Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Chwefror 2018

28 Chwefror 2018

Annwyl gydweithiwr

Roedd yn dda clywed wrth i mi ysgrifennu’r ebost hwn y bu’r trafodaethau rhwng UUK ac UCU i bob golwg yn gymharol gadarnhaol, gyda’r ddwy ochr yn cytuno i drafodaethau pellach dan nawdd y gwasanaeth cymodi ACAS. Mae cryfder teimladau aelodau’r USS yn amlwg ac yn ddealladwy, a fyddai neb yn dymuno bod yn y sefyllfa rydym ni ynddi nawr. Byddai’r cyflogwyr, rwy’n siŵr, yn dymuno ystyried unrhyw ddatrysiad sy’n fforddiadwy ac a fyddai’n fuddiol i aelodau USS. Rwyf i wedi trafod y materion hyn yn fanwl yn fy negeseuon ebost i staff ym mis Tachwedd 2017 ac Ionawr 2018, yn ogystal ag mewn atebion i gydweithwyr y mis hwn, a does fawr ddim gwybodaeth newydd wedi dod i law ers hynny. Fe wn y byddai UUK yn eu trafodaethau’n barod i wrando ar syniadau fel cytuno ar broses a fframwaith clir ar gyfer ailagor elfen buddiannau diffiniedig y cynllun os bydd amodau’n gwella a symud yn y tymor canolig at gynllun ‘uchelgais diffiniedig’ fel sy’n bodoli mewn gwledydd Ewropeaidd eraill pe bai’r diwygiadau cyfreithiol angenrheidiol yn cael eu gwneud, tra bo’r cyflogwyr wedi ymrwymo i gadw lefel eu cyfraniad ar 18%. Mae cynllun ‘uchelgais diffiniedig’ neu gyfraniad ddiffiniedig gyfunol’ yn syniad arbennig o ddiddorol sydd wedi’i gyflwyno gan y Post Brenhinol mewn trafodaeth gyda’i gynrychiolwyr undeb a’r llywodraeth, a gallai fod yn drydedd ffordd fforddiadwy rhwng cynigion UUK fel y maent ar hyn o bryd ac awydd dealladwy aelodau USS i gael mwy o sicrwydd dros eu pensiwn yn y dyfodol. Yn amlwg, byddai datrysiad wedi’i negodi er lles pawb ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yn bosibl cyflawni hyn. Yn y cyfamser byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau bod ein myfyrwyr yn derbyn triniaeth deg ac, wrth gwrs, yn parchu hawl y rheini sydd wedi’u heffeithio i weithredu’n ddiwydiannol yn hyn o beth.

Yn gynharach y mis hwn roedd yn braf gweld bod un o’n prosiectau ymgysylltu blaenllaw, y Porth Cymunedol, wedi llwyddo i ennill grant loteri £1m am ei brosiect cymunedol Pafiliwn Grange mewn partneriaeth gyda Gweithredu Cymunedol Grangetown. Cynnyrch blynyddoedd o gydweithio rhwng y gymuned leol yn Grangetown a grŵp dan arweiniad Dr Mhairi McVicar yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru yw’r prosiect hwn. Y nod yw creu canolfan gymunedol amlbwrpas y gellir ei defnyddio ar gyfer addysg, hyfforddiant, hybu iechyd a datblygu mentrau, gyda chaffi, swyddfa a mannau cyfarfod. Mae cynlluniau hefyd i wella’r safle presennol er mwyn creu mannau gwyrdd hygyrch, perllan a gardd beillio. Mae’r llwyddiant hwn i sicrhau arian loteri yn gyflawniad enfawr ac yn tystio i’n hymrwymiad i ymgysylltu ac i’n cenhadaeth ddinesig. Rwyf i hefyd wrth fy modd fod Prifysgol Caerdydd wedi ennill Gwobr glodfawr Pen-blwydd y Frenhines am waith Dr Maggie Woodhouse a’i thîm Optometreg am drin problemau golwg mewn plant gyda Syndrom Down. Yn rhy aml yn y gorffennol, roedd anawsterau roedd y plant hyn yn eu hwynebu yn cael eu beio ar anawsterau dysgu, ond mewn gwirionedd roedd y broblem yn gysylltiedig â golwg, ac roedd modd ei chywiro ar ôl cael diagnosis. Mae’n debygol fod hyn yn digwydd o hyd heddiw ac rwy’n gobeithio y bydd y gydnabyddiaeth a geir am y gwaith hwn yn annog rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr i feddwl am olwg y plant hyn a cheisio diagnosis gwybodus. Daeth dau o gyfranogwyr ymchwil Maggie i’r digwyddiad gwobrwyo ym Mhalas Buckingham, ac rwy’n gobeithio iddo fod yn brofiad gwych iddyn nhw.

Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi adolygiad o addysg drydyddol yn Lloegr, fydd yn cymryd blwyddyn, ac a allai fod â goblygiadau i ni yng Nghymru yn y pen draw. Bydd rhaid i ni aros am ganlyniad hwnnw, ond fel y gwyddoch rydym ninnau wedi cael ein cyfran o adolygiadau yng Nghymru ac amlinellwyd canlyniad terfynol un o’r rhain – adolygiad Diamond – gan ein Hysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams, mewn erthygl yn WonkHE. Mae Ms Williams yn egluro y bydd myfyrwyr sy’n hanu o Gymru, o’r flwyddyn academaidd nesaf ymlaen, i gyd yn derbyn o leiaf £1,000 o grant, gyda’r rhai â’r angen mwyaf yn derbyn y cymorth mwyaf, ar sail y Cyflog Byw. Bydd y rheini o’r cartrefi incwm isaf yn derbyn grant cynhaliaeth o dros £10,000 yn Llundain a thros £8,000 mewn mannau eraill yn y DU. Bydd myfyrwyr rhan amser ac ôl-raddedigion hefyd yn gymwys am y math hwn o gymorth. Gobeithio y bydd yr adolygiad yn Lloegr yn argymell adfer grantiau cynhaliaeth oherwydd roedd y dystiolaeth a gasglwyd gennym ni yn ystod adolygiad Diamond yn dangos yn glir bod angen arian ar fyfyrwyr yn eu pocedi pan fyddan nhw’n astudio, ac mai’r rheini o gartrefi incwm isaf sydd ei angen fwyaf. Rwy’n amau y bydd yr adolygiad yn Lloegr yn edrych ar o leiaf rai o’r diwygiadau a gyflwynwyd yng Nghymru, a byddai hynny’n ddatblygiad i’w groesawu.

Mewn newyddion arall, yn ddiweddar enillon ni grant Sêr Cymru arall gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ein penodiad newydd yn yr Ysgol Meddygaeth, yr Athro Peter Ghazal. Gyda llaw, mae cynllun Sêr Cymru wedi denu sylw gwneuthurwyr polisi yn Lloegr, sydd wedi cyflwyno rhywbeth tebyg i’w weinyddu gan y corff newydd UK Research and Innovation. Mae’r Athro Ghazal yn arbenigwr ar sepsis mewn babanod ac yn arwain Project Sepsis, menter bwysig i frwydro’r cyflwr niweidiol hwn sy’n symud mor gyflym fel bod y canlyniadau’n gallu bod yn angheuol cyn bod modd gwneud diagnosis cywir. Dymunaf yn dda iddo ac rwyf i wrth fy modd ei fod wedi penderfynu dod i Gaerdydd. Llongyfarchiadau hefyd i’r Athro Peter Halligan, Athro Er Anrhydedd yn yr Ysgol Seicoleg, ar gael ei benodi’n Brif Gynghorydd Gwyddonol newydd i Lywodraeth Cymru. Mae’r Athro Halligan yn eiriolwr diflino a hynod wybodus dros achos gwyddoniaeth ac ymchwil yng Nghymru ac fe fydd, mi wn, yn cynnig tystiolaeth gadarn i’r Llywodraeth ar gyfer llunio polisi yn ogystal â chyngor ar faterion gwyddonol hanfodol sy’n effeithio ar bob un ohonom ni.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor