E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Medi 2018
28 Medi 2018Annwyl gydweithiwr,
Wrth edrych yn ôl drwy fy negeseuon blaenorol (rhywbeth rydw i’n ei wneud yn aml wrth fynd ati i ysgrifennu ebost newydd), rydw i wedi sylwi mai prin iawn yw’r sôn am Brexit. Pan gyfeiriais at Brexit yn ebost mis Mai, roeddwn yn obeithiol y gallai’r DU gymryd rhan yn Horizon Ewrop (olynydd Horizon 2020) yn ogystal â pharhau i ddylanwadu ar sut caiff ei dylunio. Yn anffodus, mae’r posibilrwydd o gael unrhyw ddylanwad o bwys yn hynod annhebygol erbyn hyn yn ôl pob golwg. Mae gennym hefyd ein amheuon a fyddwn hyd yn oed yn rhan o Horizon 2020 o gwbl wedi i ni adael yr UE. Er bod llawer o bobl a chyrff dylanwadol y naill ochr i’r sianel yn awyddus i ni drafod a dod i gytundeb ynghylch sut bydd y DU yn gadael yr UE, go brin bod angen i mi amlygu’r ffaith ei bod yn fwy tebygol nag erioed y byddwn yn gadael yr UE mewn modd cymharol anhrefnus ddiwedd mis Mawrth 2019. Nid yw’r Papur Gwyn a gyflwynwyd i’r Cabinet yn Chequers wedi cael y gefnogaeth yr oedd y Prif Weinidog wedi gobeithio ei chael, yn y DU na thramor, ac ni ellir gwadu cymaint o drychineb diplomyddol oedd yr uwch-gynhadledd yn Salzburg i’r DU. Fel cynifer o’r datblygiadau gwleidyddol dros y blynyddoedd diwethaf, nid oedd yn amlwg yn y gwanwyn mai dyma a fyddai’n digwydd o reidrwydd. Dros gyfnod o ychydig dros ddwy flynedd, rydw i wedi treulio cryn dipyn o amser mewn amrywiaeth o bwyllgorau Brexit yma yng Nghymru ac yn Llundain. Nod y pwyllgorau hyn yw trafod sut i ddiogelu pwyllgorau, partneriaethau ymchwil, a buddiannau ein staff a’n myfyrwyr cymaint â phosibl drwy’r broses. Yn fwy penodol, fe wnes i gadeirio grŵp yn ddiweddar sy’n gwneud gwaith manwl ynghylch sefyllfaoedd posibl o ran symudedd a chyfnewid myfyrwyr (Erasmus+). Mae’n amlwg erbyn hyn, fodd bynnag, bod rhaid cynllunio’n fanwl ar gyfer y posibilrwydd o adael yr UE mewn modd disymwth a diseremoni y flwyddyn nesaf. Gallai hyn effeithio ar fyfyrwyr a staff yn ogystal â gweithrediad cyffredinol y Brifysgol. I’r perwyl hwnnw, rydw i wedi gofyn i Ms Jayne Sadgrove, ein Prif Swyddog Gweithredu, gadeirio grŵp fydd yn paratoi ar gyfer cynifer o sefyllfaoedd â phosibl er mwyn i ni fod yn barod i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol. Os bydd Senedd y DU a 27 gwladwriaeth yr UE yn llwyddo i ddod i gytundeb a’i gymeradwyo, gyda lwc, bydd y gwaith paratoadol hwn yn hynod werthfawr wrth i ni agosáu at ddiwedd y cyfnod pontio a fyddai’n dod i rym wedi hynny.
Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, byddwn hefyd yn cyflymu’r broses ‘Trawsnewid Gwasanaethau Proffesiynol’. Y nod yw chwilio am gyfleoedd i wella prosesau trafodaethol. Drwy wneud hyn bydd gan gydweithwyr yr amser i fynd i’r afael â rhai o’n hanawsterau mwyaf, yn hytrach na delio â materion a allai gael eu symleiddio a/neu eu hawtomeiddio. Ar adeg o darfu a chyfyngiadau ariannol digynsail, bydd angen i ni adolygu ein gweithgareddau academaidd hefyd yn ystod y flwyddyn i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cyflawni’r nodau strategol a amlinellir yn Y Ffordd Ymlaen 2018-23. Rhaid i ni allu sicrhau’r Cyngor bod maint a siâp y Brifysgol yn cyd-fynd â’n cenhadaeth, a’n bod yn gallu gweithredu’n llwyddiannus o fewn y cyfyngiadau cyllidebol y cytunwyd arnynt yng nghyfarfod diwethaf y flwyddyn academaidd ym mis Gorffennaf. Fe wnes i a’r Prif Swyddog Ariannol, Mr Rob Williams, amlinellu rhai o’r materion hyn yn y tri anerchiad ar gyfer yr holl staff yn gynharach y mis hwn. Maes o law bydd gan bob cydweithiwr y cyfle i gyflwyno syniadau ynghylch sut gallem fod yn fwy effeithlon ac effeithiol yn ogystal â manteisio ar gyfleoedd newydd.
Gan gyfeirio at fis Gorffennaf, fy mwriad yn fy ebost y mis hwnnw oedd diolch i bawb oedd wedi cyfrannu yn ystod wythnos lwyddiannus y seremonïau graddio. Yn anffodus, ni lwyddais i gynnwys pawb. Daeth i’r amlwg i mi wedi hynny mod i heb ddiolch i staff y Preswylfeydd na staff y Swyddfa Cynadleddau fu’n gyfrifol am gydlynu, paratoi a rheoli llety ar gyfer y gwesteion oedd yn mynd i’r seremonïau graddio. Yn amlwg, mae’r rhain yn cynnwys y staff domestig a chynnal a chadw. Fe wnaeth llawer ohonynt weithio goramser ar nosweithiau ac ar y penwythnos i wneud yn siŵr bod y llety yn barod a bod popeth yn ei le. Rydw i’n hapus iawn i wneud y cywiriadau hyn. Bydd llawer o’r staff hyn hefyd wedi helpu’r tîm Cynadledda a Digwyddiadau wrth groesawu’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a’i chynhadledd flynyddol yn ystod yr haf. Fe wnaethom groesawu 1,700 o gynadleddwyr o 51 o wledydd. Dyma’r nifer uchaf o bobl mewn cynhadledd y tu allan i Lundain, ac o bosibl un o’r cynadleddau mwyaf i’r Brifysgol ei chynnal erioed. Roedd y gynhadledd yn llwyddiant ysgubol ac yn bluen yn ein het yng Nghaerdydd. Roedd hefyd yn gyfle i ddangos i’r byd ehangach beth allwn ei wneud yma.
Llongyfarchiadau enfawr i’r Athro Justin Lewis, Mrs Sara Pepper a phob aelod o Brifysgol Caerdydd a arweiniodd y cais llwyddiannus i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau am fuddsoddiad digynsail gwerth miliynau o bunnoedd yn economi greadigol y DU. Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Llywodraeth Cymru, mae ein prosiect cydweithredol £10m, Clwstwr Creadigol, yn canolbwyntio ar y diwydiannau sgrîn. Bydd Rhaglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol, sy’n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, yn ein galluogi i ddefnyddio ein doniau a’n harbenigedd ymchwil i ysgogi arloesedd ym myd diwydiant. Bydd hefyd yn helpu i feithrin clystyrau creadigol mewn naw lleoliad ledled y DU, gan gynnwys Caerdydd, wrth gwrs. Fel y gwyddoch yn ôl pob tebyg, anaml iawn y ceir buddsoddiadau o’r fath yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Felly, gallwn fod yn hynod falch o gyflawniadau ein cydweithwyr a dymunwn bob llwyddiant iddynt. Hefyd mewn cysylltiad â Choleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, pleser o’r mwyaf oedd gweld Emmajane Milton, darllenydd a chyd-gyfarwyddwr y radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yn derbyn Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol gan yr Academi Addysg Uwch (sydd nawr yn rhan o Advance HE). Mae’r Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol yn wobrau hynod werthfawr sy’n dangos ein hymrwymiad clir i’r rhan bwysig hon o’n cenhadaeth, ac mae’n glod enfawr i’r unigolyn o dan sylw. Llongyfarchiadau mawr i Emmajane.
Rydym wedi ymrwymo o hyd i gymryd rhan ym mhroses Stonewall o restru’r 100 Cyflogwr LGBT gorau. Fe wnaethom yn arbennig o dda y llynedd drwy fod y brifysgol uchaf ar y rhestr yn y 14eg safle. Yn rhan o’r broses hon, hoffwn eich annog i gymryd rhan yn yr arolwg adborth sy’n agored i’r holl staff ac sy’n mynd i Stonewall yn uniongyrchol. Mae’n rhan o’n proffil ar gyfer y 100 uchaf, ond yn bwysicach na hynny, mae’n rhoi syniad i ni o sut mae ein staff LGBT a’u cyfeillion yn ei deimlo ynghylch gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd. I lenwi’r arolwg, nodwch y côd unigryw ar gyfer Prifysgol Caerdydd: 1106. Mae dolenni i’r arolwg (Cymraeg a Saesneg) i’w gweld yma:
Yn olaf, rydym yn ffarwelio’r mis hwn ag Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig (Deoniaeth Cymru) a Chanolfan Cymru ar gyfer Addysg Fferylliaeth Broffesiynol. Bydd y ddwy ganolfan yn gadael Prifysgol Caerdydd ar 1 Hydref 2018 i ymuno ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Maent wedi bod yn cydweithio â’r Brifysgol ers blynyddoedd lawer a hoffwn ddiolch i’r cydweithwyr o dan sylw am eu teyrngarwch, eu hymroddiad a’u hymrwymiad. Maent wedi bod yn rhan hynod gadarnhaol o fywyd y Brifysgol ac wrth i ni gydweithio â’r GIG. Yn ffodus, byddwn yn gallu parhau i gydweithio’n agos yn y dyfodol drwy AaGIC fydd â rôl hollbwysig yn ein partneriaeth gyda’r GIG a Llywodraeth Cymru.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014