E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Gorffennaf 2017
27 Gorffennaf 2017Annwyl gydweithiwr
Efallai i chi weld bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi diwygiadau i’r system cymorth myfyrwyr yng Nghymru yn codi o’r adolygiad o gyllid addysg uwch yng Nghymru a gynhaliwyd gan Syr Ian Diamond, ynghyd â chynnydd chwyddiant i ffioedd dysgu yn dilyn camau tebyg yn Lloegr a’r Alban. Yr hyn sy’n gwneud Cymru’n wahanol yw cyflwyno system hael o grantiau cyhaliaeth fydd yn rhoi arian ym mhoced y myfyrwyr hynny sydd ei angen fwyaf (ar sail incwm y cartref) ar yr adeg maen nhw’n dweud eu bod ei angen (sef pan fyddan nhw’n astudio). Ymhellach, ac yn unigryw yn y DU, bydd y system yn ymestyn at fyfyrwyr rhan amser ac ôl-raddedig, gan alluogi myfyrwyr o gefndir cyfranogiad isel, incwm isel, i wneud eu ffordd drwy’r system addysg uwch gyfan at lefel PhD gyda chymorth ariannol. Oherwydd y ffordd mae fformiwla Barnett yn gweithio, drwy reoli’r ffordd y caiff cyllideb Llywodraeth Cymru ei chyfrif, does gan Gymru fawr o ddewis ond dilyn amlinelliad bras system Lloegr o ran ffioedd dysgu a ad-delir gan raddedigion sy’n ennill dros £21,000, ond ceir dadleuon cryf dros ddweud mai yng Nghymru fydd y system fwyaf blaengar yn y DU o 2018-19 ymlaen, ac un sy’n fwy blaengar na llawer o wledydd y byd. Mae’r grant cynhaliaeth yn seiliedig ar y cyflog byw, ac roedd yn galonogol gweld bod holl brifysgolion Cymru bellach wedi ymrwymo i dalu’r cyflog byw i’w staff a maes o law i’r holl staff sy’n gweithio i gwmnïau allanol sydd â chontract gyda’r Brifysgol. Cyflwynodd Caerdydd y cyflog byw yn 2014, ac er ei fod yn amlwg yn cynyddu costau, mae hefyd yn glir mai dyma’r peth iawn i’w wneud, ac rwyf i’n siŵr ymhen amser y gwelwn ni ragor o gwmnïau a sefydliadau yn gwneud yr un peth.
Effaith arall y cyhoeddiad yw y bydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gyllido prifysgolion yn gynaliadwy. Bydd y flwyddyn nesaf yn isafbwynt o ran cyllido prifysgolion a fyddai’n golygu arbedion cost mawr pe na baem ni’n hyderus mai effaith dros dro yw hyn ac y byddwn yn gallu ei oresgyn. Yn wir, mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru’n ein caniatáu ni i gynllunio ar gyfer adferiad o 2018-19, ac yn y cyfamser gallwn amsugno’r diffyg o’n hadnoddau ein hunain. Gallwn wneud hyn oherwydd ein bod wedi rheoli’n cyllid yn ddarbodus mewn blynyddoedd blaenorol drwy greu digon o warged i’n cynnal drwy’r amser caled. Bydd y cynnydd mewn cyllid ar gyfer pynciau drud, ymchwil ac efallai rhywfaint o gyfalaf yn bwydo i mewn yn raddol dros gyfnod o dair neu bedair blynedd, felly erbyn dechrau’r ddegawd nesaf dylem ni fod mewn sefyllfa i gystadlu’n effeithiol ar lwyfan y byd. Neu mewn geiriau eraill, byddwn yn gallu darparu’r adnoddau a’r cyfleusterau addysgu, dysgu ac ymchwil y mae ein myfyrwyr a’n staff yn eu disgwyl ac yn eu haeddu, ar sail gynaliadwy i’r dyfodol. O ystyried yr aflonyddu a allai ddod yn sgil Brexit, mae’n ddefnyddiol gwybod bod prifysgolion Cymru ar lwybr at y math o amgylchedd cyllido sy’n hanfodol os ydym ni am fod yn llwyddiannus yn y dyfodol, ac y byddwn ni yng Nghaerdydd yn gallu cymryd ein lle haeddiannol fel prifysgol o statws rhyngwladol sylweddol.
Ym mis Gorffennaf wrth gwrs, cawn ein hatgoffa beth yw diben bywyd prifysgol gyda symbolaeth y Seremonïau Graddio. Eleni daeth tua 6,600 o raddedigion, o dros 100 o wledydd gwahanol, i 17 o seremonïau, y nifer mwyaf erioed. Cyflwynwyd 15 cymrodoriaeth er anrhydedd, a daeth o ddeutu 18,000 o westeion i Gaerdydd i ddathlu llwyddiant ein graddedigion. Fel arfer, yr hyn a dynnodd fy sylw i fwyaf oedd y llawenydd (neu’r arswyd ambell waith) ar wynebau graddedigion wrth groesi’r llwyfan i gael eu llongyfarch. Cymerodd gryn amser i fi sylweddoli bod defod, nodi’r cerrig milltir hyn mewn bywyd, yn bwysig; doedd hyn ddim yn rhywbeth oeddwn i’n ei gymryd o ddifrif fel myfyriwr. Ond mae’n hollol iawn ein bod ni’n gwneud ymdrech enfawr i sicrhau bod popeth yn mynd fel y byddai ein graddedigion, eu teuluoedd a’u ffrindiau’n ei ddymuno, a’i fod yn rhedeg yn llyfn. Wrth gwrs mae’n amhosib i fi enwi pawb sy’n ymwneud â’r trefnu a gobeithio na fydd unrhyw un nad wyf i’n ei enwi’n digio, ond hoffwn ganmol y gwaith arlwyo rhagorol, dan arweiniad Julia Leath, Anne Lewis, Chris Hornsby, Sarah Richards , Shannon Doubler a’u timau, a Will Leath, Prif Gogydd Tŷ Bwyta’r Prif Adeilad a’i frigâd. Bob blwyddyn mae’r trefniadau i’w gweld yn gwella a doedd eleni ddim yn eithriad; am hynny rwy’n ddiolchgar i Ali Carter (oedd â chyfrifoldeb cyffredinol), Helen Beddow, Barry Diamond a Lucy Skellon a’u timau, ynghyd â chefnogaeth ragorol gan y tîm cyfathrebu a marchnata ehangach, yn enwedig y rheini oedd yn gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol. Cafwyd cyfraniadau hanfodol gan Katy Dale ac Emily Daley o Swyddfa’r Is-Ganghellor, y tim Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, ynghyd â Helen Cowley, Fran Dunderdale a Vicky Young o’r Gofrestrfa a’u timau ac amrywiaeth eang o staff proffesiynol ar draws y Brifysgol. Gwnaeth y staff diogelwch waith ardderchog, o helpu gydag ymwisgo (ac yn enwedig hetiau), i dawelu rhieni pryderus a’u helpu i ganfod eu ffordd yn gyflym at ble’r oedd angen iddyn nhw fod. Mae eu gwaith tawel, proffesiynol y tu ôl i’r llenni yn y cyfnod anodd hwn hefyd wedi bod yn anhepgor.
Yn olaf, diolch yn fawr i’r holl gydweithwyr academaidd yn y minteioedd llwyfan. Rwyf i’n gwybod eich bod yn chwarae rhan hanfodol, sy’n cael ei gwerthfawrogi’n fawr gan ein myfyrwyr a’u gwesteion. Rwyf i’n ddiolchgar iawn i chi am gymryd amser i wisgo dillad smart a gynau academaidd ar adeg pan fo galwadau ymchwil ac ysgolheictod yn drwm. Y rheswm pam fod graddio’n gweithio gystal yw bod pawb yn cyfrannu at ymdrech tîm mawr. Diolch i bawb.
Fel arfer, byddwch yn derbyn ebost misol rheolaidd gennyf i ym mis Medi. Yn y cyfamser gobeithio y cewch chi gyfle i ymlacio gydag egwyl haeddiannol dros yr haf, ac y byddwn o bosibl yn dechrau ar y flwyddyn academaidd newydd mewn ysbryd mwy gobeithiol (o leiaf o ran cyllido, heb anghofio ansicrwydd Brexit) nag ydym ni wedi’i wneud ers rhai blynyddoedd bellach.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014