Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Mawrth 2019

3 Ebrill 2019

Annwyl gydweithiwr

Er eich bod yn debygol o gael yr ebost hwn ar 29 Mawrth 2019, diwrnod yr oeddwn, wrth gwrs, yn bwriadu mynd ati’n ofalus i lunio cyfathrebiad, ychydig iawn sydd gen i i’w ddweud i fwrw goleuni ar faterion mewn gwirionedd. O ystyried pa mor gyfnewidiol yw’r sefyllfa, mae’n fwy na phosibl y byddwch yn gwybod mwy erbyn hyn nag oeddwn i pan ysgrifennais yr ebost. Felly er gwaethaf pwysigrwydd enfawr y cwestiynau sy’n cael eu trafod yn Senedd y DU ar hyn o bryd, mae hyn o leiaf yn cynnig cyfle i symud ymlaen i faterion eraill a chymryd llai o’ch amser y mis hwn.

Cynhaliwyd dau ddigwyddiad i lansio ein Cynghrair Bremen-Caerdydd newydd y mis hwn: seremoni lofnodi gyda chyflwyniadau academaidd yn Bremen, a digwyddiad cyfatebol tua diwedd y mis yng Nghaerdydd. Cafodd y seremonïau, wrth gwrs, eu hamseru i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi trefniadau ar waith ac yn eu cyhoeddi cyn y dyddiad ar gyfer gadael yr UE, ac yn amlwg rydym wedi llwyddo i wneud hynny gyda mwy o amser dros ben na’r disgwyl. Yr hyn ddylai rhoi llawer o hyder i ni ynglŷn â llwyddiant ein partneriaeth strategol academaidd ddiweddaraf yw, yn gyntaf oll, faint o gydweithio academaidd sydd eisoes yn bodoli yn y meysydd ffocws, sef gwyddorau’r môr, y rhyngweithio rhwng llenyddiaeth a gwyddoniaeth, a’r cyfryngau a newyddiaduraeth. At hynny, mae menter gydweithredol addawol iawn ym maes technolegau lled-ddargludyddion. Yn ail, mae ewyllys da a brwdfrydedd yn Bremen a Chaerdydd ynghylch y bartneriaeth hon, ac roedd y nifer fawr o bobl o’r ddwy ochr a ddaeth i’r ddau ddigwyddiad, a’r ymdrech fawr gan bawb i sicrhau eu bod yn llwyddiannus, yn dystiolaeth o hynny. Yn olaf, mae’r awydd ar y naill ochr a’r llall i greu cysylltiad rhwng cydweithwyr a’r sefydliad partner er mwyn hwyluso mynediad at ffynonellau arian ar y ddwy ochr yn gwneud datganiad clir am y gwerth rydym yn ei roi ar gydweithio rhyngwladol ym maes ymchwil, beth bynnag fydd yn digwydd o ran Brexit. Cysylltwch â’r Athro Nora De Leeuw (Rhag Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop) os ydych yn teimlo y gallai eich maes academaidd chi gymryd rhan yn y dyfodol.  Mae Cynghrair Bremen-Caerdydd yn ymuno â’r partneriaethau strategol sydd gennym eisoes gyda KU Leuven, Prifysgol Xiamen, ac UNICAMP: mae pob un ohonynt wedi’i seilio ar gyllid sy’n galluogi staff i fynd dramor i wella ein hamgylchedd ymchwil, cefnogi mentrau cydweithredol byd-eang, a helpu i ddatblygu’r agenda effaith ryngwladol. Y dyddiad cau ar gyfer Xiamen a KU Leuven oedd 15 Mawrth, a’r dyddiadau cau nesaf fydd 30 Mawrth (UNICAMP) a 9 Mai (Bremen), felly cofiwch fanteisio ar y cyfleoedd hyn os oes gennych ddiddordeb.

Mae’n bleser gennyf ddweud bod pedwar o bynciau Prifysgol Caerdydd ymhlith y 50 Uchaf yn y byd ar Restr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc 2019. Mae safle uchaf Prifysgol Caerdydd ym maes Cyfathrebu ac Astudiaethau Cyfryngau, sef 25ain yn y byd. Mae Pensaernïaeth/Amgylchedd Adeiledig yn 37ain, Peirianneg – Mwynau a Mwyngloddio yn 43ain, a Deintyddiaeth yn 50fed. Mae Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, Daearyddiaeth, Fferylliaeth a Ffarmacoleg, Seicoleg, a Pholisïau Cymdeithasol a Gweinyddiaeth ymhlith y 100 uchaf. Fel bob amser, mae angen cymryd gofal wrth ddehongli rhestri o’r fath, fodd bynnag, yn ogystal â dangos pa mor ddylanwadol ar lefel ryngwladol yw’r meysydd pwnc hyn yng Nghaerdydd, mae hyn yn amlygu gwaith caled ac arbenigedd ein staff, yn ogystal â gallu ein myfyrwyr.

Yn olaf, llongyfarchiadau i Dr Emily Cock a Ms Susan Greaney, Cydymaith Ymchwil a myfyriwr PhD, o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, sydd wedi cael eu dewis yn Feddylwyr y Genhedlaeth Newydd yn y fenter a gynhelir ar y cyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a’r BBC. Mae’r wobr fawreddog yn cynnig cyfle cyffrous i’r ddau ymchwilydd o Gaerdydd, sydd ar ddechrau eu gyrfa, i ymuno ag wyth o ymchwilwyr eraill ledled y DU i rannu eu hymchwil drwy wahanol sianeli ar y cyfryngau, ac ar y radio yn enwedig, drwy greu rhaglenni ar gyfer BBC Radio 3 a chymryd rhan yng Ngŵyl Being Human. Rwy’n siŵr y bydd eu gwaith am fywydau a chredoau ein cyndeidiau o ddiddordeb i gynulleidfa eang ac y byddan nhw yn eu tro yn dysgu llawer wrth rannu’r gwaith.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor