Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

9 Ebrill 2020

Annwyl gydweithiwr

Mae wedi bod yn dair wythnos wirioneddol anhygoel. Rwy’n siŵr y bydd llawer ohonoch wedi blino’n lân nid yn unig gan gyflymder a dwysedd gwaith, yn enwedig o orfod gweithio gartref, ond hefyd gan y pryder, y tarfu a’r straen emosiynol a achoswyd gan argyfwng Covid-19.

Yng nghyfarfod diweddar Cyngor y Brifysgol, roedd yn amlwg bod graddfa a chyflymder yr hyn sydd wedi’i gyflawni wedi creu cryn argraff ar y Cyngor, ac roedd yn ddiolchgar dros ben i bawb am eu hymdrech enfawr wrth ddod ynghyd a newid er mwyn gweithio, addysgu a dysgu o bell. Mae ein Canghellor, y Farwnes Jenny Randerson, a’n Rhag-Gangellorion Heather Stephens, Gareth Powell a Gabe Treharne, wedi bod yn canmol ein holl staff a’n myfyrwyr i’r cymylau.

Rydym yn agosáu at benwythnos y Pasg wrth imi ysgrifennu hwn pan gaiff y rhan fwyaf o gydweithwyr y cyfle i gael egwyl hynod haeddiannol. Ar yr un pryd, rydym yn ymwybodol o gyfraniad enfawr pawb sy’n gweithio yn y GIG a phroffesiynau perthynol, yn ogystal â’r rhai sy’n parhau i gynnal gwasanaethau hanfodol ar ran Prifysgol Caerdydd. Hoffwn innau hefyd ddiolch i bawb.

Er mor anhygoel o gyflym y mae pethau wedi newid dros yr wythnosau diwethaf, mae’n bwysig fy mod yn cadw golwg ar oblygiadau strategol ehangach y coronafeirws. Ar ôl y Pasg, bydd angen i ni ddechrau ystyried sut bydd hyn yn effeithio ar ein strategaeth hirdymor yn ôl pob tebyg, a sut bydd angen i ni addasu i fyd ansicr ond tra gwahanol. Bydd yn effeithio’n sylweddol ar yr economi fyd-eang a’n gwlad ein hunain. Bydd angen i ni adolygu Y Ffordd Ymlaen 2018-23 ac ystyried sut bydd angen i raglen Trawsffurfio Caerdydd – dull cyflwyno strategaeth Y Ffordd Ymlaen – addasu i’r amgylchiadau newydd.

Hoffwn ddweud nad wyf wedi anghofio am Arolwg y Staff lle cafodd uwch-reolwyr eu beirniadu am fethu â gwrando ar safbwyntiau staff ac ymateb iddynt yn ddigonol, a bod diffyg eglurder wrth gyfathrebu. Mae hon yn neges glir i mi a fy nghydweithwyr. Rwyf wedi ceisio cyfathrebu’n rheolaidd yn ystod yr argyfwng presennol a byddaf yn parhau i wneud hynny wrth i ni symud i’r cam nesaf. Bydd angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o ymgynghori a chyfathrebu’n effeithiol yn yr amgylchiadau caeth yr ydym ynddynt ac a allai fod yn rhan o’n bywydau am beth amser eto. Bydd angen i ni gydweithio’n agos ag undebau’r campws a chyflwyno ffyrdd o ystyried safbwyntiau staff wrth i ni ymateb i’r heriau enfawr o’n blaenau yn ôl pob tebyg, a dyma thema y byddaf yn ei thrafod ar ôl y Pasg.

Am y tro, mae’n braf gwybod ein bod ni, ym Mhrifysgol Caerdydd, yn chwarae ein rhan. Efallai eich bod wedi clywed bod gennym dîm ymchwil o dan arweiniad Dr Alan Parker sy’n gweithio ar ddatblygu brechlyn ar gyfer y coronafeirws, tra bod cydweithwyr eraill yn yr Ysgol Fferylliaeth a’r Ysgol Meddygaeth yn cynnal ymchwil fydd yn helpu i arafu lledaeniad y feirws. Maent yn gwneud hynny drwy ddatblygu dulliau arloesol o ddiheintio mannau halogedig fel ambiwlansiau yn gyflym, gan olygu bod modd eu hailddefnyddio’n gyflymach, a thrwy ddod o hyd i ffyrdd o’i gwneud yn anoddach i’r feirws ledaenu o un unigolyn i un arall. Maent yn rhan o ymdrech byd-eang digymar i ddatblygu ffyrdd o weithio yn erbyn y feirws. Y nod yw ymateb mewn ffyrdd amgen i’r rhai y mae’n rhaid i’n llywodraethau eu defnyddio ar hyn o bryd, er mor annymunol yw’r rhain o ran yr economi ac yn seicolegol.

Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cyfyngiadau a bod yn rhaid i ni gyd gadw at y rheolau hyn, er mor anodd a rhwystredig yw hynny. Ni fedraf orbwysleisio hyn, yn enwedig yn dilyn y newyddion cwbl ysgytwol yn gynharach yr wythnos hon am Brif Weinidog y DU yn cael ei drosglwyddo i’r uned gofal brys. Fe ddangosodd hyn yn gwbl glir bod hon yn ffenomenon newydd nad ydym yn ei deall nac yn gallu ei gwrthsefyll yn hyderus. Braf oedd clywed ymateb cefnogol arweinydd newydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, a pharodrwydd pobl i roi eu safbwyntiau gwleidyddol gwahanol o’r neilltu a dymuno gwellhad llawn a buan i’r Prif Weinidog a phawb arall sydd mewn sefyllfa debyg.

Bydd llawer ohonoch wedi trefnu gwyliau dros y Pasg, ac wedi gorfod eu gohirio erbyn hyn am resymau amlwg. Rwyf yn siŵr y bydd rhai ohonoch wedi penderfynu peidio â chymryd gwyliau o gwbl am y tro gan fod llai o reswm clir dros wneud hynny. Hoffwn eich annog i ddefnyddio eich gwyliau o hyd os oes modd gan ei bod yn bwysig eich bod yn cael y cyfle i gael seibiant. Fodd bynnag, mae’n ddealladwy os bydd hyn yn anodd o dan yr amgylchiadau. Felly, rydym wedi penderfynu y cewch gario 10 diwrnod ymlaen eleni i’r flwyddyn wyliau nesaf, yn hytrach na’r 5 diwrnod arferol. Gobeithio y bydd hyn yn hwyluso eich cynlluniau.

Yn olaf, mae’n flin iawn gennyf orfod roi gwybod am farwolaeth tri o’n cydweithwyr yn ystod yr wythnos ddiwethaf o ganlyniad i’r epidemig. Fel arwydd o barch i’w teuluoedd, ni fedraf roi rhagor o fanylion ar hyn o bryd, ond ar ran y Brifysgol gyfan hoffwn fynegi ein cydymdeimlad dwys o glywed y newyddion trist hwn. Gyda chaniatâd, byddwn yn creu tudalennau coffa ar ein gwefan maes o law er mwyn i bobl allu talu teyrnged, ac rydym yn cynnig cefnogaeth ym mha bynnag ffordd y gallwn. Wrth i ni fanteisio ar y cyfle i fyfyrio ac ymlacio dros benwythnos y Pasg, byddwn yn meddwl am eu teuluoedd a’u hanwyliaid.

Dymuniadau gorau,

Colin Riordan
Is-Ganghellor