid o Champagne. Roedd pob rhan o’r Brifysgol wedi gwneud ymdrech enfawr, gan gynnwys timau staff yr adrannau Cyfathrebu a Marchnata, Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr, y Gofrestrfa, Gwasanaethau’r Campws, Gwasanaethau TG, Gwasanaethau Cymorth a’r holl Ysgolion academaidd. Fel erioed, mae gormod o bobl i’w henwi’n unigol, ond roedd pawb a oedd yn rhan o’r gweithgorau a grwpiau llywio’r seremonïau graddio wedi chwarae rhan hanfodol wrth gydlynu’r gwaith o gynllunio’r seremonïau a chefnogi digwyddiadau. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a oedd yn ymwneud â threfnu a llwyfannu cyfres gymhleth o ddigwyddiadau wythnos o hyd mewn ystod o leoliadau. Roedd yn her logistaidd enfawr ac yn gofyn am gydlynu ar draws y Brifysgol gyfan. Mae’n amser pan fydd pobl yn dod at ei gilydd i sicrhau bod y ddefod newid byd hon yn cael ei nodi’n briodol, ac rwy’n ddiolchgar iawn am hynny.

Rwyf hefyd yn falch o ddweud bod ein holl seremonïau wedi mynd rhagddynt yn ddidrafferth heb unrhyw darfu arnynt, gan sicrhau bod modd i’r holl fyfyrwyr, rhieni, perthnasau a ffrindiau fwynhau’r dathliadau bythgofiadwy hyn. Roedd y rhai a oedd yn dymuno dangos eu cefnogaeth i weithredu Undeb y Prifysgolion a Cholegau yn gallu gwneud hynny y tu mewn i’r lleoliad a’r tu allan iddo, a chydag un neu ddau eithriad prin iawn roedd y niferoedd bach a oedd yn gwneud hynny yn ymddwyn yn barchus a chydag ystyriaeth i eraill. Ar hyn o bryd nid oes llawer i’w adrodd o ran y boicot marcio ac asesu ei hun. Er bod ein gwaith i gasglu marciau ynghyd yn mynd rhagddo’n dda, mae rhai myfyrwyr o hyd nad oes ganddynt y set lawn angenrheidiol. Mae hon yn sefyllfa drallodus iawn ac rydym yn ymddiheuro unwaith eto. Yn anffodus mae’r sefyllfa genedlaethol yn parhau ar stop llwyr adeg ysgrifennu’r neges hon, ac felly mae’n rhaid i ni aros i weld sut y bydd yn datblygu os ydym am ei datrys. Yn wahanol i’r llynedd nid oes unrhyw beth y gallwn ei wneud yn lleol i effeithio ar y sefyllfa honno, er gwaethaf ymdrechion gorau ar y ddwy ochr. Wrth gwrs, os daw unrhyw farciau coll i law yn y cyfamser, byddwn yn parhau i’w cymhwyso i sefyllfa unrhyw fyfyriwr yr effeithir arno. Rwy’n dal yn obeithiol y gallai fod yn bosibl cyflawni gwelliannau drwy gamau bach yn y ffordd honno.

Yn fy ebost ym mis Mai cyfeiriais at Brosiect Treftadaeth CAER yng Nghaerau a Threlái mewn perthynas â chydlyniant cymunedol yn yr ardal honno. Ddiwedd y mis diwethaf roeddwn yn falch iawn o allu ymweld â’u cloddfa archeolegol ddiweddaraf, a oedd yn brofiad hynod ddiddorol. Mae’r tîm wedi darganfod anheddiad o’r Oes Efydd nid nepell o safle’r fila Rufeinig ym Mharc Trelái sydd, i’r gwrthwyneb, wedi bod yn hysbys ers dros ganrif. Bydd y darganfyddiad prin hwn yn datblygu ein gwybodaeth yn sylweddol, felly roedd yn fraint cael bod yno, cwrdd ag aelodau o’r prosiect cymunedol a dysgu rhagor am wreiddiau hynafol cymunedau Caerau a Threlái gan Dr Oliver Davis a Dr Dave Wyatt. Roeddwn i wrth fy modd wedyn yn gallu ymweld â’r ganolfan gymunedol yr oeddwn wedi’i gweld yn cael ei hadeiladu yn ystod y cyfnod clo. Mae wedi’i lleoli ger bryngaer yr Oes Haearn ar lwybr un o’n teithiau cerdded rheolaidd yr oeddem yn ei mwynhau yn ystod y cyfnod di-ben-draw hwnnw. Mae prosiect cymunedol y Fryngaer Gudd yn bartneriaeth lwyddiannus iawn rhwng y Brifysgol a Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ynghyd ag ystod o sefydliadau eraill, gan gynnwys trigolion lleol ac ysgolion (yn enwedig Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd), Cyngor Caerdydd, Amgueddfa Cymru, Amgueddfa Stori Caerdydd, Cymdeithas Archeolegol Caerdydd, First Campus, Cymdeithas Tai Cymru a’r Gorllewin, Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent, y Gymdeithas Diogelu Adeiladau Hynafol a llawer yn rhagor. Fel rwyf wedi dweud sawl gwaith, mae’n enghraifft amlwg o lwyddiant ein strategaeth Cenhadaeth Ddinesig, sydd ei hangen nawr yn fwy nag erioed o’r blaen ar adeg pan ymddengys bod straen economaidd a chymdeithasol ar gynnydd yn barhaus. Dyna pam roeddwn mor falch o weld pa mor dda y mae’r cyfleusterau newydd – y Ganolfan Gymunedol a ddisodlodd yr hen Neuadd Efengylu a oedd yn dadfeilio, a’r maes chwarae cyfagos – yn cael eu defnyddio eisoes, ac i ba raddau y mae trigolion lleol wedi cymryd perchnogaeth ohonynt, o ganlyniad i’r ffordd y mae’r prosiect cyfan yn bartneriaeth gyfartal gyda chreu ar y cyd wrth ei wraidd, rwy’n siŵr. Oherwydd hyn rwy’n teimlo ei bod hi ond yn iawn i’n cefnogaeth barhau, fel y gall y prosiect ddatblygu’n weithgaredd parhaol, cynaliadwy yn yr ardal honno o Gaerdydd, lle mae’r anghenion mor fawr. Roeddwn yn falch iawn o allu cadarnhau hyn i arweinwyr y prosiect a byddaf yn cadw llygad ar y datblygiadau yn y dyfodol, er o bell (ar wahân efallai i’r ymweliad achlysurol rwy’n gobeithio).

Mae’n eironig y dylai mater newid yn yr hinsawdd fod wedi dod yn fwy gwleidyddol fyth yn y wlad hon o ganlyniad i is-etholiad Uxbridge, lle mae’n ymddangos bod estyniad Parth Allyriadau Isel Iawn (ULEZ) Llundain Fewnol sydd ar droed wedi troi’r bleidlais o blaid y Llywodraeth. Rhaid cyfaddef, mae’r ULEZ yn ymwneud yn fwy ag ansawdd aer a’i effeithiau ar iechyd pobl nag allyriadau carbon yn y bôn, ond mae yma wers hefyd. Ac yntau’n haf lle mae effeithiau newid yn yr hinsawdd – yn ôl barn nifer fawr iawn o wyddonwyr – bron yn sicr yn amlygu eu hunain ar ffurf tywydd poeth a thanau gwyllt ledled y byd, mae’n ymddangos bod y gwthio’n ôl yn erbyn y mesurau angenrheidiol i liniaru’r effeithiau yn cynyddu. Un honiad aml yw nad yw gwledydd eraill yn gweithredu mesurau mor llym â’r DU (er bod modd dadlau yn erbyn hynny) ac felly dylem fod yn rhan o’r praidd yn hytrach na cheisio bod ar flaen y gad. Mae hynny’n esgeuluso’r ffaith yr oedd mwy na hanner allyriadau carbon y byd wedi’u priodoli i Brydain yn unig wrth i’r Chwyldro Diwydiannol ddatblygu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond i ddychwelyd at fy mhwynt gwreiddiol, mae’n hawdd anghofio effeithiau llygredd nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar yr ecosystem gyfan, er y gallant fod bron yr un mor drychinebus. Mae hyn yn wir am lygredd aer yn union fel y mae ar gyfer llygredd plastig, sy’n caniatáu i ychydig iawn o ronynnau plastig bach iawn dreiddio trwy’r amgylchedd a chael eu hamlyncu gan yr organebau sy’n byw ynddo, gan ein cynnwys ni. Dyna pam, yn ôl yn 2017, y gwnaethom benderfynu ddileu plastigau untro ym Mhrifysgol Caerdydd yn raddol lle’r oedd modd gwneud hynny. Roedd hyn yn llwyddiant mawr, ond mae’n werth meddwl amdano yn gyntaf ac yn bennaf oll, heddiw ac yn y dyfodol hefyd. Mae hwn yn faes lle gall pawb chwarae eu rhan gyda mesurau cymharol syml sydd fel arfer yn arbed arian. Yn gyffredinol dim ond rhywfaint o feddwl ymlaen llaw sydd ei angen hefyd. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys mynd â bag wrth siopa, cario potel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio neu baratoi bwyd i ginio yn hytrach na’i brynu wedi’i becynnu ymlaen llaw mewn plastig.

Gwell rhwystro’r clwy na’i wella wrth gwrs, felly po leiaf o blastig rydyn ni’n ei gynhyrchu a’i ddefnyddio, po fwyaf y gallwn ei atal rhag mynd i’r amgylchedd. Yn realistig, serch hynny, mae llawer iawn o blastig untro yn parhau i gael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio, ac felly mae’n gwneud synnwyr sicrhau, cyn belled ag y bo modd, y gellir ei ailgylchu a’i fod yn cael ei ailgylchu. Roedd gen i ddiddordeb gweld mai yn y maes hwn yn union y mae Dr Ben Ward o’r Ysgol Cemeg, ynghyd â’i fyfyriwr ymchwil Taylor Young, wedi torri tir newydd. Un o’r problemau mwyaf wrth ailgylchu plastig yw bod gan gymaint o blastig ychwanegion lliw nad oes modd eu tynnu. O ganlyniad i hyn, ceir cynnyrch wedi’i ailgylchu sy’n israddol i’r gwreiddiol ac y mae’n rhaid ei waredu wedyn. Golyga hyn mai dim ond unwaith y gellir ailgylchu’r deunydd gwreiddiol fel arfer. Yr hyn y mae Ben a Taylor yn ei wneud yw datblygu plastigau y gellir eu lliwio ac yna tynnu’r ychwanegion drwy broses gatalyddu. Gallai hyn drawsnewid y ffordd y mae’r deunyddiau hyn yn cael eu cynhyrchu, gan ganiatáu iddynt gael eu dychwelyd i’w cyflwr gwreiddiol i’w hailgylchu dro ar ôl tro. Heb os, bydd cyrraedd y nod hwnnw ar raddfa fawr yn broses hir, felly bydd lleihau plastigau untro yn sylweddol yn parhau i fod yn hynod bwysig. Serch hynny, mae’n dda gweld Prifysgol Caerdydd unwaith eto ar flaen y gad o ran datblygiadau a fydd, os byddant yn llwyddiannus, yn sicr o fod o fudd aruthrol i’r byd.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor