Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Gŵyl Arloesedd Myfyrwyr

9 Mawrth 2018

Fel Prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw, mae Caerdydd yn deall y manteision economaidd-gymdeithasol sy’n gysylltiedig â gwireddu syniadau. Mae arloesedd yn meithrin partneriaethau gwych i fynd i’r afael â materion yn y ‘byd go iawn’ – o iechyd y cyhoedd i blismona a llygredd. Mae myfyrwyr sydd â dychymyg bywiog yn ymateb yn reddfol i’r her o fynd i’r afael â’r rhain a syniadau mawr eraill. Ymhlith y myfyrwyr hyn mae’r Llysgenhadon Myfyrwyr sydd wedi gwirfoddoli i guradu ein Gŵyl Arloesedd Myfyrwyr (10-16 Mawrth).

Mae’r Ŵyl Arloesedd Myfyrwyr yn rhan o’n cynlluniau i gydnabod a chynyddu’r cyfleoedd sydd gan ein myfyrwyr i fod yn rhan o’n diwylliant arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd ein rhaglen Arloesedd i Bawb yn creu cyfleoedd i bob myfyriwr yng Nghaerdydd gael blas ar arloesedd yn ystod eu hamser gyda ni. Ein nod yw creu amgylchedd lle mae syniadau myfyrwyr yn bwysig: nid yn unig mewn perthynas â gweithgareddau entrepreneuraidd neu weithgareddau masnachol, ond hefyd o ran datblygu ffyrdd newydd o weithio a meddwl, gan gynnwys drwy brosiectau cymunedol a mentrau cymdeithasol.

Mae rhoi’r galluoedd a’r agwedd gywir i fyfyrwyr yn gam mawr yn y broses o baratoi ein myfyrwyr ar gyfer dyfodol disglair, byd-eang. Drwy System Arloesedd Caerdydd, rydym yn creu prifddinas arloesedd i Gymru sy’n gweithredu ar draws yr holl ddisgyblaethau, gan gynnwys y gwyddorau bywyd ac economïau creadigol a digidol, a gweithgynhyrchu a’r gwyddorau cymdeithasol.

Mae ein Gŵyl Arloesedd Myfyrwyr gyntaf yn cynnwys cyflwyniadau, arddangosfeydd a nifer o ddigwyddiadau dros dro. Y nod yw ysgogi ein myfyrwyr i feddwl a gweithio mewn ffyrdd newydd, ac ymgysylltu ag arloesedd ar draws y Brifysgol. Os hoffech wybod mwy am sut i gymryd rhan, chwiliwch ar fewnrwyd y staff am ‘Gŵyl Arloesedd Myfyrwyr’ neu ebostiwch InnovationforAll@caerdydd.ac.uk

Yr Athro Amanda Coffey, Rhag Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd, a’r Athro Hywel Thomas, Rhag Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu.