Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Medi 2019

3 Hydref 2019

Annwyl gydweithiwr

Pan oeddwn i’n fyfyriwr llenyddiaeth Almaeneg ddiwedd y 1970au rwy’n cofio cael boddhad gwirioneddol o ddeall ffurf y nofela ac adnabod yr amrywiol nodweddion oedd yn ei gwahaniaethu yn y traddodiad Almaeneg. Un o’r rhain oedd ‘unerhörte Begebenheit’ — y digwyddiad na welwyd ei debyg, i’w gyfieithu’n eithaf llac – yr oedd iddo swyddogaeth eithaf technegol nad yw’n bwysig yn yr achos hwn. Ond mae’r syniad o ‘ddigwyddiad na welwyd ei debyg’ wedi aros yn fy meddwl, ac rwyf i’n aml wedi meddwl tybed a allai’r fath beth fodoli y tu allan i fyd ffantasi. Wel erbyn hyn mae’n ymddangos ein bod yn wynebu ‘unerhörte Begebenheit’ yn wythnosol os nad yn ddyddiol. Rydym ni mewn tiriogaeth estron yn wir yn y DU ar hyn o bryd. Dyw confensiynau cyfansoddiadol a gwleidyddol ddim yn cael eu parchu fel yr oedden nhw, ac mae’r llysoedd yn chwarae rôl debycach i’r hyn a welwn yn rheolaidd yn yr Unol Daleithiau, gan benderfynu ar gwestiynau cyfansoddiadol o bwys gwleidyddol mawr. Hoffai’r llywodraeth i’r wrthblaid ei dymchwel mewn pleidlais o ddiffyg hyder, ac mae’r wrthblaid yn gwrthod gwneud hynny er bod y llywodraeth tua 40 o bleidleisiau’n brin o fwyafrif. Er gwaethaf hyn mae etholiad cyffredinol yn edrych yn debygol, hyd yn oed yn anochel yn ystod yr wythnosau nesaf. Does dim modd dyfalu i ble fyddai hwnnw’n arwain. Fel y dywedodd un colofnydd yn ddiweddar, mae pob canlyniad yn edrych yn annhebygol ond mae’n rhaid i rywbeth ddigwydd.

Oes ochr gadarnhaol i’w gweld yn unrhyw le? I brifysgolion, mae rhai elfennau addawol. Yn gynt y mis hwn cafwyd croeso i gyhoeddiad yn ymwneud â dychweliad y fisa gwaith ôl-astudio ddwy flynedd, y cyhoeddwyd ei diddymu yn agos i ddeng mlynedd yn ôl yn 2010. Rydym ni wedi bod yn ymgyrchu i’w chael yn ôl byth ers hynny, ac mae’r gwahaniaeth mae’r cyhoeddiad wedi’i wneud yn amlwg eisoes er bod y newid yn gymwys i fyfyrwyr sy’n graddio o 2021 ymlaen yn unig. Mae’r naws sy’n dod o’r wlad hon, sy’n hynod o chwerw ar bwnc Brexit, mewn gwirionedd wedi troi’n fwy croesawgar i fyfyrwyr rhyngwladol, a dyna sut y dylai fod. O ran ymchwil, ceir arwyddion bod y llywodraeth bresennol yn ymrwymo i gynnydd difrifol mewn cyllid ymchwil ac arloesi; wrth gwrs mae’r cwestiwn a fydd yn gallu cyflawni hynny yn un sy’n amhosib ei ateb yn wyneb y sefyllfa bresennol. Felly er ei bod yn wir ein bod yn byw drwy argyfwng cyfansoddiadol a gwleidyddol na phrofodd yr un ohonom ei debyg, ceir rhesymau i fod yn ofalus obeithiol yn ein sector ni o leiaf.

Yn agosach adref, rydym ni wedi parhau i wneud cynnydd da ar Trawsffurfio Caerdydd. Fel y disgrifiais yn fy anerchiadau i’r holl staff, bu creu Un Gwasanaeth Proffesiynol ar 1 Awst yn llyfn er y bydd mwy i’w wneud i wreiddio’r ffyrdd newydd o weithio. Yn ariannol rydym ni ar y llwybr cywir i gwrdd â’n costau erbyn diwedd y flwyddyn, ac er na fydd hyn yn cwblhau ein hadferiad ariannol (mae angen i ni fynd yn ôl i gynhyrchu gwarged ar gyfer buddsoddi), bydd yn garreg filltir bwysig. Ar ôl ymgynghori’n eang gyda chydweithwyr mae’r syniadau am newid a nodwyd ym mhapur Trawsffurfio Caerdydd ym mis Chwefror wedi datblygu ac mewn rhai achosion wedi trosi’n ffyrdd gwahanol o gyflawni’r canlyniadau dymunol. Rydym ni’n gwneud cynnydd da ar ehangu’r bwlch rhwng costau staff ac incwm cyffredinol.

Rydych chi heb os yn gwybod bod yr elfen fwyaf yn ein hincwm yn ymwneud â’n gweithgaredd addysgu, ac er ei bod ychydig yn gynnar i fod yn siŵr, mae’n edrych fel pe bai recriwtio myfyrwyr unwaith eto eleni wedi mynd yn dda. Mae recriwtio a derbyn myfyrwyr yn hynod o bwysig i ni ac yn gofyn am lawer gan gydweithwyr dros yr haf, yn enwedig yn ystod cyfnod Clirio ym mis Awst. Mae diolch mawr yn ddyledus i bawb: Tîm Sally Rutherford yn yr adran Derbyn, y timau sy’n gweithio mewn amgylchedd cystadleuol iawn dan Laura Davies yn recriwtio myfyrwyr ac allgymorth (gartref ac yn rhyngwladol) y tîm marchnata a phawb yn yr ysgolion academaidd, yn staff proffesiynol ac academaidd. Ar ôl bod yn gyfrifol am dderbyn fy hun am flynyddoedd lawer rwy’n gwybod nid yn unig pa mor bwysig yw hyn ond hefyd y lefel o arbenigedd ac ymroddiad sydd ei angen. Diolch i bob un ohonoch chi.

Yn ddiweddar ym Mwrdd Gweithredol y Brifysgol buom yn trafod argyfwng yr hinsawdd a sut i ymateb. Yn fuan byddwn yn ymgynghori gyda’r Cyngor ar y mater ac ar hyn o bryd rydym ni’n cwblhau’r mesurau y gallwn eu cymryd fel Prifysgol i gyfrannu at y mudiad mewn modd sy’n fwy na symbolaidd yn unig. Mae angen i ni feddwl am sut a faint rydym ni’n teithio, ystyried ein defnydd o ynni a sut rydym ni’n defnyddio cynhyrchion anifeiliaid. Ar ôl bod yn figan fy hun ers dros chwe blynedd efallai fy mod wedi osgoi sôn am y mater olaf hwn rhag ofn iddi ymddangos fy mod yn pwysleisio diddordeb personol. Ond mae’r dystiolaeth fod amaethyddiaeth anifeiliaid a defnydd a threuliant cynhyrchion anifeiliaid yn cyfrannu’n sylweddol iawn at y llwyth carbon byd-eang yn argyhoeddi. Fel gyda phlastigau defnydd untro mae hwn yn rhywbeth y gall pawb gymryd rhan ynddo, boed drwy leihau treuliant bwyd o darddiad anifail neu fabwysiadu’r athroniaeth figan yn llawn, sy’n golygu cyhyd ag y bo’n bosibl gael gwared ar gynhyrchion anifeiliaid nid yn unig o fwyd ond hefyd o ddillad ac unrhyw beth arall rydym ni’n ei brynu neu’n ei ddefnyddio. Fel Prifysgol mae angen i ni ystyried yn ddifrifol sut rydym ni’n creu bwydlenni yn ein hallfeydd arlwyo i’w gwneud yn haws i bobl fwyta bwyd a wnaed i blanhigion os yw’n well ganddyn nhw, fel y mae’n rhaid i ni symud i ffwrdd o gynnig poteli plastig defnydd untro ar werth. Mae dewisiadau amgen yn bodoli ac os ydym ni am ymdrin â’r argyfwng hinsawdd bydd angen newid ein harferion mewn pob math o ffyrdd. Rydym ni’n ffodus yng Nghaerdydd oherwydd bod gennym ni arbenigedd rhagorol yn y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol dan arweiniad yr Athro Lorraine Whitmarsh. Yn ddiweddar bu Lorraine yn cynghori’r Bwrdd Gweithredol ar argyfwng yr hinsawdd ac mae wedi ysgrifennu blog ar y materion cymhleth hyn os oes gennych chi ddiddordeb; gobeithio y bydd.

