Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Neges gan yr Is-Ganghellor

16 Mawrth 2018

Neges gan yr Is-Ganghellor: Gweithredu nad yw’n cynnwys streicio a didynnu cyflog yn raddol

Rydym yn deall bod y myfyrwyr yn agos iawn at galon y cydweithwyr sy’n streicio, a bod yn flin ganddynt am deimlo eu bod yn gorfod parhau i weithredu. Ar y sail honno, ac o fewn cyfyngiadau gweithredu nad yw’n cynnwys streicio, rydym yn tybio y bydd cydweithwyr yn gwneud popeth posibl i leihau’r effaith ar fyfyrwyr, ac yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael eu paratoi’n dda ar gyfer arholiadau.

Rydym yn deall y gallai’r ymdrechion hynny amrywio’n fawr o ran ffurf, ac efallai na fydd ceisio aildrefnu dosbarthiadau yn ymarferol nac yn ddymunol o ran addysgeg. Felly, nid ydym yn rhagweld y bydd cyflogau cydweithwyr yn cael eu cadw yn ôl am weithredu nad yw’n cynnwys streicio.

Er mwyn cynnal perthynas effeithiol gyda gweithwyr, bydd cyflogau’r rhai sy’n streicio yn cael eu didynnu’n raddol dros gyfnod o dri mis gan ddechrau ym mis Ebrill 2018.  Mae’r Brifysgol hefyd yn ailddatgan ei hymrwymiad y bydd yr ysgolion academaidd yn cadw’r cyflogau a gedwir yn ôl oherwydd streicio er budd addysg y myfyrwyr.

Mae’r Brifysgol yn awyddus i barhau i gynnal trafodaethau adeiladol gydag Undeb y Colegau a Phrifysgolion (UCU), ac rydym yn gwneud popeth y gallwn i ddylanwadu ar drafodaethau ar lefel genedlaethol er mwyn dod i gytundeb cynaliadwy ar gyfer pensiynau.

Colin Riordan

Is-Ganghellor