Streic: Cynlluniau i gefnogi eich dysgu a’ch asesiadau, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod y streic ddiweddar yn tarfu arnoch cyn lleied â phosibl
23 Mawrth 2018Y diweddaraf i fyfyrwyr gan y Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd am sut rydym am barhau i gefnogi eich dysgu a’ch asesiadau, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod y streic ddiweddar yn tarfu arnoch cyn lleied â phosibl.
Annwyl fyfyriwr,
Wrth i lawer ohonoch fynd adref dros y Pasg, hoffwn roi’r newyddion diweddaraf i chi am sut rydym am barhau i gefnogi eich dysgu a’ch asesiadau, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod y streic ddiweddar yn tarfu arnoch cyn lleied â phosibl.
Rydw i’n sylweddoli bod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai anodd a heriol i rai ohonoch, a bod y sefyllfa wedi effeithio ar rywfaint o ddysgu ac addysgu.
Mae’n ddrwg iawn gennym fod y sefyllfa hon wedi codi, a hoffwn eich sicrhau ein bod yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr eich bod yn deall pa gamau lliniaru y byddwn yn eu cymryd o ganlyniad i’r tarfu a achoswyd gan y streic.
Dylech fod wedi cael gwybodaeth fanwl yr wythnos hon gan eich ysgol i nodi’r camau a gaiff eu cymryd ar gyfer pob modiwl y mae’r streic wedi effeithio arnynt.
Os nad ydych wedi cael y manylion hyn, edrychwch ym mewnflwch eich cyfrif ebost yn y Brifysgol ac ar Dysgu Canolog.
Gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa eich Ysgol a ddylai allu rhoi gwybodaeth i chi.
Rydw i’n falch o allu rhoi gwybod ein bod wedi creu llinell gymorth a chyfeiriad ebost penodedig erbyn hyn ar gyfer unrhyw ymholiadau neu gwestiynau sydd gennych ynglŷn â’r aflonyddwch a achoswyd gan y streic.
Bydd y Llinell Gymorth i Fyfyrwyr am y Streic, 029 2251 1333, ar agor ar ddiwrnodau gwaith yn ystod gwyliau’r Pasg – dydd Mawrth 27 Mawrth i ddydd Gwener 13 Ebrill – rhwng 9am a 5pm.
Gallwch hefyd anfon ebost at: disruptionadvice@caerdydd.ac.uk ac fe wnawn ein gorau i ateb eich ymholiad cyn gynted â phosibl.
Gallaf gadarnhau hefyd y byddwn yn cyhoeddi amserlen yr arholiadau ar amser ddydd Iau 29 Mawrth 2018.
Bydd arholiadau yn cael eu cynnal yn ôl y disgwyl, a bydd yr arholiadau yn asesu’r dulliau dysgu a gyflwynwyd. Os, mewn amgylchiadau eithriadol, bu angen gwneud newidiadau i arholiadau ac asesiadau o ganlyniad i darfu ar fodiwlau, bydd eich Ysgol academaidd wedi rhoi gwybod i chi.
Mae rhai ohonoch wedi holi ynghylch ceisiadau am amgylchiadau esgusodol. Mi fedra i eich sicrhau y bydd pob Bwrdd Arholi wedi cael gwybod am bob achos pan mae’r streic wedi amharu’n uniongyrchol ar addysgu a’r camau lliniaru a gymerwyd.
Mi fedra i gadarnhau bod yr holl fodiwlau y mae’r streic wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol yn cael eu hystyried yn rhai lle bu diffyg neu anghysondeb yn null cyflwyno a/neu asesu’r modiwl. Felly, ni fydd angen i chi roi gwybod am y rhain fel amgylchiadau esgusodol. Bydd addasiadau priodol yn cael eu gwneud.
Dylech barhau i roi gwybod am yr holl amgylchiadau esgusodol eraill, er enghraifft sy’n ymwneud â salwch neu amgylchiadau personol eraill, yn y ffordd arferol.
Cewch ragor o wybodaeth am sut i wneud hyn yn: https://intranet.cardiff.ac.uk/students/study/exams-and-assessment/extenuating-circumstances
Mae rhai myfyrwyr wedi sôn am hawlio iawndal ac mae hyn wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau. Ein blaenoriaeth a’n hymrwymiad bob amser yw gwneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn cael cyfleoedd priodol ar gyfer dysgu ac asesu.
Cofiwch gadw llygad ar y wybodaeth a gyhoeddir yn y cwestiynau cyffredin i fyfyrwyr, Dysgu Canolog ac mewn negeseuon ebost gan eich ysgol. Byddwn yn diweddaru’r wybodaeth yn rheolaidd.
Yn olaf, rydym yn disgwyl i’r seremonïau graddio gael eu cynnal yn ôl yr amserlen wreiddiol a bydd gwahoddiadau’n cael eu hanfon cyn bo hir.
Yn gywir,
Yr Athro Amanda Coffey
Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyriwr a Safonau Academaidd
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014