Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Ystyried newidiadau y mae’n rhaid i ni eu gwneud o ran croesawu myfyrwyr yn ôl yn raddol

6 Ionawr 2021

Darllenwch neges gan yr Is-Ganghellor a anfonwyd at y staff heddiw (6 Ionawr 2021).

Annwyl gydweithiwr

Yn gyntaf oll, hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch, mewn ysbryd o obaith a realaeth fel ei gilydd. Gobeithio’n fawr y cawsoch y cyfle i orffwys ac ymlacio cyn tymor newydd sydd eisoes yn cynnig heriau sylweddol.

Rwy’n cyfathrebu â chi ar frys heddiw oherwydd bu nifer o ddatblygiadau ers i mi ysgrifennu atoch ddiwethaf cyn y Nadolig.

Fel y gwyddoch, mae’r rhaglen frechu sy’n defnyddio brechlyn newydd Rhydychen/AstraZeneca wedi dechrau, gan ategu brechiadau Pfizer sydd wedi’u cyflwyno ers bron i fis. Er y gwyddwn y daw eto haul ar fryn, nid oes amheuaeth fod cyhoeddiad y Prif Weinidog ddoe mewn perthynas â Lloegr wedi taflu cryn gysgod dros y datblygiadau addawol hyn.

Yng Nghymru, rydym yn ffodus fod gennym berthynas waith ragorol gyda’n Gweinidog Addysg a’i swyddogion. Mae’r ffaith ein bod yn gallu gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn fantais amlwg ochr yn ochr â’n gwasanaeth sgrinio asymptomatig mewnol rhagorol.

Nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru wedi newid mewn perthynas â myfyrwyr yn dychwelyd. Fodd bynnag, mae lledaeniad amrywiad newydd y coronafeirws ledled y DU yn golygu bod angen i ni adolygu ein hasesiadau risg ac ystyried a oes angen i ni newid ein cynlluniau.

Er y bydd rhywfaint o addysgu wyneb yn wyneb ym mis Ionawr (mewn rhaglenni iechyd neu ymarferol yn bennaf), ni ddisgwylir i’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr ddychwelyd i Gaerdydd tan ddechrau mis Chwefror. Mae hyn yn rhoi amser inni ystyried dros yr wythnos neu ddwy nesaf pa newidiadau, os o gwbl, y bydd rhaid i ni eu gwneud o ran croesawu myfyrwyr yn ôl yn raddol, cynnal profion, ac o ran pa gyfran o addysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein fydd yn addas. Wrth wneud hynny, rhaid ystyried dymuniadau ein myfyrwyr, eu hiechyd meddwl a’u cyfleoedd mewn bywyd, yn ogystal â chwarae ein rhan wrth reoli lledaeniad y coronafeirws.

O ran ymchwil, nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i newid mynediad at gyfleusterau’r campws.

Gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod am i’r holl staff deimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel wrth ein helpu i wneud y gorau y gallwn i fyfyrwyr. Fel yr ydym wedi egluro’n flaenorol, dylai unrhyw aelod staff sydd â phryderon drafod y rhain gyda’u rheolwr llinell yn y lle cyntaf, a gallant fanteisio ar offeryn asesu risg Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithleoedd. Gallwch hefyd ofyn am gefnogaeth gan ein darparwr Iechyd Galwedigaethol pe byddai gwybodaeth bellach gan Arbenigwr Iechyd Galwedigaethol o ddefnydd wrth nodi a oes angen addasiadau ai peidio. Mae fy nghydweithwyr ar Fwrdd Gweithredol y Brifysgol a minnau wedi ymrwymo i sicrhau bod cydweithwyr yn parhau i deimlo’n ddiogel drwy drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt, a bod rheolwyr yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth wrth fynd i’r afael â’r pryderon hyn.

Rwyf yn sylweddoli y bydd rhai ohonoch yn ceisio ymdopi â gofynion gwaith a gofal plant unwaith eto wrth i ysgolion yng Nghymru symud i ddysgu ar-lein tan o leiaf 18 Ionawr. O dan y cyfyngiadau, mae rhai o’r rheiny sy’n gweithio ym maes addysg (a gofal plant) yn parhau i gael eu hystyried yn ‘weithwyr hanfodol‘ sy’n golygu ei bod yn bosibl y bydd eu plant yn gallu parhau i fynd i’r ysgol. Rydym yn ceisio cael eglurhad ynghylch pwy mae hyn yn ei gynnwys ym maes addysg uwch a byddwn mewn cysylltiad pan fydd gennym ragor o fanylion. Rydym yn cydnabod y gallai hyn fod yn help enfawr i lawer o’n staff. Byddwn NI hefyd yn ystyried ffyrdd eraill y gallwn gefnogi lles staff.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi cyn gynted â phosibl.

Cofion gorau, Colin Riordan
Is-Ganghellor