Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Streic: ymrwymiad yr Is-Ganghellor

5 Mawrth 2018

Annwyl Fyfyrwyr,

Roedd yr wythnos ddiwethaf yn wythnos anodd iawn i bob un ohonoch ac rwy’n ysgrifennu i roi sicrwydd i chi mai blaenoriaeth ac ymrwymiad y Brifysgol fydd gwneud yn siŵr bod gan yr holl fyfyrwyr gyfleoedd i ddangos eu bod wedi cyflawni’r amcanion dysgu sy’n gysylltiedig â’r rhaglenni a modiwlau yr ydych yn eu hastudio.

Cyrhaeddodd y tywydd gwael wrth i wythnos ail y streic ddod i ben. Roedd y rhybudd tywydd coch gan y Swyddfa Dywydd, a gyhoeddwyd fore dydd Iau, yn golygu bod yn rhaid i ni gau’r Brifysgol. Cymerais y penderfyniad hwnnw oherwydd roeddwn am fod yn siŵr y byddai’r holl fyfyrwyr a staff yn gallu cyrraedd adref yn ddiogel ar y dydd Iau ac aros gartref yn ddiogel ar y dydd Gwener wrth i’r rhybudd tywydd coch barhau dros nos. Mae’n ddrwg gen i am yr anghyfleustra o ganlyniad i hyn.

Rydym nawr yn cydweithio ar draws y Brifysgol i wneud yn siŵr bod mesurau ar waith i gefnogi unrhyw ddysgu a gollwyd. Ein blaenoriaeth a’n hymrwymiad yw sicrhau eich bod yn cael cyfleoedd i ddangos eich bod wedi cyflawni’r canlyniadau dysgu sy’n gysylltiedig â’r rhaglen a modiwlau yr ydych yn eu hastudio. Gallai hyn gynnwys aildrefnu darlithoedd, darlithoedd gan gydweithiwr academaidd arall, neu ddarlithoedd newydd neu flaenorol sydd wedi eu recordio. Gall myfyrwyr darllen ein cwestiynau ac atebion ynglŷn â’r streic ar fewnrwyd myfyrwyr

Hoffwn hefyd roi sicrwydd i chi fy mod wedi ymrwymo o hyd i barhau â’r trafodaethau rhwng UCU ac UUK i ddatrys yr anghydfod ynglŷn â phensiynau. Roedd yn galonogol iawn gweld y ddwy ochr yn cytuno i gynnal rhagor o drafodaethau dan nawdd y gwasanaeth cymodi ACAS. Eto, byddwn yn parhau i weithio’n galed i wneud yn siŵr bod y streic, yn ogystal â’r tywydd gwael, yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar ein myfyrwyr.

Yn gywir,

Yr Athro Colin Riordan

Is-Ganghellor