Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff
6 Mawrth 2020Annwyl gydweithiwr,
Efallai eich bod wedi gweld y newyddion am yr achos cyntaf o Goronafeirws (COVID-19) yn ardal Caerdydd sydd wedi’i gadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Er y gallai hyn beri pryder, roedd ymateb Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru i Goronafeirws Newydd (COVID-19), yn glir: nid oes unrhyw risg ychwanegol i’r cyhoedd o ganlyniad i’r newyddion hwn.
Fe gadarnhaodd Prif Swyddog Meddygol Cymru bod y claf wedi dychwelyd i Gymru o ogledd yr Eidal lle daliodd y feirws.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y broses o nodi cysylltiadau agos ac yn cysylltu â nhw, ac maent yn cymryd yr holl gamau priodol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw reswm i gredu bod unrhyw gysylltiad â Phrifysgol Caerdydd.
Gofalu am iechyd a lles staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yw ein prif flaenoriaeth o hyd. Sefydlwyd Tîm Ymateb i Ddigwyddiadau’r Brifysgol i fonitro’r sefyllfa wrth iddi ddatblygu a bydd yn ymateb i gyngor ac arweiniad swyddogol wrth iddynt ddod ar gael.
Rydym yn cysylltu’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff eraill swyddogol y llywodraeth.
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf gan gynnwys y cyngor diweddaraf ar deithio ar gael gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE), y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad (FCO), Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Rydym hefyd wedi creu adrannau am y Coronafeirws Newydd (COVID-19) ar fewnrwyd y staff a’r myfyrwyr. Mae’r tudalennau hyn yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd.
Os oes gennych unrhyw bryderon iechyd sy’n gysylltiedig â’r Coronafeirws (COVID-19), dylech gysylltu â Galw Iechyd Cymru drwy ffonio 0845 46 47 neu 111 i gael cyngor.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014