Gweithio hyblyg a chynlluniau diswyddo gwirfoddol
2 Gorffennaf 2020Annwyl gydweithiwr,
Mae COVID-19 wedi gorfodi pob un ohonom i fynd ati’n ddiymdroi i gyflwyno newidiadau sylweddol – yn ein bywydau gartref a sut rydym yn gweithio. Fel cymuned rydym wedi ymateb i’r amgylchiadau heriol hyn yn gadarnhaol wrth i ni hefyd gefnogi ein gilydd, gofalu am deuluoedd yn ogystal â gwirfoddoli yn y gymuned.
Ar 4 Mehefin, ysgrifennodd yr Is-Ganghellor atom yn sôn am effaith COVID-19 ar ein sefyllfa ariannol. Er bod y Brifysgol yn parhau i edrych ar raddfa ein risg ariannol a sut gallai’r gostyngiad yn ffioedd myfyrwyr effeithio ar ein refeniw, mae angen i ni gynllunio ar gyfer rheoli colledion o £102m. Wrth gwrs, byddwn yn adolygu’r rhagolwg hwn yn rheolaidd ac yn diwygio niferoedd y myfyrwyr wrth iddynt ddod yn fwy pendant rhwng nawr a mis Hydref.
Mae cydweithwyr wedi ymateb yn feddylgar i’r heriau ariannol ac mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi cynigion pellach i leihau gwariant nad yw’n ymwneud â chyflogau. Fodd bynnag, oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, mae angen i ni hefyd gymryd camau call a phragmatig nawr i hwyluso gostyngiad yn ein costau staffio. Hyd yma, mae’r rhain wedi cynnwys rhewi prosesau recriwtio (heb gynnwys swyddi ymchwil y mae grantiau allanol yn eu hariannu’n llawn), ac mae proses gymeradwyo gaeth ar waith gan yr Is-Ganghellor ar gyfer unrhyw eithriadau. Rydym yn adolygu ein dulliau gwobrwyo ac yn defnyddio Cynllun y Llywodraeth i Gadw Swyddi yn ystod cyfnod y Coronafeirws pan mae hynny’n bosibl ac yn briodol. Rydym hefyd yn parhau i gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’n Undebau Llafur cydnabyddedig i drafod COVID-19 a’i effaith ar ein sefyllfa ariannol, ac yn gofyn am eu mewnbwn ar ystod o gamau ychwanegol i leihau gwariant ar gyflogau a diogelu swyddi.
Wrth i’r trafodaethau hyn barhau, ac er mwyn lliniaru unrhyw gamau pellach y gallai fod angen i ni eu cymryd pan fyddwn yn gwybod beth fydd yr effaith lawn ar faint o fyfyrwyr fydd gennym, rydym yn cyflwyno dau gam gwirfoddol nawr o ganlyniad i’r adborth a gafwyd gan rai staff cyn ac ar ôl y gweminar i’r holl staff ar 11 Mehefin. Byddwn yn rhoi cyfle i staff wneud cais am opsiynau gweithio hyblyg dros dro yn ogystal â Chynllun Diswyddo Gwirfoddol am gyfnod penodol – daw’r ddau gynllun i ben ar 31 Gorffennaf 2020.
Cynllun Gweithio Hyblyg COVID-19
Rydym wedi sefydlu cynllun gweithio hyblyg newydd dros dro. Gall aelodau staff wneud cais i leihau eu horiau am gyfnod dros dro o 3, 6, 9 neu 12 mis. Gellir dechrau’r gostyngiad dros dro hwn mewn oriau ar unrhyw adeg o 1 Medi 2020, a rhaid iddo ddod i ben erbyn 31 Awst 2021.
I gael gwybod rhagor am y cynllun a sut i wneud cais, ewch i fewnrwyd y staff.
Os ydych yn ystyried rhoi’r gorau i weithio’n gyfan gwbl am gyfnod
dros dro, gallech ystyried gwneud cais am Seibiant Gyrfa. Tan ddiwedd mis
Gorffennaf, bydd modd i bob gweithiwr, waeth beth yw hyd eich gwasanaeth gyda’r
Brifysgol, wneud cais ar gyfer Cynllun Gweithio Hyblyg COVID-19 a Chynllun
Seibiant Gyrfa’r Brifysgol. Os caiff eich swydd ei hariannu’n allanol, bydd
angen sêl bendith y corff ariannu hefyd.
Cynllun Diswyddo
Gwirfoddol COVID-19
Rydym yn rhoi’r cyfle i staff wneud cais o dan y cynllun diswyddo gwirfoddol (VSS). Nod y cynllun yw cynorthwyo i arbed arian cyn blwyddyn academaidd 20/21.
Mae hwn yn gynllun ag iddo gyfyngiad amser ‘heb ragfarn’. Nid oes rhaid i unrhyw aelod staff wneud cais ar gyfer y cynllun ac nid oes rhaid i’r Brifysgol dderbyn unrhyw gais a gyflwynir.
Mae’r cynllun ar agor i’r holl staff a ariennir gan y Brifysgol sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd canlynol:
- yn disgwyl parhau i weithio ym Mhrifysgol Caerdydd am o leiaf 18 mis
- yn gyflogedig gan y Brifysgol
- heb ymddiswyddo; ac
- heb fynegi’n ffurfiol eu bwriad i ymddeol yn ystod y 12 mis nesaf.
4 mis o gyflog yw’r taliad diswyddo gwirfoddol a gynigir o dan delerau’r cynllun, ac mae’n berthnasol i’r holl staff sy’n gymwys ni waeth beth yw hyd eu gwasanaeth na’r cyfnod rhybudd yn eu contract Caiff y canlyniadau eu cadarnhau erbyn 31 Awst a bydd y dyddiadau gadael naill ai ar 30 Medi 2020 neu cyn hynny.
I gael gwybod rhagor am delerau’r cynllun a sut i wneud cais cyn y dyddiad cau ar 31 Gorffennaf 2020, ewch i fewnrwyd y staff.
Rwyf yn gwerthfawrogi bod y sefyllfa bresennol yn un hynod ansefydlog. Mae’r camau sy’n cael eu rhoi ar waith yn rhai gwirfoddol ac ni ddylech deimlo unrhyw bwysau i wneud cais. O ystyried y sefyllfa ariannol ar hyn o bryd, mae’r rhain yn cael eu hystyried yn rhan o’n camau cyfredol i wneud popeth y gallwn i sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Cofion cynnes,
Sue Midha
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014