Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Neges gan yr Is-Ganghellor

12 Hydref 2020

Annwyl gydweithiwr

Ysgrifennaf yn dilyn y wybodaeth a roddwyd ar ein mewnrwyd ddydd Gwener diwethaf, a roddodd wybod i’r staff am y profion coronafeirws (COVID-19) ychwanegol yn un o’n preswylfeydd dros y penwythnos ac yn ystod yr wythnos i ddod. Mae hyn yn dilyn cynnydd yn nifer y profion positif a’r myfyrwyr sy’n hunan-ynysu yn Ne Tal-y-bont.

Dros y penwythnos, rydym wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Tîm Profi, Olrhain a Diogelu, sydd wedi dod â Thîm Nyrsio o Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro i brofi dros 500 o fyfyrwyr yn Ne Tal-y-bont. Heddiw, fe agorodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) Uned Profion Symudol ar gyfer yr holl fyfyrwyr sydd â symptomau yn neuaddau preswyl Tal-y-bont. Mae hyn yn ogystal â’r gwasanaeth sgrinio sydd gennym ar gyfer myfyrwyr a staff asymptomatig, sydd hefyd ar gael ar y safle.

Hoffwn ganmol gwaith y tîm nyrsio a diolch i’r hollgydweithwyr eraill sydd wedi gweithio mor galed dros y penwythnos i wneud yn siŵr bod hyn yn cael ei gynnal yn ddiffwdan.  Mae wedi bod yn brosiect a hanner ac mae’n enghraifft dda o’n partneriaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Tîm Profi, Olrhain a Diogelu. Mae’r holl negeseuon a anfonir at ein myfyrwyr gan Claire Morgan, ein Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr, ar gael ar flog Bwrdd Gweithredol y Brifysgol.

Rydym yn cyhoeddi ffigurau am achosion positif o’r coronafeirws (COVID-19) sydd wedi’u cadarnhau ar ein gwefan bob diwrnod yn ystod yr wythnos a byddwn yn ategu hyn â gwybodaeth am fyfyrwyr sy’n hunan-ynysu.

Un o oblygiadau’r profion ychwanegol hyn yw y bydd mwy o’n myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn hunan-ynysu am y tro wrth iddynt aros am ganlyniadau eu profion. Rydym yn disgwyl i ganlyniadau’r profion fod ar gael yn gyflym ac, yn y cyfamser, rydym wedi gwneud yn siŵr bod yr holl fyfyrwyr yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael ar eu cyfer yn ogystal â bod angen iddynt roi gwybod eu bod yn hunan-ynysu ar SIMS.  Rydym yn diweddaru’r adroddiadau hyn bob diwrnod a gall Penaethiaid a Rheolwyr Ysgolion (neu eu henwebeion) eu gweld ar y safle Gwybodaeth am Fusnes. Rhennir gwybodaeth ar sail angen gwybod fel bod Ysgolion yn gallu sicrhau bod y myfyrwyr sydd wedi’u heffeithio yn gallu cael gafael ar adnoddau dysgu o bell drwy Dysgu Canolog.

Mae’n bwysig bod pob myfyriwr sy’n hunan-ynysu yn llenwi’r ffurflen SIMS ac yn ei diweddaru os bydd eu hamgylchiadau’n newid, yn enwedig gan fod yr ateb ebost awtomatig yn rhoi mynediad at gyngor, gwybodaeth a chefnogaeth berthnasol.

Rydym wedi rhoi cyngor a chefnogaeth i’r holl fyfyrwyr sydd wedi profi’n bositif. Gallwch ddarllen ein gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n hunan-ynysu sy’n cynnwys canllawiau ynghylch pryd i hunan-ynysu, cefnogaeth academaidd a lles, danfon bwyd, a phryderon ariannol. Mae gwybodaeth debyg ar gael ar gyfer rhieni hefyd ar ein gwefan gyhoeddus.

Noder nad yw’r hyn sy’n digwydd yn Nhal-y-bont yn golygu ‘cyfnod clo’ fel rydym wedi’i weld mewn rhai Prifysgolion eraill. Yn hytrach, mae’n fesur mwy cyfyngedig, rhagweithiol er mwyn ein helpu i reoli lledaeniad y feirws er diogelwch a lles ein myfyrwyr a’r gymuned ehangach.

Byddwn yn eich hysbysu’n llawn wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor