Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

COVID-19, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, gweithgareddau ymchwil

29 Tachwedd 2021

Annwyl gydweithiwr

Wrth imi ysgrifennu hyn o neges, mae ymchwil frys ar waith ledled y byd i asesu’r perygl posibl yn sgîl adnabod amrywiolyn diweddaraf COVID-19, ac mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) bellach wedi ei enwi, sef Omicron. Y peth pwysicaf i’w ddweud yw y bydd yn cymryd o leiaf bythefnos (neu’n hirach na hyn yn ôl pob tebyg) cyn i ddigon o dystiolaeth gael ei chasglu i’r asesiad hwnnw ddigwydd yn iawn. Fel y gwyddoch, mae’n siŵr, mae’r mesurau sydd wedi cael eu hailgyflwyno yn Lloegr (masgiau wyneb mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus) wedi bod mewn grym yng Nghymru drwyddi draw.

Hyd nes y cawn ganllawiau fel arall gan Lywodraeth Cymru, nid oes rhaid felly inni newid ein dull gweithredu ein hunain, ac rwyf yn annog pawb (gan gynnwys y  myfyrwyr) i barhau i gefnogi’r mesurau diogelwch sydd ar waith gennym, gan gynnwys defnyddio gorchuddion wyneb.

Wrth gwrs, byddwn ni’n diweddaru ein rhagofalon o ran COVID-19 os bydd angen gwneud hynny, a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Gan symud ymlaen i newyddion gwell, byddwn yn argymell yn gryf i unrhyw un nad yw eto wedi ymweld â’r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr sydd newydd ei hagor y dylai alw heibio i gael golwg pan fydd cyfle i wneud. Mae’n lle hardd ac yn cael defnydd da iawn gan y myfyrwyr. Ar wahân i fod yn siop un stop i fyfyrwyr ag anghenion cymorth o unrhyw fath, mae’n amlwg fod ein myfyrwyr wedi deall mai eu lle nhw yw hwn ac yn ei ddefnyddio i astudio mewn grwpiau neu’n unigol, neu yn wir astudio’n breifat wrth rannu bwrdd ag eraill. Mae’n cael cymaint o ddefnydd fel bod seddi a byrddau ychwanegol wedi’u darparu i ateb y galw.

Tua diwedd y mis cynhaliwyd cyfarfod mis Tachwedd y Cyngor yno; cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf y Cyngor ers dechrau’r pandemig, ond yr olaf i’r Athro Stuart Palmer, ein Cadeirydd sy’n ymadael. Rhoddodd gyfle gwych i ni yn ystod y cinio yn dilyn ein cyfarfod (a gynhaliwyd yn y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr hefyd, sydd â chyfleusterau arlwyo ac sy’n lleoliad gwych) i ffarwelio â Stuart yn iawn. Roedd modd i ni ddiolch iddo am y gwasanaeth a’r ymroddiad rhagorol mae wedi’u rhoi i Brifysgol Caerdydd ers iddo ddod yn aelod o’r Cyngor yn 2013 ac yn Gadeirydd yn 2016. Cytunodd ein Cadeirydd newydd, Pat Younge, yn garedig i ddod i arsylwi, oedd yn ffordd wych iddo gwrdd â phobl a dechrau dod i adnabod y Brifysgol fel y mae hi yn 2021.

Ac mae ei chyflwr yn 2021 yn welliant mawr ar y stad o argyfwng a fu’n bodoli am 18 mis a mwy o fis Mawrth 2020. Gosododd amgylchiadau’r cyfnod hwnnw straen enfawr ar y Brifysgol a galwadau helaeth ar amser cydweithwyr, y bu rhai yn addysgu gartref, yn hunanynysu, yn gofalu am berthnasau neu’n jyglo gofod gweithio cyfyngedig gydag aelodau o’r teulu neu gyd-letywyr, yn ogystal ag ymdopi â’r holl waith ychwanegol o orfod addysgu, asesu a chefnogi myfyrwyr o bell. Oherwydd hynny, tua blwyddyn yn ôl (neu ychydig yn fwy o bosib) dywedais yn gyndyn iawn y gallai fod angen i staff addysgu ac ymchwil flaenoriaethu addysgu dros ymchwil am gyfnod; yn benodol gallai ceisiadau grant newydd ac ymchwil heb gyllid fod yn anodd eu cyflawni ar yr un pryd â’r holl ymrwymiadau eraill yn sgil yr argyfwng. Mae’r sicrwydd a roddais bryd hynny na fyddai unrhyw leihad mewn gweithgarwch ymchwil y byddai modd ei briodoli i’r pandemig yn cael effaith andwyol ar adolygiadau perfformiad, ceisiadau am ddyrchafiad a phethau tebyg, yn parhau’n gadarn. Does dim angen i neb ofni y bydd eu gyrfa ymchwil yn dioddef o orfod blaenoriaethu gweithgarwch addysgu yn ystod y cyfnod eithriadol hwn o argyfwng.

Mae effaith hyn wedi bod yn glir yn y ffigurau ar wariant, ceisiadau a dyfarniadau ymchwil a ystyriwyd gennym yn y cyfarfod o’r Cyngor a grybwyllir uchod. Er bod gwariant o grantiau a chontractau presennol yn galonogol o uchel – gan adlewyrchu’r llwybr ardderchog roeddem ni arno yn 2019-20 cyn y don gyntaf o COVID-19 – mae ceisiadau a dyfarniadau ar gyfer y chwarter cyntaf ar eu lefel isaf ers pedair blynedd. Mae hynny’n eithaf dealladwy ac yn rhannol yn ganlyniad i’r penderfyniadau anodd iawn y bu’n rhaid i ni eu gwneud flwyddyn yn ôl pan oedd yr epidemig ar gynnydd eto yn y DU, gydag ysgolion ar gau a  llawer o’r addysgu yn gorfod bod ar-lein. Bellach rydym ni wedi cyrraedd pwynt lle mae’n gwneud synnwyr i sicrhau bod gweithgarwch ymchwil yn ailddechrau yn hytrach nag aros yn y cefndir, oherwydd fyddai methu ag adennill y momentwm a gollwyd am ein bod ni wedi aros yn rhy hir ddim yn beth da i’r sefydliad cyfan nac i’r ymchwilwyr unigol.

Mae’n bwysig iawn cydnabod na ddylai canolbwyntio unwaith eto ar ymchwil olygu tynnu ein sylw oddi ar y myfyrwyr a phrofiad y myfyrwyr. Fel y soniais i’r tro diwethaf, mae’r genhedlaeth hon o fyfyrwyr wedi cael cyfnod anodd iawn drwy’r pandemig a bydd angen ein cefnogaeth arnyn nhw o hyd i fagu hyder wrth i ni symud yn agosach at weithredu’n normal.  Yn ogystal â chynnig cymorth ymarferol iawn, a bod yn gartref i fyfyrwyr rhwng dosbarthiadau, mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn symbol gwych o bwysigrwydd lles, llesiant a chynnydd academaidd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i ni. Ond nid dyma’r unig adeilad newydd sy’n werth galw heibio iddo. Mae Abacws, cartref newydd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a’r Ysgol Mathemateg, yn enghraifft dda iawn o sut y gellir integreiddio addysgu a dysgu a bod yn ffocws dwbl i’n gweithgarwch academaidd. Mae myfyrwyr yn defnyddio’r adeilad ar gyfer dysgu cymdeithasol yn ogystal ag astudio mwy ffurfiol yn yr ystafell ddosbarth, fel y maen nhw yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, ond wrth wneud hynny byddan nhw’n dod ar draws ymchwil ar waith mewn ystafelloedd â waliau gwydr drwy’r adeilad, mewn labordai cyfrifiadurol (mae’r Ysgol yn symud i faes roboteg yn fwy nag o’r blaen) a bydd ymchwil mathemateg i’w gweld ar waith hefyd. Mae’r ddwy Ysgol wedi’i gwasgaru ar draws yr adeilad i gyd yn hytrach na chael eu lle eu hunain, sy’n dangos i staff a myfyrwyr y cyd-ymrwymiad i gydweithio a gweithio rhyngddisgyblaethol. Dyw’r cyfleuster hwn ddim ar gael ym mhob adeilad wrth gwrs; ond y pwynt yw ein bod yn gallu canolbwyntio ar ein dau ffocws, addysgu ein myfyrwyr a chynnal ymchwil, ar yr un pryd mewn ffyrdd dychmygus ac adeiladol, ac rwy’n gwybod bod Ysgolion eraill yn mabwysiadu dulliau tebyg sy’n addas i’w hamgylchiadau.

Gan symud ymlaen, y mis diwethaf soniais am ail adroddiad Bhugra ar hiliaeth, gan bwysleisio ein hymrwymiad, a gefnogwyd yn llawn gan y Cyngor, i ddod yn brifysgol wrth-hiliol weithredol. Wrth gwrs bydd hwn yn brosiect amlddimensiynol, ond bydd rhan bwysig i’w chwarae gan y set ddiweddaraf o argymhellion gan yr Athro Bhugra. Mae ei adroddiad ac ymateb Bwrdd Gweithredol y Brifysgol i’w gweld yma. Fel y soniais, mae’r Cyngor yn gefnogol i hyn a chroesawodd yr argymhelliad canolog i sefydlu uned wedi’i neilltuo i Gydraddoldeb, amrywiaeth a Chynhwysiant o fewn y Gwasanaethau Proffesiynol, gyda staff yn atebol i’r Dirprwy Is-Ganghellor. Bydd yr uned yn canolbwyntio ar hiliaeth (yn ogystal â’r nodweddion gwarchodedig eraill wrth gwrs) a bydd yn ein galluogi i fynd ati’n well o lawer i achub y blaen ar y materion hyn, helpu i newid y diwylliant a delio â chwynion yn gyflym ac yn dryloyw.

Yn gynharach yn y mis cynhaliwyd seremoni lofnodi ryng-gyfandirol i ddathlu partneriaeth strategol newydd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato yn Seland Newydd. Fe ymgynullom ni yng Nghaerdydd wyneb yn wyneb yn Siambr y Cyngor yn y Prif Adeilad, ac ymunodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Addysg a’r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles AS â ni, yn ogystal â chydweithwyr o Education New Zealand ac Uchel Gomisiwn Seland Newydd. Ymddangosodd ein cymheiriaid drwy fideo, o ystyried yr amgylchiadau presennol o ran COVID-19. Roedd y digwyddiad yn cynnwys areithiau gan y ddwy ochr wrth gwrs, yn ogystal â seremoni lofnodi fyw ar sgrin hollt gyda fi a fy swyddog cyfatebol yr Athro Neil Quigley. Gweithiodd y dechnoleg yn rhyfeddol ac roedd yn wych cael cyfraniadau gan fyfyrwyr oedd wedi bod ar ymweliadau cyfnewid cyn y pandemig i’r ddau gyfeiriad. Mae’r rhagolygon ar gyfer cydweithio rhyngwladol yn edrych yn wirioneddol addawol, nawr ein bod yn deall sut i gynnal cyfarfodydd o bell (hybrid neu fel arall) i ategu llai o gyfarfodydd a chyfnewidiadau wyneb yn wyneb, er bod y rheini’n dal yn bwysig. Rwyf i wedi cael amrywiaeth o gyfarfodydd yn ddiweddar gyda chymheiriaid partneriaeth ym Mhrifysgol BremenPrifysgol Wyoming ac Unicamp yn Brasil, ac mae’r awydd am fwy o gydweithio dwysach yn arbennig o uchel ym mhob achos.

Bydd llawer ohonoch yn adnabod yr Athro Laura McAllister, Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru, gan ei bod yn cadeirio ein Gweminarau i’r Holl Staff, dyletswydd mae’n ei chyflawni gydag arbenigedd a deheurwydd. Roeddwn i wrth fy modd i weld bod Laura wedi cael ei dewis i gyd-gadeirio Comisiwn Cyfansoddiadol annibynnol ar ddyfodol Cymru. Mae’n ymuno â chyn-Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams fel cyd-gadeirydd, gyda chyfarwyddyd i ymchwilio i berthynas y genedl â gweddill y DU. Mae’r cylch gorchwyl yn cwmpasu cyfres o opsiynau gan gynnwys, yn arwyddocaol, annibyniaeth i Gymru. Mae’r ffaith fod gan gomisiwn dan nawdd y llywodraeth annibyniaeth ar ei agenda – beth bynnag fydd canlyniad yr adolygiad – yn dystiolaeth ryfeddol yn fy marn i o’r trawsnewid yn nhirwedd wleidyddol yr ynysoedd hyn dros y bum mlynedd ddiwethaf. Mae hwn yn benodiad uchel ei fri, ac rwy’n dymuno pob llwyddiant i Laura yn ei hymdrechion.

Llongyfarchiadau i’r Athro Paul Harper a’i gydweithwyr yn y Grŵp Ymchwil Gweithredol yn yr Ysgol Mathemateg. Mae eu gwaith gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi arwain at ganlyniadau ymarferol rhagorol dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys llywio dyluniad ysbyty newydd, gan sicrhau arbedion o £900,000 y flwyddyn dros y dyluniad gwreiddiol drwy amserlennu theatrau llawdriniaeth yn fwy effeithlon, a chynllunio’r gwasanaeth a ddarperir i gefnogi timau allgymorth iechyd meddwl. Roedd y grŵp hefyd yn ymwneud â chynllunio a lansio Gwasanaeth 111 Cymru, yn ogystal â chynghori Llywodraeth Cymru ar yr ymateb i COVID-19. Yn arbennig, bu’r grŵp yn cefnogi’r broses o gyflwyno’r brechiad, oedd yn eithriadol o gyflym ac effeithlon yng Nghymru drwy broses hynod glyfar o amserlennu a rheoli cyflenwadau. O ganlyniad, dyfarnwyd Medal Effaith Lyn Thomas ar gyfer 2021, sy’n wobr uchel ei bri gan y Gymdeithas Ymchwil Weithrediadol i’r grŵp, sy’n gydnabyddiaeth briodol i’w gwaith rhagorol. Manylwyd ar y gwaith dylanwadol hwn mewn dwy o’n Hastudiaethau Achos Effaith REF 2021.

Yn olaf hoffwn longyfarch yr Athro Jenny Kitzinger, o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, a’r Athro Celia Kitzinger, o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, sydd wedi cipio gwobr Effaith Polisïau Cyhoeddus Eithriadol yr ESRC ar gyfer eu prosiect ar newid y gyfraith i hyrwyddo penderfyniadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn achos cleifion coma. Mae hon yn wobr uchel ei bri sy’n cydnabod y ffordd mae eu hymchwil wedi gwella’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer cleifion sydd ag anhwylderau ymwybyddiaeth estynedig, sy’n cael eu trin heb i’w dymuniadau gael eu hystyried ac yn aml yn groes i’w buddiannau gorau. Caiff y prosiect hwn hefyd ei gyflwyno i REF2021 fel astudiaeth achos effaith, sy’n dangos y ffordd y mae ymchwil ragorol ym Mhrifysgol Caerdydd yn parhau i gael effaith wirioneddol o ran gwella bywydau, nid yma yng Nghymru yn unig, ond yn fyd-eang.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor