Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Boicot marcio ac asesu, Horizon Europe a llongyfarchiadau ar gyflawniadau staff

30 Mehefin 2023

Darllenwch neges a anfonodd yr Is-Ganghellor at yr holl staff heddiw (30 Mehefin 2023).

Annwyl gydweithiwr

Wrth i mi ysgrifennu fy neges, mae effaith y boicot marcio ac asesu dan arweiniad UCU yn dod yn glir ledled sector prifysgolion y DU. Does dim dwywaith mai myfyrwyr yn y flwyddyn olaf sy’n teimlo’r effaith fwyaf – y myfyrwyr sy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau eu gwaith a symud ymlaen i’r pennod nesaf yn eu bywydau. Prin iawn fyddai’n cael mwy o effaith arnynt na gorfod aros i weld eu canlyniadau neu ddyfarniadau eu graddau, gan greu, mewn llawer o achosion, rhwystrau o ran symud ymlaen at astudiaethau ôl-raddedig neu fyd gwaith. I rai, gall hyd yn oed gael effaith niweidiol ar eu statws fisa a’u gallu i aros yn y DU. Mae natur y gweithredu’n peri risg i ddyfodol ein myfyrwyr, yn fyrdymor o leiaf. Gwn fod rhai aelodau staff yn teimlo gwrthdaro mawr, yn awyddus i sefyll mewn undod â’u cydweithwyr, ond eto i gyd yn poeni am ein myfyrwyr sy’n haeddu ein cefnogaeth bob amser.

Yr wythnos nesaf, cawn wybod effaith y BMA ar ein myfyrwyr sy’n graddio. Er y mae’n bosibl mai ychydig iawn fydd yn teimlo effaith, mae’n dal i fod, am nawr o leiaf, yn peri pryder i unrhyw un sydd ynghlwm. Mae’n hynod annheg mai’r cyfiawn a gafodd eu heffeithio fwyaf gan y pandemig sy’n profi effaith y gweithredu. Yn bendant, bydd gwrthod marcio’n cael effeithiau gwahaniaethol ar fyfyrwyr a staff, yn dibynnu ar strwythur y radd, lefel y cyfranogiad mewn gweithredu diwydiannol mewn Ysgolion penodol a’r cyfleoedd lliniaru. I’r myfyrwyr, bydd y cwbl yn seiliedig ar b’un a ydynt mewn Ysgol neu faes pwnc yr effeithir arno.

Mae gan staff ddewis; er fy mod yn deall y gallai’r gweithredu gael ei ystyried yn ddewis olaf. Bydd staff sy’n cymryd rhan a’r myfyrwyr fel ei gilydd yn profi mathau amrywiol o effeithiau. Bydd hyn yn parhau’n wir tra bydd UCU yn defnyddio dulliau fel hyn i geisio rhoi pwysau ar brifysgolion. Ar adeg ysgrifennu, does dim datrysiad amlwg i’r anghydfod, ac rwy’n ddiolchgar iawn i bawb sy’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael eu trin mor deg â phosibl dan yr amgylchiadau.  Drwy’r taliadau ychwanegol i staff dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a hynny’n gyfanswm o £1500 fesul derbynnydd, rydym wedi gwneud ein gorau yng Nghaerdydd i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw sy’n ategu’r sefyllfa ariannol anghynaladwy y mae’r sector yn eu hwynebu, ochr yn ochr â blynyddoedd o adnoddau’n lleihau. Bydd angen cyd-ddatrysiad drwy’r broses gydfargeinio sy’n bodloni anghenion pob parti. Wedi dweud hynny, nid yw’n glir sut y gellid cyflawni hynny ar hyn o bryd. Yn wyneb y cyd-destun hynod besimistaidd hwnnw, rwy’n falch o ddweud ein bod yn dal i gyfathrebu’n dda ag UCU Caerdydd, ac yn gweld bod llawer o gytundeb rhyngom ar rai pwyntiau.  Rydym yn parhau i fod yn agored i drafodaethau ar atebion lleol posibl i’r boicot marcio ac asesu yn amodol ar gyfyngiadau cydfargeinio, fel y digwyddodd y llynedd.

Ar yr un pryd, mae’r sefyllfa yn Rwsia yn ein hatgoffa o ddifrifoldeb yr argyfwng sy’n wynebu nid yn unig Cymru, y DU ac Ewrop, ond y byd. Mae’r coup a’r cytundeb, sydd wedi methu yn ôl pob golwg, wedi arwain at setliad eithaf ansefydlog, lle mae arweinydd byddin breifat Wagner yn alltud ym Melarus. Dyw hyn ddim yn ein gwneud ni’n hyderus o ran sefydlogrwydd cysylltiadau rhyngwladol yn y dyfodol, ac wrth gwrs, mae rhyfel Putin yn erbyn Wcráin yn parhau i gyfrannu at ddioddefaint bob dydd y mae pobl y genedl yn ei brofi. Diolch byth, mae i weld fel bod nod gwreiddiol y rhyfel o fuddugoliaeth a gorchfygiad cyflym wedi methu. Er hyn, mae byddin a phoblogaeth ddinesig Wcráin wedi dioddef yn ofnadwy. Os rhywbeth, mae’r posibilrwydd o’r sefyllfa’n gwaethygu i raddau peryglus yn fwy nag o’r blaen, ac mae hyn oll yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a newyddion drwg o ran yr economi, sydd i weld yn waeth yn y DU nag unrhyw le arall. O ystyried hyn oll, byddai’n wych pe bai modd rhannu ychydig o newyddion da ar faterion y mae ein llywodraeth yn rheoli, ond mae’r newyddion yn gymysg yn fanno hefyd.

Rwy’n cyfeirio at y trafodaethau ar Horizon Europe – ro’n i’n gobeithio y byddent wedi dod i ben erbyn hyn – er gwaethaf sylw’r gweinidog gwyddoniaeth, George Freeman, bryd hynny’n dweud y gallent gymryd naw mis i’w cynnal. Awgrymodd ar bodlediad Radio 4 yn ddiweddar bod y trafodaethau’n gadarnhaol, ond nododd yn glir bod opsiwn wrth gefn y rhaglen Pioneer (Cynllun B gynt) yn dal i fod ar gael ac yn barod pe byddai ei angen. Wrth gwrs, gall hyn fod yn dacteg negodi, ond os gwrandewch ar y podlediad, nid yw tôn y gweinidog yn gwneud iddo swnio’n amhosibl. Mae’r mynediad priodol i Horizon Europe wedi’i wrthod ers blynyddoedd bellach, ac mae annigonolrwydd y Gronfa Ffyniant a Rennir yn ychwanegu at y rhwystrau o ran mynediad i gyllid ymchwil. Yn sgil hyn, oherwydd capasiti, arbenigedd ac ymdrech ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd, rydym yn anelu at record o ran dyfarniadau ymchwil, gan wneud yn llawer gwell na’r cyfanswm blwyddyn gyfan blaenorol gyda mis eto cyn diwedd y flwyddyn. Mae’r cyflawniad hwn yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol ymchwil yn y brifysgol hon.

Yn olaf, ac ar nodyn positif, llongyfarchiadau mawr i’r Athro Claire Gorrara a’r Athro Stuart Taylor, ill dau o ddisgyblaethau gwahanol iawn ond yr un mor nodedig. Mae Claire wedi derbyn gwobr uchel ei bri Chevalier dans l’Ordre National du Mérite, a gasglodd yn y Sefydliad Ffrengig yn Llundain y mis diwethaf. Claire, sef Deon Ymchwil ac Arloesedd y Brifysgol, yw’r sbardun y tu ôl i ddatblygiad a gweithrediad y prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern (ITM), achos sy’n agos at fy nghalon, sy’n anelu at gynyddu’r nifer sy’n astudio ieithoedd modern mewn ysgolion uwchradd yn y DU a thu hwnt. Rydym wedi gweld gostyngiad hirdymor yn y galw am ieithoedd modern ym mhrifysgolion y DU, ac mewn system sy’n cael ei gyrru gan y farchnad a all fod yn anodd iawn delio â hi. Rwyf wastad wedi bod o’r farn y dylai prifysgolion wneud beth bynnag y gallant i ddiogelu ac, yn wir, gynyddu’r ystod o bynciau y maent yn eu haddysgu a’u hymchwilio, ac yn fy marn i mae dealltwriaeth soffistigedig o ieithoedd a diwylliannau eraill yn hanfodol i’n dyfodol fel cenedl. Roedd hon yn wobr haeddiannol iawn ac roeddwn wrth fy modd yn clywed am lwyddiant Claire. Ro’n i hefyd yn falch iawn o ddysgu bod yr Athro Stuart Taylor wedi ennill Gwobr Amgylchedd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol am ei waith yn datblygu catalyddion newydd. Dros y blynyddoedd rwyf wedi siarad ar sawl achlysur am bwysigrwydd catalysis, yn wyddonol ac o ran ei ddefnydd diwydiannol eang iawn, ac fel gydag ieithoedd, rydym wedi cefnogi’r gweithgaredd hwn yn strategol. Roedd yn wych gweld arbenigedd a chyflawniadau arwyddocaol Stuart yn cael eu dathlu fel hyn, ac rwy’n siŵr y bydd ei arweinyddiaeth yn parhau i fod yn sail i’n llwyddiannau yn y maes hwn.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor