Effaith ar gymunedau lleol, 10 mlynedd o GW4, gwyddorau data ac AI, Canolfan Ymchwil Drosi
26 Mai 2023Annwyl gydweithiwr
Mae mis Mai wedi bod yn fis o gynadleddau. Yn gynharach y mis hwn siaradais mewn un yn Birmingham dan arweiniad Fforwm y Prifysgolion a’r Rhanbarthau ar atebolrwydd dinesig, thema sy’n cwmpasu’r effaith fuddiol y gall prifysgolion ei chael ar eu cymunedau lleol a sut y gallant fod yn atebol am hynny. Siaradais am ein prosiect Porth Cymunedol yn Grangetown, a’r canlyniadau hynod gadarnhaol yr wyf wedi bod yn dyst iddynt yn bersonol yno ac y gallwn eu tystio. Cyfeiriais at brosiect Treftadaeth CAER yng Nghaerau a Threlái, sydd hefyd wedi ymgysylltu â phobl leol ac ysgolion, ac wedi hwyluso adeiladu canolfan gymunedol gydag arian y Loteri Genedlaethol fel y digwyddodd yn Grangetown. Yn anffodus, bydd y digwyddiadau trist ar ddiwedd y mis a arweiniodd at noson o derfysg yn Nhrelái yn dominyddu’r penawdau, ond mae’r cymunedau hyn yn glos ac yn lleoedd o greadigrwydd a dyhead gwych, fel y dengys y partneriaethau drwy ein prosiectau, a bydd angen i ni ddyblu ein hymdrechion i gyfleu’r neges honno. Mae ymgysylltu cynaliadwy â chymunedau lleol yn awgrymu nid yn unig partneriaeth a chyd-greu – dwy egwyddor sy’n ategu ein hymgysylltiad cymunedol – ond hefyd cyd-fudd: mae angen sicrhau cytundeb ar y cyd a rhannu atebolrwydd ymysg ystod o sefydliadau ac asiantaethau. Cyfeiriodd un siaradwr (Mike Boxall o PA Consulting) at ‘fframwaith o gyfrifoldebau cydfuddiol’ fel ffordd o sicrhau atebolrwydd am y gwaith y mae prifysgolion yn ei wneud yn eu lle. Pwysleisiodd siaradwyr eraill bwysigrwydd sylfaenol dod o hyd i ffyrdd o greu cyfleoedd i leihau’r anghydraddoldebau sy’n sail i lawer o’r tensiynau sy’n peri risg i gydlyniad cymdeithasol. Dros y deng mlynedd diwethaf rydym ni yng Nghaerdydd wedi cymryd rhan mewn creu lleoedd gweithredol fel rhan o’n cenhadaeth ddinesig, ac mae’r canlyniadau wedi bod yn drawiadol. Ni all hyn weithio’n effeithiol oni bai bod y llywodraeth a busnesau’n cydweithio â phrifysgolion a chymunedau yn yr helics pedwarplyg, fel y’i gelwir. Mae ffrwydro tensiynau yn Nhrelái yn dangos bod llawer i’w wneud o hyd, ond hefyd bod ein hymgysylltiad yn bwysig iawn fel grym gwrthgyferbyniol.
Hefyd, siaradais yn nathliad deng mlynedd GW4 a gynhaliom yng Nghasnewydd, gyda’m cyfoedion yng Nghaerfaddon, Bryste a Chaerwysg. Roedd hi’n wych gweld y pedair prifysgol yn dod at ei gilydd i ategu ein hymrwymiad i gydweithio ar sail ranbarthol. Mae hyn yn fath gwahanol o greu lleoedd, sydd yr un mor bwysig. Mae’n caniatáu inni ddenu cyllid a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd yn y pedwar maes strategol: seiber a digidol, sero net cynaliadwy, cymunedau creadigol ac iechyd a lles. Siaradodd Cadeirydd y Cyngor, Mr Pat Younge, yn argyhoeddiadol am ryngwyneb technoleg ac adrodd straeon, a’r ffordd y mae cynhyrchwyr cynnwys traddodiadol wedi cael eu trechu’n sylweddol o ran cynulleidfa, gan bobl ifanc ar blatfformau mwy democrataidd gyda chyrhaeddiad llawer mwy na’r darlledwyr traddodiadol. Un o gryfderau GW4 yw ein heclectigiaeth a’n ffocws strategol, a’r gallu i fanteisio i’r eithaf ar gyfleusterau ac ymchwilwyr yn y pedwar sefydliad, er mwyn canolbwyntio ar feysydd ble gallwn wneud gwahaniaeth go iawn. Rydym mewn sefyllfa dda mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys AI, technoleg cwantwm ac ymchwil i’r ymennydd, a thrwy weithio gyda’n gilydd, nid yn unig ydyn ni yng Nghaerdydd yn gallu parhau i ymgysylltu’n agos â system Lloegr a llywodraeth y DU, ond mae pob un o’r pedair prifysgol yn elwa ar well gwelededd a’r gallu i rannu adnoddau mewn meysydd fel hyfforddiant doethurol a chymorth i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.
Ro’n i hefyd yn bresennol yng nghyfarfod Universia o is-gangellorion ledled y byd. Mae’n rhan o gyfres o gynadleddau a drefnir pob tair neu bedair blynedd gan Santander, sydd wedi bod â rhaglen bellgyrhaeddol o gefnogi symudedd a gyrfaoedd myfyrwyr ers pum mlynedd ar hugain. Mae Caerdydd wedi bod yn aelod o’r rhwydwaith ers ei chyflwyno yn y DU, ac yn y gynhadledd eleni clywsom gan ddyfeisiwr (a elwir weithiau’n ‘dad’) y We Fyd-Eang, Syr Tim Berners-Lee, a gafodd ei gyfweld gan yr Athro Jim Al-Khalili, y ffisegydd y byddwch o bosibl yn ei adnabod fel cyflwynydd The Life Scientific ar BBC Radio 4: byddaf yn sôn amdano’n aml yn fy ebyst! Siaradodd Syr Tim am y tensiwn rhwng ethos mynediad agored gwreiddiol a llywodraethu democrataidd y We Fyd-Eang, a’r heriau o sicrhau ei bod yn bosibl darparu system ddata agored y gellir ymddiried ynddi, a fydd yn caniatáu i bawb sydd angen data i gefnogi cyflawniad Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig gael mynediad ato. Roedd materion digidol a thechnolegol yn thema drwy’r gynhadledd, a oedd yn ystyried rôl prifysgolion fel sbardun ar gyfer datblygiad cymdeithasol ac economaidd mwy cynaliadwy mewn cymdeithas sy’n newid yn gyflym. Does dim dwywaith bod AI yn un o ysgogwyr newid mawr, a fydd dros amser yn cael ei lywio gan dechnoleg gwantwm. Bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn pŵer cyfrifiadurol sydd bron yn anodd ei ddychmygu. Mae datblygiadau fel hyn yn rheswm dros bennu Sefydliadau Arloesedd y Brifysgol a soniais amdanynt yn fy ebost ym mis Mawrth, gan gynnwys y Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol. Yn ogystal ag arwain ar Gyflymydd Cenedl Ddata Cymru, rydym hefyd wedi ymuno â Rhwydwaith Prifysgol Turing y DU gyfan, sy’n dwyn ynghyd arbenigedd mewn gwyddor data a deallusrwydd artiffisial o dan nawdd Sefydliad Alan Turing, a’i gyfarwyddwr a’i Brif Swyddog Gweithredol, yr Athro Syr Adrian Smith. Mae hyn i gyd yn sicrhau bod Caerdydd ar flaen y gad o ran mynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu dynoliaeth yn y dyfodol, sydd wedi bod yn ganolbwynt mawr i’n strategaeth ymchwil ac arloesedd dros y degawd diwethaf.
Elfen allweddol o’r strategaeth honno fu’r Canolfan Ymchwil Drosi (TRH), a lansiwyd tua diwedd y mis gan yr Athro Donald Wuebbles, Enillydd Gwobr Nobel a’r Athro Syr Adrian Smith, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol. Syniad y Ganolfan Ymchwil Drosi yw canolbwyntio ar feysydd lle gall ymchwil wyddonol sylfaenol, y mae prifysgolion yn y sefyllfa orau i’w darparu, gael ei throsi’n gyflym yn gynhyrchion a phrosesau newydd sydd o fudd i gymdeithas, yn creu swyddi o ansawdd uchel, ar lefel graddedigion ac yn hybu twf economaidd yn ein rhanbarth. Roedd yn wych clywed gan yr Athro Wuebbles am yr her sero net, gan fod ein Sefydliad Arloesedd Sero Net yn un o’r meysydd a gefnogir yn uniongyrchol gan y TRH, sydd bellach yn gwbl weithredol. Yr Athro Wuebbles oedd cynghorydd Arlywydd Obama ar wyddorau’r hinsawdd, ac roedd ei fewnwelediad i’r hyn sy’n ofynnol i osgoi trychineb hinsawdd yn hynod ddiddorol ac yn ddirdynnol tu hwnt. Roedd yr Athro Smith yn gwbl glir mai ein dull gweithredu ni yw’r un cywir. Mae’r ystafell lân newydd nid yn unig yn cynnig gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd o ymchwil prifysgol i gyfleusterau gweithgynhyrchu ar raddfa fach ar gyfer wafferi lled-ddargludyddion cyfansawdd, ond mae’n cynnig mynediad agored ar gyfer y DU gyfan. Mae ein heffaith yn mynd i fod yn fwy o lawer, a does dim dwywaith bod lled-ddargludyddion cyfansawdd – sglodion ail genhedlaeth sy’n rhan annatod o gyfrifiadura, ynni a chysylltiadau trafnidiaeth yn y dyfodol – yn faes lle gallwn ni ragori, a lle rydym yn rhagori eisoes. Rydym mewn lle da i lwyddo wrth helpu i greu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cynta’r byd, ac roeddem wrth ein bodd o allu rhannu’r pwynt hwn ag Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg dros dro, Chloe Smith, a ddaeth i ymweld â’r Brifysgol ddiwrnod ar ôl lansio’r TRH fel rhan o lansiad Llywodraeth y DU o’i strategaeth lled-ddargludyddion.
Yn olaf, y mis hwn clywsom y newyddion trist iawn bod fy rhagflaenydd ond un, yr Athro Syr Brian Smith, wedi marw yn 89 oed. Bûm yn ddigon ffodus i gwrdd â Brian ar sawl achlysur ac i ddysgu am y materion a oedd bwysig pan oedd yn Is-Ganghellor rhwng 1993 a 2001. Pan gyrhaeddais fwy na deng mlynedd ar ôl gorffen ei dymor roedd pobl yn dal i siarad am lwyddiannau Brian, yn enwedig yn yr hyn a oedd bryd hynny yn Ymarfer Asesu Ymchwil, a’i natur hawddgar, y gallaf innau hefyd dystio iddo. Ar ran y Brifysgol gyfan, hoffwn estyn ein cydymdeimlad â gwraig Brian, Regina, a’u teulu.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014