Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Gohebiaeth rhwng yr Is-Ganghellor ac aelodau UCU sy’n streicio

15 Mawrth 2018

Annwyl lofnodwyr

Diolch am eich ebost ac am y camau pwyllog ac adeiladol yr ydych yn eu cymryd. Does gen i’r un amheuaeth eich bod yn gyndyn i fynd ar streic a bod ein myfyrwyr, ymchwil a chymuned y Brifysgol yn agos iawn at eich calon. Ar fy rhan i, gallaf eich sicrhau bod Prifysgolion y DU (UUK) wedi ymrwymo i ddod o hyd i fodd derbyniol a chynaliadwy o ddatrys y sefyllfa anodd a niweidiol hon cyn gynted â phosibl.

Cytunaf yn llwyr â chi bod rhaid inni herio’r Rheoleiddiwr Pensiynau i adolygu ei sefyllfa. Fe gofiwch imi ddweud hynny mewn datganiad cyhoeddus ar y cyd ag UCU Caerdydd. Bu’n glir ers tro bod gan y Rheoleiddiwr – ar ôl ymyrryd ddwywaith y llynedd i annog USS i fabwysiadu safbwynt mwy ceidwadol tuag at y prisiad – rôl hanfodol, a rhaid i ni roi llawer mwy o sylw i’r maes hwnnw. Yn yr un datganiad, gwnaethom alw hefyd am grŵp wedi’i lywio’n academaidd i oruchwylio prisiad annibynnol newydd, awgrym a godwyd hefyd yn y cytundeb ACAS a wrthodwyd. Mae’n rhaid i hynny, does bosib, fod yn rhan o unrhyw gytundeb.

Bydd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau rôl bwysig os yw’r sefyllfa bresennol i’w chynnal y tu hwnt i fis Ebrill 2019, am fod y canlyniad hwnnw’n debygol o fod yn gysylltiedig â’r mater o brisiad 2017. Fy ngham nesaf fydd pwyso ar y partïon perthnasol – UUK, UCU, USS a’r Rheoleiddiwr – i’w wneud yn glir a oes modd ailedrych ar brisiad 2017. Os nad, pam felly, ac os felly, a oes posibilrwydd realistig o newid tybiaethau, megis diddymu’r gofyn am fwy o ariannu neu fuddiannau is. Yn ôl pob golwg, ni ddigwyddodd hyn yn ystod y 18 mis cyn prisiad 2017 o gofio bod gan UCU dri ymddiriedolwr ar Fwrdd USS (Dave Guppy, Jane Hutton a Steve Wharton).

Diolch ichi am amlinellu eich rhesymau dros wrthod cynnig ACAS. Yn fras, maen nhw’n cyd-fynd â’r hyn â glywais o siarad yn uniongyrchol â nifer o gydweithwyr fu’n streicio. Rwyf o’r farn ei bod yn bwysig iawn bod eich safbwyntiau’n cael eu clywed yng Ngrŵp Russell yn ogystal ag UUK, a byddaf yn eu lleisio. Mae’n anodd gweld sut y gellir datrys y sefyllfa heb ein bod yn gallu gwrando ar bryderon aelodau USS, a mynd i’r afael â’r pryderon hynny; mynd i’r afael â nhw mewn modd fforddiadwy a chynaliadwy sy’n dderbyniol i’r holl bartïon yw’r nod. Er lles pawb sy’n gysylltiedig â’r anghydfod, rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o wneud hynny.

Cofion gorau

Colin Riordan

———-

Annwyl Athro Riordan,

Rydym yn ysgrifennu atoch fel grŵp sydd wedi ymgynnull ar y llinell biced y tu allan i adeilad BUTE dros y pedair wythnos ddiwethaf. Mae ein grŵp yn cynnwys staff JOMEC ac ARCHI mewn swyddi academaidd, proffesiynol a gweinyddol.

Daeth i’n sylw y bydd Is-gangellorion o’r Grŵp Russell yn ymgynnull ddydd Iau a’n gobaith yw gallu llywio eich safbwynt cyn y cyfarfod hwnnw.

Yn gyntaf ac yn bennaf oll, hoffem bwysleisio bod ein myfyrwyr, ein hymchwil a chymuned y Brifysgol o bwys mawr i ni. Rydym am ddychwelyd at ein gwaith, ac mae ein gweithredu parhaus yn groes i’r graen. Rydym wedi ein sicrhau bod Prifysgolion y DU (UUK) yn barod i ailgydio yn y trafodaethau ac rydym yn cefnogi ein trafodwyr o UCU wrth iddynt barhau i’n cynrychioli.

Rydym yn obeithiol hefyd, nid yn unig am fod tystiolaeth wedi dod i’n golwg heddiw y gallai fod lle i ychydig o hyblygrwydd yn safbwynt y Rheoleiddiwr Pensiynau (yn ôl yr hyn a gydnabuwyd gan arbenigwr pensiynau’r Financial Times, Josephine Cumbo, ac eraill). Rydym yn eich annog i weithio gyda’r Is-gangellorion eraill i dynnu ar gynigion eraill y byddai’r Rheoleiddiwr Pensiynau’n eu cymeradwyo. O’n safbwynt ni, mae penderfyniad amserol ynghylch yr anghydfod hwn yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar gael prisiad annibynnol mwy derbyniol ac academaidd gadarn, sy’n seiliedig ar fethodoleg y gallwn ymddiried ynddi. Bydd llawer o’r dystiolaeth berthnasol a ddatgelwyd yn ystod yr anghydfod hwn yn llywio’r broses sydd ohoni. Rydym yn teimlo y byddai angen i’r math o gytundeb y gallem ei gefnogi gynnig sicrwydd i ni y byddai’r sefyllfa bresennol yn cael ei hadfer hyd nes y ceir prisiad newydd.

Ddoe, fe wnaeth aelodau ein hundeb – gan gynnwys aelodau yma yng Nghaerdydd – wrthod yn gadarn ‘cytundeb’ na allem ei dderbyn. Roeddem yn ystyried ei fod, i bob diben, yn arwydd o ddiwedd y cynllun Buddiannau Diffinedig a chawsom ein siomi’n fawr gan y sôn am symud i gynllun Cyfraniadau Diffinedig Cyfunol. Penbleth o’r mwyaf fu’r newidiadau i’r canraddau, y trothwyon a mynegeio chwyddiant o ystyried bod cwestiynau mor fawr wedi’u codi ynghylch y prisiad, ac ynghylch methodoleg UUK wrth asesu’r parodrwydd i newid ymhlith ei aelodau ei hun. Ystyriwyd bod uchelgais y ‘cytundeb’ y dylid aildrefnu’r addysgu y tarfwyd arno gan y gweithredu diwydiannol wedi codi gwrychyn i’r eithaf. Rydym wedi brwydro lawer yn rhy hir ac yn galed i ildio cymaint; roedd hyd yn oed ein myfyrwyr yn dweud wrthym am beidio â chytuno.

Gobeithiwn yn fawr y bydd y manylion hyn o gymorth i chi wrth baratoi ar gyfer y cyfarfod, a bod modd cadarnhaol a chyflym i’w gael o ddatrys yr anghydfod.