Dathlu pen-blwydd Medicentre Caerdydd yn 25 oed
11 Rhagfyr 2017Wrth i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gyrraedd 70 oed, mae llawer o sôn am sut gall arloesedd drawsnewid bywydau cleifion. Fis Gorffennaf nesaf, bydd Cymru fel cenedl yn dathlu gwaddol Aneurin Bevan drwy edrych ymlaen at dechnegau a thechnolegau newydd i gynnal y GIG drwy’r 21ain ganrif.
Yn ddiweddar, es i i ddathliad pen-blwydd arall – 25 mlynedd ers sefydlu Medicentre Caerdydd – a chefais fy atgoffa faint sydd eisoes yn cael ei wneud dim ond 30 milltir o dref enedigol Bevan, Tredegar, i ddatblygu gwasanaethau, triniaethau a dyfeisiau clyfar newydd er budd pawb.
Cafodd Medicentre Caerdydd, menter gydweithredol gan Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ei sefydlu ym 1992, ac mae wedi rhoi busnesau newydd a chwmnïau deillio ym maes technoleg feddygol ar drywydd llwyddiant. Mae’r Medicentre, sy’n cynnwys mwy na 30 o gwmnïau ar hyn o bryd, wedi helpu i ddatblygu rhai o arweinwyr arloesedd clinigol Cymru.
Ymhlith y tenantiaid nodedig a chynfyfyrwyr mae Alesi Surgical, Q Chip ac Ymchwil Clinigol Synexus. Mae un ar ddeg o gwmnïau wedi tyfu a chyrraedd pwynt lle maent yn barod i adleoli neu gael eu prynu – at ei gilydd, mae gwerth y cwmnïau a brynwyd dros £30m.
Mae stori llwyddiant Medicentre yn dangos dau beth pwysig. Yn gyntaf, nid oes y fath beth ag arloesi dros nos. Mae amynedd a chyd-ddealltwriaeth yn galluogi pobl i ymddiried yn ei gilydd dros amser. Mae ein menter ein hun ar gyfer cydnabod rhagoriaeth arloesedd – Gwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd – yn 20 oed y flwyddyn nesaf.
Yn ail, mae partneriaethau cryf a hirdymor yn denu arbenigedd a buddsoddiadau. Mae ein gwaith gydag IQE, er enghraifft, yn dyddio nôl 30 mlynedd ond dim ond nawr mae ecosystem Lled-ddargludyddion Cyfansawdd newydd yn datblygu ar draws y Ddinas-ranbarth a thu hwnt.
Gyda phartneriaethau cadarn sy’n troi’n gyfeillgarwch, mae enw da Caerdydd fel Cartref Arloesedd yn mynd y tu hwnt i adeiladau sgleiniog a thechnoleg newydd. Yn ganolog iddo mae ein myfyrwyr a staff, sy’n trawsnewid ein gwaith ac yn newid ein dinas. Mae eu cyfraniad yn enfawr ac yn sail i bopeth a wnawn.
Mae’r rhan fwyaf ingol yn nathliadau Medicentre yn profi’r pwynt hwn: tusw o flodau i Mair Davies, gweinyddwr Medicentre, a gyflwynwyd gan yr Athro Keith Harding, cyfaill iddi ers amser maith, a Deon Arloesedd Clinigol.
Wedi’r cyfan, arloesedd yw pobl wych yn gwneud gwaith gwych. Felly Pen-blwydd Hapus, Medicentre. Edrychwn ymlaen at 25 mlynedd arall o lwyddiannau rhagorol.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014