Cartref Arloesedd ôl-bandemig
27 Ebrill 2021Bydd drysau’r cyfleuster arloesedd mwyaf o’i fath yng Nghymru yn agor yr hydref hwn. Mae Campws Arloesedd Caerdydd (CIC) wedi troi hen iard reilffordd yn Gartref Arloesedd, lle bydd meddylwyr yn cwrdd â chydweithredwyr a chyllidwyr i ddod o hyd i atebion i heriau cymdeithas. Yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, yn esbonio sut gall y campws roi hwb i les cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru ar ôl Covid-19.
‘Bydd sbarc | spark yn parhau i ddatblygu yn heulwen y gwanwyn, ac ymwelais â’r safle ar Heol Maendy yn ddiweddar i weld sut mae pethau’n mynd. Erbyn dechrau mis Mai, bydd y contractwyr Bouygues UK wedi dileu’r fframwaith ategol sydd o amgylch y grisiau Oculus canolog ar hyn o bryd y tu mewn i’n hadeilad arloesedd blaenllaw.
Bydd golygfa ehangach yn dod i’r amlwg, nid yn unig o’r adeilad ei hun, ond hefyd o sgyrsiau dychmygol a allai gael eu cynnal yn y man ‘cymdeithasol’ a rennir wrth droed y grisiau. Mae hwn wedi’i gynllunio fel man hwylus ar gyfer sgyrsiau anffurfiol ymhlith cydweithredwyr, myfyrwyr a’r 400 o ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol fydd yn rhan o SPARC – y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithas.
Gall hwyluso hap-gyfleoedd i ryngweithio sbarduno syniadau gwych. Ac yn sbarc | spark – a’r Ganolfan Ymchwil Drosiadol gyfagos – y bydd syniadau ymchwil yn cael eu cynhyrchu a’u trawsnewid yn brosesau, cynhyrchion a gwasanaethau fydd yn gwasanaethu Cymru a’r byd yn yr 21ain Ganrif, wrth i bobl ddychwelyd i weithio ar y cyd ar ôl Covid-19.
Bydd sbarc | spark yn denu arloesedd ac yn llawn lleoedd trafod syniadau, labordai a mannau cynnal profion i dreialu syniadau newydd. Mae’n rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y Campws ers cenhedlaeth, ac mae eisoes wedi denu arian sylweddol gan gynghorau ymchwil, llywodraethau, cyrff cyllido a busnesau. Ar waelod y blog hwn, mae rhestr o’r sefydliadau sydd wedi ein cefnogi ar ein taith.
Bydd y Campws yn cael ei gwblhau ar adeg heriol yng nghyd-destun arloesedd yng Nghymru. Yng Nghyllideb ddiweddar y Canghellor, fe wnaeth Llywodraeth y DU addo buddsoddi £93m yng Nghymru i roi hwb sylweddol i adferiad gwyrdd, gan roi cyllid ar unwaith ar gyfer tair bargen Dinas a Thwf. Er gwaethaf y newyddion cadarnhaol hyn, mae pryder ynghylch sut caiff cyllid Ymchwil ac Arloesedd y DU ei ddyrannu yn tymor hir ac a fydd y DU yn cynnal ei statws fel ‘archbwer yn y gwyddorau’.
Yn nes at adref, mae Cronfa Arloesedd Ymchwil Cymru (RWIF), trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn cefnogi gwaith Caerdydd i gynyddu capasiti ym meysydd Ymgysylltu â Busnesau a Phartneriaethau Strategol, Datblygu Masnachol, Cenhadaeth Ddinesig ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd.
Mae paratoi’r polisïau cywir ar gyfer arloesedd yn hollbwysig. Yn ddiweddar, galwodd yr Athrawon Rick Delbridge a Kevin Morgan am Gorff Arloesedd Cenedlaethol newydd i Gymru, i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, ond gweithredu’n annibynnol ar yr un pryd i ysgogi gweithgareddau fydd yn sicrhau cyfleoedd cyllido ym meysydd Ymchwil a Datblygu, yn enwedig cyllid ar gyfer arloesedd.
Rhaid i fodelau arloesedd a arweinir gan heriau a chenhadaeth fod wrth wraidd y newid hwn. Mewn gwirionedd, gall gwell dealltwriaeth ‘economaidd-gymdeithasol’ o arloesedd gryfhau’r cysylltiadau â gwaith canolfannau ymchwil a arweinir gan y gwyddorau cymdeithasol fel y rhai yn SPARC. Bydd cyflwyno Parthau Cydweithio Arloesedd, gan gynnwys gyrwyr Ymchwil a Datblygu ac arloesedd, o ysgogiadau cyllidebol a threth a chymhellion a dadreoleiddio defnydd tir, hyd at gydleoli arbenigedd a chyfleusterau ymchwil, yn helpu i gyflawni’r cenadaethau masnachol o ymchwil hyd at ddatblygiad ac arloesedd.
Yr angen am leoedd sy’n denu arloesedd, yn ogystal â newidiadau polisi i ddatgloi ymchwil, oedd hanfod yr achos dros fuddsoddi ar Gampws Arloesedd Caerdydd. Bydd y Campws yn cyflawni ein hymrwymiad yr hydref hwn.
Bydd fy nghyd-Aelod, yr Athro Karen Holford, y Dirprwy Is-Ganghellor a John Boughton, o Bouygues UK, yn rhoi’r newyddion diweddaraf am sut mae Campws Arloesedd Caerdydd yn dod yn ei flaen mewn digwyddiad ar Zoom ar 13 Mai rhwng 3pm a 4pm. Os hoffech chi ymuno â’r digwyddiad a chael gwybod rhagor, cofrestrwch yma.
Gellir gweld crynodeb ffotograffig o’r cynnydd ar y safle trwy glicio yma. Wrth iddo agosáu at gael ei gwblhau, mae’n amlwg bod llawer i’w wneud o hyd y tu hwnt i’r amgylchedd adeiledig i baratoi cymdeithas ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau.
Yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd
Hoffem ddiolch i’r canlynol:
#UKRI #CCAUC #LlywodraethCymru #wellcometrust #ESRC #ERDF #EuropeanSocialFund #CSACatapult #EPSRC #wolfsonfdn #DSV_AS #NestaUK #FutureGenCymru #PublicHealthWales #SocialCareWales #NIHRResearch #CardiffCapitalRegion #MedicalResearchCouncil
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014