Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Diolch, dymuniadau’r Nadolig, amrywiolyn Omicron COVID-19

17 Rhagfyr 2021

Annwyl gydweithiwr

A minnau’n is-ganghellor bellach ers 15 mlynedd, cefais gip unwaith eto ar yr ebost cyntaf a ysgrifennais adeg y Nadolig at yr holl staff ym Mhrifysgol Essex ymhell yn ôl ym mis Rhagfyr 2007, a’r argraff fwyaf a gefais oedd pa mor fyr oedd y neges honno. Bryd hynny, roeddem yn disgwyl canlyniadau RAE 2008, yn debyg iawn i’r ffordd rydym i gyd ar bigau drain heddiw yn disgwyl canlyniadau diweddaraf REF 2021 ym mis Mai 2022. Yn y fan honno y daw’r tebygrwydd i ben, ond roeddwn i’n meddwl y byddech yn gwerthfawrogi ebost byrrach felly byddaf yn gwneud fy ngorau yn hynny o beth.

Byddwch yn ymwybodol iawn bod amrywiolyn Omicron wedi ymledu’n gyflym yn ogystal â’r ansicrwydd sy’n digwydd yn ei sgîl. Mae cyhoeddiad diweddar yr Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles yn caniatáu i ysgolion oedi cyn eu hailagor ar sail wyneb yn wyneb y tymor nesaf, gan ddibynnu ar sut mae’r sefyllfa’n datblygu. Hyd yn hyn, rydym wedi cael cyfarwyddiadau i baratoi ar gyfer parhau ag addysgu wyneb yn wyneb yn null y drefn bresennol y tymor nesaf. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud cynlluniau wrth gefn ar gyfer y senarios gwahanol sydd wedi dod yn gyfarwydd i ni yn ystod y pandemig. Ni allwn wybod yn union beth fydd effaith y cynnydd serth a pharhaus yn nifer yr heintiau oherwydd coronafeirws, ond gwyddom y byddwn yn gallu gwneud addasiadau cyflym er mwyn addasu i ba sefyllfa bynnag y byddwn yn ei hwynebu ym mis Ionawr gan ein bod wedi gwneud hyn o’r blaen ac ni fydd yn annisgwyl inni yn hynny o beth. Yn ôl yr arfer, byddwn yn cymryd camau yn unol â’r risg a byddwn bob amser yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru a’r GIG.

Ar y nodyn hwnnw, yn ei ddiweddariad heddiw, ni wnaeth y Prif Weinidog godi’r lefel rhybudd yma yng Nghymru, ond fe ofynnodd i bob un ohonom ystyried sut byddwn yn cymdeithasu dros gyfnod y Nadolig. Ailgyflwynodd hefyd rai mesurau rheoli a fydd yn effeithio ar sut rydym yn gweithio, a bydd y rhain yn cael eu hystyried ochr yn ochr â fframwaith Rheoli Heintiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Uwch.

Gan fod hwn yn amrywiolyn sy’n ymledu mor gyflym, a chan fod gwybodaeth newydd yn ein cyrraedd drwy’r amser, byddwn yn adolygu’r sefyllfa drwy gydol y cyfnod pan fydd y Brifysgol ar gau a byddwn yn barod i wneud penderfyniadau mewn da bryd, a rhoi gwybod amdanyn nhw, cyn inni ailagor ar 4 Ionawr os bydd angen.

Wrth i mi ysgrifennu hyn o lith, rydym ond megis cyrraedd hanner y ffordd drwy’r mis, felly ar wahân i’r uchod nid oes fawr o newyddion diweddaraf i’w roi ichi. Fel y gwyddoch, mae materion eraill wedi bod yn tynnu sylw llywodraeth y DU yn ddiweddar a bellach mae ysgrifennydd addysg newydd. Felly, mae oedi wedi bod tan y Flwyddyn Newydd cyn ymateb hirddisgwyliedig y llywodraeth i adolygiad Augar, ond nid oes fawr o arwydd y byddai unrhyw gynigion yn effeithio’n ddramatig arnom yng Nghymru (er nad oes sicrwydd ynghylch hyn wrth gwrs). Y mater arall sy’n parhau o hyd ac sy’n anodd ei fesur yw ein cysylltiad â Horizon Europe; mae hynny, wrth reswm, yn dibynnu ar sicrhau cytundeb ar Brotocol Gogledd Iwerddon, sydd yn ei dro yn dibynnu ar ystod eang o ffactorau. Y penderfyniad mwyaf fydd os a phryd i dderbyn bod y cysylltiad hwnnw’n llusgo ymlaen yn rhy hir os na fydd cytundeb ac os na fydd diwedd ar y gorwel. Mewn rhai ffyrdd, mae hynny’n sefyllfa anos i fod ynddi na’r canlyniad a ddymunir, sef bod yn gysylltiedig, neu’r dewis arall sef peidio â bod yn gysylltiedig ar y cyd â’r adnoddau sy’n cael eu defnyddio i ariannu dewisiadau domestig eraill.

Yn y cyfamser, calonogol o beth yw gweld tîm o Gaerdydd yn gweithio gyda Phrifysgol Talaith Arizona ac AstraZeneca i ymchwilio i’r mecanweithiau sydd hwyrach yn sail i’r achosion prin iawn o thrombosis a gafwyd pan roddwyd brechlyn Rhydychen-AstraZeneca i bobl. Mae gwaith yr Athro Alan Parker a’i gydweithwyr yn taflu goleuni ar sgil-effaith hynod brin a gafodd ganlyniadau gwleidyddol sylweddol yn ogystal ag ar iechyd y cyhoedd yn anffodus, a bydd yn amhrisiadwy wrth helpu i osgoi effeithiau tebyg posibl yn y dyfodol. Yn yr un modd, mae Prifysgol Caerdydd yn arwain ar y treialon clinigol sy’n digwydd yng Nghymru dan arweiniad Prifysgol Rhydychen i asesu a fyddai pobl sy’n fwy agored i gael eu heintio gan COVID-19 mewn ffordd ddifrifol ar eu hennill o gymryd tabledi gwrthfeirysol. Mae gan y treialon hyn y potensial i roi erfyn cryf arall inni yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws, ac enghraifft arall ydynt o’r cyfraniad eithriadol y mae Prifysgol Caerdydd yn parhau i’w wneud wrth helpu i fynd i’r afael â’r pandemig.

Wrth i ni ddynesu at ddiwedd tymor cyntaf y drydedd flwyddyn academaidd hon y mae’r coronafeirws wedi effeithio arni, mae’n werth myfyrio ar y gwydnwch eithriadol y mae’r mwyafrif helaeth o’n myfyrwyr wedi’i ddangos. Rwy’n sylweddoli pa mor anodd yw cydbwyso’r safbwyntiau a’r dewisiadau gwahanol ymhlith ein myfyrwyr o ran astudio wyneb yn wyneb ac o bell, yn ogystal â dod o hyd i’r cydbwysedd academaidd cywir o ran dysgu ac addysgu cyfunol. Gan gadw anghenion staff a’r myfyrwyr mewn cof, bydd yn bwysig inni ddarparu’r math o leoedd a fydd yn caniatáu i addysgu a dysgu hybrid ddigwydd yn rhwydd ac yn effeithiol, fel y gall myfyrwyr a staff gynnal dosbarthiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein ar yr un pryd. Bydd hynny’n cymryd amser, ac yn y cyfamser rwy’n ddiolchgar iawn i bawb am eu hamynedd a’u hymrwymiad i roi ein myfyrwyr yn gyntaf a chydnabod yr amgylchiadau andwyol iawn y mae llawer ohonynt wedi’u hwynebu ers iddynt ddechrau eu hastudiaethau gyda ni.

Yn olaf, hoffwn diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch chi am yr egni a’r amser rydych chi wedi’i neilltuo i’r Brifysgol hon a’n cenhadaeth eleni. Er nad yw’n teimlo felly ar hyn o bryd o bosibl, bydd y don hon yn dod i ben hefyd ac rwyf yn siŵr y byddwn yn dod drwyddi’n iawn, fel yr ydym wedi’i wneud hyd yn hyn. Gwn fod goblygiadau’r coronafeirws wedi gofyn llawer  iawn gan bawb a byddwn yn annog pobl i ddefnyddio unrhyw ôl-groniad o wyliau sydd ganddynt, os bydd gofynion gwaith yn caniatáu hynny. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd cymaint ohonoch â phosibl yn gallu cael seibiant go iawn yn ystod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd i fagu nerth unwaith yn rhagor ac rwy’n ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw hyn. Bydd yn rhaid i rai helpu i gynnal y Brifysgol yn ystod cyfnod y gwyliau ac felly hoffwn ddiolch yn fawr iawn ichi o waelod calon. Dymunaf Nadolig heddychlon i bob un ohonoch, a pha rai bynnag fydd yr heriau, boed i 2022 fod yn flwyddyn llawn gobaith, iechyd, llewyrch ac adfer i bawb.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

Colin Riordan
Is-Ganghellor