Yn y Bwrdd ac mewn ffora eraill rydym ni wedi bod yn trafod hiliaeth a beth sydd angen i ni fel Prifysgol a Bwrdd ei wneud i helpu i gau’r bwlch cyrhaeddiad BAME, y soniais i amdano yn fy ebost ym mis Gorffennaf.  Fel rhan o’r broses honno ac i helpu i fynd i’r afael â’r ystyriaethau ehangach i staff a myfyrwyr rydym ni wedi sefydlu tri gweithgor wedi’u cyd-gadeirio gan aelod o’r Bwrdd a chydweithiwr BAME. Michelle Alexis a Karen Holford sy’n cadeirio’r grŵp llywio cyffredinol, Jeff Allen ac Amanda Coffey sy’n cadeirio grŵp y myfyrwyr ac Abyd Quinn-Aziz a Sue Midha sy’n cadeirio grŵp y staff. Mae cymaint i’w wneud nid yn unig i wella amrywiaeth, ond hefyd i greu amgylchedd a diwylliant lle gallwn ni siarad yn gynhyrchiol am hil a hiliaeth. Yr her gyntaf yw cydnabod maint y broblem, ac yma gallaf argymell yn gryf y gyfrol newydd gan ein cydweithiwr Susan Cousins, Overcoming Everyday Racism. Mae’r teitl ei hun yn amlygu’r broblem dan sylw, ac mae’r llyfr yn trafod y ffordd orau i hyrwyddo ‘llesiant BAME’. Yr hyn sy’n dod yn amlwg i mi yw ein bod ni i gyd yn gyfrifol am y mater hwn. Roedd y canlynol yn arbennig o drawiadol: ‘Mae llawer o bobl wyn yn teimlo nad ydyn nhw’n perthyn i grŵp hiliol nac yn sylweddoli unrhyw arwyddocâd eu bod yn wyn – maen nhw’n eu gweld eu hunain fel y norm’ (t 50). Felly caiff ‘normalrwydd ac anweledigrwydd braint y gwynion’ ei gynnal. Yn amlwg ni allaf i siarad ar ran pobl o gefndir BAME, sef y rhai mae’r llyfr hwn wedi’i anelu atynt yn bennaf o bosib, ond rwyf i’n credu bod llawer i’w ddysgu i bob aelod o gymdeithas, boed ar bwnc ‘jôcs a banter’ (t 84) neu ‘micro-ymosodeddau’ (t 102). Ar dudalennau 103-4 ceir rhestr ddefnyddiol iawn o ymddygiadau mae ‘cynghreiriaid gwyn’ yn tueddu i’w harddangos sydd, yn gryno, yn cynnwys cydnabod y fraint maen nhw’n ei derbyn fel aelod o’r grŵp mwyafrifol, gwrando a chredu profiadau aelodau o grwpiau sydd wedi’u hymylu heb eu bychanu na’u hanwybyddu, bod yn barod i gymryd risg a gweithredu er gwaethaf eu hofnau eu hunain, bod yn wylaidd (nid yn nawddoglyd), yn barod i gael eu herio am ymddygiad a newid, gwneud safiad hyd yn oed os nad oes person sydd wedi’i ymylu’n bresennol, credu bod modd iddyn nhw wneud gwahaniaeth a gwybod sut i ennyn cefnogaeth cynghreiriaid eraill; peidio â rhoi baich ar y grŵp sydd wedi’i ymylu i ddarparu addysg barhaus. Yn wyneb y rhaniadau rydym ni’n eu gweld yn ein cymdeithas ar hyn o bryd, mae hon i’w gweld yn foment addas i gydnabod nid yn unig ein cyfrifoldeb fel Prifysgol ond hefyd cyfrifoldebau unigol y rheini ohonom ni sy’n perthyn i’r grŵp mwyafrifol. Mae’r achos dadleuol diweddar sy’n ymwneud â Naga Munchetty yn enghraifft berthnasol o sut mae camgymeriadau’n gallu cael eu gwneud mewn achosion o’r fath.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, gallech fod eisoes yn ymwybodol bod Mis Hanes Pobl Dduon 2019 wedi dechrau. Mae’n cynnig llu o gyfleoedd i ddathlu amrywiaeth a chydnabod cyfraniad enfawr Pobl Dduon Prydain i’n diwylliant a’n cymdeithas yma yng Nghaerdydd a thu hwnt. Mae Wales Online newydd gyhoeddi eu rhestr flynyddol Brilliant, Black and Welsh: A celebration of 100 African Caribbean and African Welsh People. Llongyfarchiadau i Mercy Ngulube, sy’n astudio Llenyddiaeth Saesneg gyda ni, Dr Ahmed Ali o Ysgol y Biowyddorau, ac Ali Abdi, Rheolwr Partneriaethau ein Porth Cymunedol, sydd ar y rhestr yn ogystal â sawl un arall sydd â chysylltiadau â’r Brifysgol. Mae’n gwbl briodol bod eu cyflawniadau’n cael eu dathlu a gallwn fod yn falch iawn o bob un ohonynt.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor