Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff
4 Mehefin 2020Annwyl gydweithiwr,
Mewn ebyst a fideos blaenorol, rwyf wedi esbonio ein bod yn y sefyllfa anffodus o orfod cynllunio ar gyfer diffyg sylweddol yn ein cyllideb ym mlwyddyn academaidd ac ariannol 2020-21, sy’n dechrau ar 1 Awst. Hoffwn ddweud rhagor wrthych am hynny, ar sail ba dybiaethau yr ydym yn rhagweld y bydd diffyg, a beth ydym yn ei wneud yn ei gylch.
O ystyried lefel yr ansicrwydd, rydym yn cynllunio ar sail y dybiaeth realistig y gallai ein hincwm fod £168m yn is. Yn wreiddiol, roeddem wedi disgwyl i’n hincwm gynyddu ryw ychydig. Efallai na fydd y gostyngiad mor llym, wrth gwrs, ond nid yw’n amhosibl y gallai fod yn waeth. Fel yr wyf wedi sôn o’r blaen, rhaid i ni gymryd camau i arbed 10% o’n gwariant gweithredu disgwyliedig y flwyddyn nesaf. Os gallwn wneud hynny’n llwyddiannus, yn ogystal â chynyddu incwm mewn rhai meysydd i wneud iawn am golledion mewn meysydd eraill (yn enwedig incwm ffioedd dysgu), rydym yn darogan y bydd gennym ddiffyg gweithredol o tua £102m. Hyd yn oed ar ôl cymryd y camau hyn, bydd angen i ni wario tua £50m o’n harian wrth gefn ac rydym yn cymryd yn ganiataol y byddwn yn cael rhyw fath o gymorth ychwanegol fel grantiau gan y llywodraeth, ond ni fydd hyn yn ddigon i ni allu cwrdd â’n costau.
Mae’r camau eraill yr ydym eisoes wedi’u rhoi ar waith yn cynnwys atal recriwtio oni bai bod hyn ar gyfer y swyddi mwyaf hanfodol i fusnes y Brifysgol. Mae hyn ochr yn ochr â gostyngiad gwirfoddol o 20% i fy nghyflog i, a 10% i gyflogau pob aelod arall o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol. Fi yn bersonol sy’n cymeradwyo unrhyw gais i recriwtio, ac ar adegau prin iawn yn unig yr wyf wedi gorfod gwneud hynny hyd yma. Rhaid i bob penodiad gael ei wneud yn fewnol, a dim ond pan mae hynny’n amhosibl e.e. pan mae angen sgiliau arbenigol, y byddaf yn ystyried caniatáu i ni recriwtio’n allanol. Dim ond ar bethau hanfodol y defnyddir gwariant nad yw’n ymwneud â chyflog.
Yn ogystal â lleihau ein diffyg gweithredol, rydym hefyd wedi gohirio prosiectau cyfalaf nad ydym wedi ymrwymo iddynt eto. Nid oes unrhyw achosion busnes newydd ar gyfer gwariant cyfalaf yn cael eu paratoi. Byddwn yn mynd ati i gwblhau pum prosiect adeiladu drwy gyflawni ymrwymiadau cytundebol gan na fyddem yn arbed arian drwy beidio â gwneud hynny. Oni bai ein bod yn cymryd y camau uchod, byddai gennym £250m yn llai o arian parod wrth gefn erbyn diwedd y flwyddyn academaidd nesaf ym mis Gorffennaf 2021.
Mae’r costau staff yr ydym yn eu hadolygu yn cynnwys ein cynlluniau gwobrwyo a chydnabod fel yr Adolygiad o Gyflogau Uwch-aelodau Staff a’r Cynllun Gwobrwyo am Gyfraniad Rhagorol. Mae’n annhebygol y byddwn yn cynnal y rhain eleni. Rydym yn cau pen y mwdwl ar ein cais ar gyfer cynllun ffyrlo’r llywodraeth, a byddwn hefyd yn ystyried gwneud cais am fenthyciadau fydd ar gael gan y llywodraeth. Ar yr ochr gadarnhaol, byddwn yn gallu derbyn 6.5% yn rhagor o israddedigion o Loegr o gymharu â’r niferoedd a ddechreuodd astudio yma’r llynedd (eu recriwtio fydd yr her), ac rydym yn aros am wybodaeth ynglŷn ag unrhyw gyfyngiadau ar nifer y myfyrwyr o Gymru y gallwn eu recriwtio.
O ran ymchwil, er na chafwyd ymateb gan lywodraeth y DU ar y dechrau i gais UUK a Grŵp Russell am gefnogaeth i warchod y sylfaen ymchwil, mae Tasglu Cynaliadwyedd Ymchwil ar lefel y DU wedi’i sefydlu erbyn hyn ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt. Rwyf yn eithaf gobeithiol y bydd hyn yn arwain at ganlyniad cadarnhaol, ond mae’r sefyllfa yn hynod ansicr ac ni allwn ragdybio faint o gymorth a gawn gan y llywodraeth wrth i ni baratoi ein cyllideb ar hyn o bryd.
