Boicot marcio ac asesu
23 Mehefin 2023Annwyl gydweithiwr
Yn sgîl fy ebost cynharach i’r holl staff a thrafodaethau’r gweminar i’r holl staff, byddwch yn ymwybodol bod gweithredu diwydiannol yn digwydd yng Nghaerdydd ar ffurf boicot marcio ac asesu (MAB) yn unol ag eraill ar draws y sector. Anghydfod cenedlaethol yw hwn ac nid rhywbeth y gall Prifysgol Caerdydd ei ddatrys yn annibynnol.
Fel y dywedais yn aml o’r blaen, rydym yn rhan o fargeinio cyflog cenedlaethol, ac felly’n un o 144 o sefydliadau sy’n rhan o’r broses hon. Fodd bynnag, rydym yn parhau i ymgysylltu ag UCU Caerdydd ar faterion o fewn ein rheolaeth leol a lle gallwn wneud gwelliannau i gefnogi ein staff.
Rwy’n ysgrifennu heddiw yn dilyn cyfarfod gydag UCU Caerdydd lle buom yn trafod y posibilrwydd o ddatrysiad lleol i leddfu effaith y boicot ar ein myfyrwyr. Er bod y trafodaethau’n adeiladol, yn anffodus nid oeddem yn gallu dod o hyd i ffordd ymlaen.
Byddwch yn ymwybodol ein bod ninnau fel Prifysgol yn gwneud popeth o fewn ein gallu i liniaru camau gweithredu UCU, ac er ein bod o’r farn bod cyfran y cydweithwyr sy’n cymryd rhan yn isel, ni ellir tanbrisio’r effaith ar fyfyrwyr unigol ac mae’n arbennig o annheg i garfan sydd eisoes wedi profi cymaint o aflonyddwch dros y blynyddoedd blaenorol.
Yng ngoleuni hyn, rwy’n ysgrifennu atoch yn uniongyrchol fel aelodau staff i ofyn i chi wneud popeth o fewn eich gallu i amddiffyn ein myfyrwyr rhag yr effaith y gallai’r weithred hon ei chael arnynt.
Yn ogystal, rwyf am gadarnhau na fyddwn yn atal tâl am unrhyw gamau a gymerwyd ym mis Ebrill, Mai a Mehefin 2023 os bydd cydweithwyr sy’n cymryd rhan mewn boicot marcio ac asesu ar hyn o bryd yn cadarnhau wrth Bennaeth yr Ysgol erbyn diwedd dydd Llun 26 2023:
- mae’r holl asesiadau wedi’u marcio’n llawn a’u cyflwyno i Swyddfa’r Ysgol erbyn dydd Llun 3 Gorffennaf
- byddwch yn cyflwyno unrhyw bapurau arholiad ailsefyll a briffiau asesu sydd heb eu cyflwyno erbyn dydd Gwener 14 Gorffennaf.
Os na fydd cydweithwyr yn cyflwyno marciau neu bapurau fel y nodir uchod, byddwn yn tybio bod unrhyw farciau neu bapurau ar goll oherwydd eu cyfranogiad parhaus yn y boicot. Bydd hyn yn arwain at atal tâl yn unol â pholisi presennol y Brifysgol ar atal tâl am dorri contract (cyflawni dyletswyddau yn rhannol).
Bydd cydweithwyr sydd eisoes wedi cadarnhau ac yn parhau â’u cyfranogiad yn gweld didyniadau ar gyfer misoedd Ebrill a Mai yn eu cyflog ym mis Mehefin a bydd camau gweithredu mis Mehefin yn cael eu hadlewyrchu yn eu cyflog ym mis Gorffennaf.
Roeddwn am achub ar y cyfle olaf hwn i’w gwneud yn glir i gydweithwyr bod amser o hyd i osgoi peryglu rhagolygon ein myfyrwyr yn y dyfodol ac osgoi colli cyflog. Mae ein myfyrwyr yn haeddu ein cefnogaeth wrth iddynt wneud eu ffordd i mewn i’w bywydau yn y dyfodol, ac mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddatrys ein gwahaniaethau.
Wrth i’r sefyllfa hon ddatblygu, byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Cofiwch gadw golwg ar dudalennau mewnrwyd y staff i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf a chwestiynau cyffredin.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014