Nid yw hyd yn oed yr holl gamau rydym wedi’u cymryd eisoes yn mynd i fod yn ddigonol. Mae angen i ni nodi gwerth £50m yn rhagor o arbedion ar gyfer y flwyddyn nesaf. Arbed arian a gwarchod swyddi yw ein blaenoriaeth ar hyn o bryd. Mae’n rhy gynnar gwneud penderfyniadau di-droi’n-ôl ynghylch niferoedd staff, ac rydym yn cael trafodaethau dwys gydag undebau’r campws ynglŷn â sut i fynd ati i wneud popeth posibl i ddiogelu swyddi. Pan fyddwn yn gwybod faint o fyfyrwyr y byddwn yn eu recriwtio, neu o leiaf gyda gwell syniad o beth fydd yn digwydd, byddwn yn gallu dod i benderfyniadau ar sail fwy cadarn. Ar hyn o bryd, rhaid i ni ystyried pob opsiwn ar gyfer lleihau costau staff ochr yn ochr â chydnabod bod angen lleihau llwyth gwaith. Mae hyn yn arbennig o wir o ran llwyth gwaith academaidd drwy leihau nifer y modiwlau ar raglenni, ac asesu mewn ffyrdd mwy effeithlon ac effeithiol lle bynnag y bo modd. Rhaid i ni hefyd ymgymryd â llai o brosesau a gweithgareddau nad ydynt yn hanfodol, neu gael gwared arnynt yn gyfan gwbl. Bydd angen i ni gyd fod yn fwy hyblyg a chanolbwyntio ar roi’r addysg a’r profiad gorau posibl i gynifer o fyfyrwyr â phosibl yn y flwyddyn i ddod. Er ei bod yn bwysig parhau i wneud cais am grantiau lle bo modd, rhaid i ni ganolbwyntio ar ymchwil a gwaith a ariennir yn allanol sy’n hanfodol ar gyfer REF yn ystod y cyfnod hwn. Hoffwn eich sicrhau y bydd dyrchafiadau a phrosesau ADP yn ystyried yr amgylchiadau eithriadol a wynebwn yn ogystal â’r ffaith bod angen i ni ganolbwyntio ar gynnig addysg a phrofiad o’r radd flaenaf i fyfyrwyr, fel yr wyf newydd sôn amdano.
Rydym yn siarad ag undebau’r campws ynghylch gostwng cyflogau yn wirfoddol neu ddod i gytundeb ar y cyd i ostwng cyflogau dros dro. Yn anffodus, gallai’r dewisiadau amgen fod yn fwy annymunol fyth, felly mae’n bwysig ein bod yn ystyried pob posibilrwydd. Rydym eisoes wedi rhoi gwybod i UCEA na fyddwn yn gallu cefnogi dyfarniad cyflogau y cytunir arno’n genedlaethol ym mis Awst.
Er mor annymunol yw unrhyw gamau i arbed arian, rhaid i ni wynebu realiti’r sefyllfa yr ydym ynddi. Er ein bod wedi rheoli ein cyllideb yn ddarbodus dros y blynyddoedd ac mae gennym gryn dipyn o arian wrth gefn, rydym yn gwario dros £28m y mis ar gyflogau. Rhaid i ni reoli ein gwariant yn ofalus er mwyn goroesi’r cyfnod anodd hwn er mwyn i ni fod mewn sefyllfa gref ar ôl yr argyfwng. Ni allwn adael hyn oll tan nes ymlaen yn y flwyddyn. Mae’n hanfodol ein bod yn nodi £50m yn rhagor o arbedion nawr er mwyn i ni allu cyflwyno cyllideb i’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf. Gan fod cynifer o ffactorau o dan sylw sy’n newid drwy’r amser, byddwn yn adolygu’r sefyllfa bob mis ac os bydd pethau’n well na’r disgwyl, byddwn yn gallu addasu ein cynlluniau yn unol â hynny. Fodd bynnag, mae’n gwbl bosibl y bydd y sefyllfa’n waeth, felly rhaid i ni gynllunio a chymryd camau nawr. Rydym wedi trefnu gweminar ar gyfer yr holl staff am 2pm ar 11 Mehefin er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac i ateb eich cwestiynau. Bydd yr holl staff yn cael gwahoddiad calendr i’r cyfarfod ar outlook cyn bo hir fydd yn rhoi manylion am sut i ymuno â ni.
Mae’n ddrwg gen i am orfod rhannu newyddion mor ddigalon unwaith eto. Fel y soniais yn fy ebost diwethaf, rydym yn gweithio’n galed ar geisio agor y campws yn raddol ar gyfer ymchwil, cyn mynd ati i’w agor yn fwy llawn ar gyfer myfyrwyr a addysgir ym mis Medi. Byddwn mewn sefyllfa gryfach os gallwn agor y campws a chadw risg ar lefel dderbyniol ar yr un pryd. Fodd bynnag, mae llu o ffactorau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth, a dyna pam mae angen i fod yn realistig wrth gynllunio. Mae gennym fanteision: rydym wedi cydweithio’n wych wrth reoli’r argyfwng hyd yma; mae Caerdydd yn ddinas hardd ac nid oes angen defnyddio cludiant cyhoeddus i fynd i’r Brifysgol; ac mae gennym ystod ragorol o arbenigedd yn fewnol. Nid yw Cymru’n wlad boblog, ac mae Llywodraeth Cymru i’w chanmol am reoli’r pandemig yn ofalus. Bydd y misoedd a’r blynyddoedd nesaf yn heriol, ond rydym wedi dangos ein bod yn gallu rheoli sefyllfaoedd anodd yn effeithiol, a byddwn yn gwneud hynny eto.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014