E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Mehefin 2017
30 Mehefin 2017Annwyl gydweithiwr
Roedd prif ganlyniad yr Etholiad Cyffredinol yn gwbl groes i’r hyn a fwriadwyd, ac yn hynny o beth mae wedi achosi lefel llawer uwch o ansicrwydd. Mae i’r ansicrwydd hwnnw agweddau cadarnhaol yn ogystal â negyddol i brifysgolion. Ar yr ochr gadarnhaol, gellir gobeithio bod yr agwedd galetach fyth at fyfyrwyr rhyngwladol a amlinellwyd ym maniffesto’r Ceidwadwyr yn llai tebygol o gael ei rhoi ar waith nawr fod y llywodraeth yn un leiafrifol, er ei bod yn dal yn Geidwadol. Roedd y cwestiwn ynghylch myfyrwyr rhyngwladol yn un oedd yn cael ei chysylltu i raddau helaeth gyda Mrs May’n bersonol (ynghyd â’i chynghorwyr agosaf) pan oedd yn Ysgrifennydd Cartref, a daeth â’r agwedd honno gyda hi i Rif 10. Mae’n bosibl y bydd ymadawiad y cynghorwyr hynny, a sefyllfa wannach y Prif Weinidog yn gyffredinol yn dilyn methiant ei gambl etholiadol, yn gadael rhywfaint o le i symud. Mae’r dadleuon o blaid croesawu myfyrwyr i’r wlad a’u trin mor hael â phosibl yn anorchfygol. Mae’n debyg bod y data dibynadwy diweddaraf sydd gan y Swyddfa Gartref yn dangos bod myfyrwyr rhyngwladol yn dod i’r wlad hon i astudio ac yna’n dychwelyd adref, fel rydym ni wedi dadlau erioed. Mae’r mwyafrif llethol o’r rhai nad ydyn nhw’n gadael y DU ar ddiwedd eu hastudiaethau yn aros yma’n gyfreithlon. Does dim tystiolaeth fod y cyhoedd yn meddwl am fyfyrwyr rhyngwladol fel mewnfudwyr, ac yn wir nid yw’n ymddangos fod mewnfudo wedi chwarae rhan bwysig yn yr etholiad. Mae’r grym meddal a’r manteision economaidd sy’n deillio o system sy’n agored i’r byd yn hysbys, ac mae’r rhod yn sicr yn troi o blaid Brexit yn seiliedig ar swyddi. Felly, rwyf i’n parhau i obeithio y bydd yn bosibl cyflawni cynnydd o ryw fath ar y mater hwn yn y dirwedd wleidyddol newydd. Mae sefyllfa’r Ceidwadwyr yn y Senedd hefyd yn golygu bod diwygiadau pellach ym maes addysg uwch yn Lloegr yn annhebygol; mae hyn yn bwysig i ni oherwydd byddai cyfnod o sefydlogrwydd tra bo diwygiadau eraill yn ymsefydlu yn cael eu croesawu’n fawr. Mae hefyd yn beth da na chafwyd newid yn y tîm gweinidogol, sy’n cynnig mesur o gysondeb. Ar yr ochr negyddol, mae’r tebygolrwydd o ddod i gytundeb gyda Chomisiwn yr UE ac aelod-daleithiau ar ymadawiad Prydain o’r UE yn edrych yn anoddach bellach, ac fel y nodais fis diwethaf, bydd problemau ymarferol yn codi’n fuan. Fel yr addawyd yn fy ebost diwethaf, rwyf i ac Is-Gangellorion eraill wedi hysbysu gweinidogion perthnasol am y pryderon hyn ac rwyf i’n hyderus y bydd atebion yn dod i’r amlwg maes o law.
Ar fater mwy cyffredinol ond sy’n berthnasol iawn i lawer o gydweithwyr, byddwch yn ymwybodol fod y llywodraeth o’r diwedd wedi cyhoeddi ei chynigion ar ddinasyddion gwledydd eraill yr UE sy’n byw ym Mhrydain. Gyda lwc, bydd mwy o symud ar y cynigion hyn oherwydd nid yw’r ymateb iddyn nhw wedi bod yn gwbl gadarnhaol, naill ai o du’r Comisiwn na’r rheini sy’n cael eu heffeithio’n fwyaf uniongyrchol. Byddai’n ddefnyddiol pe bai cydweithwyr o wledydd eraill yn yr UE yn fy hysbysu am unrhyw bryderon penodol a allai fod ganddyn nhw er mwyn i fi eu bwydo’n ôl drwy UUK a Grŵp Russell. Mae’r Adran Ymadael a’r UE hefyd wedi gofyn i ni gyflwyno sylwadau’n uniongyrchol iddyn nhw. Y canlyniad gorau fyddai i’r llywodraeth ddod â’r ansicrwydd i ben unwaith ac am byth, cyn gynted â phosib, gan gydnabod y pryderon a allai fod gan bobl sydd wedi byw yma ers blynyddoedd lawer ac sy’n awyddus i gadw eu sefyllfa bresennol. Felly, mae’n bwysig i ni allu cyflwyno awgrymiadau ymarferol ar sut y gellid cyflawni hynny.
Yn y cyfamser yng Nghymru mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi papur gwyn Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus, sy’n ymwneud â’r hyn a elwir bellach yn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol neu PCET. Mae hyn yn cwmpasu addysg uwch yn ogystal ag addysg bellach, dysgu’n seiliedig ar waith, prentisiaethau ac ati, gan gynnwys ymchwil ac arloesedd. Y syniad yw creu corff newydd o’r enw Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru a fyddai’n ymgymryd â holl swyddogaethau cyfredol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ogystal â chyfrifoldeb am gynllunio, cyllido, contractio, ansawdd, monitro ariannol ac archwilio addysg bellach a dysgu’n seiliedig ar waith. Gallai goblygiadau hyn fod yn bellgyrhaeddol; af i ddim i fanylu ar y cynigion nawr, ond y nod yw gallu ymateb i anghenion newidiol economi Cymru yn y dyfodol a gallu mabwysiadu agwedd fwy strategol ar draws yr holl dirwedd ‘ôl-orfodol’ neu ‘drydyddol’. Roeddwn i’n falch iawn o weld ymrwymiad penodol i bwysigrwydd a chynhaliaeth cyllid ymchwil QR (ar sail REF) yn y papur gwyn, ynghyd â chynigion ar sut i reoli ymchwil ac arloesi yng Nghymru drwy greu pwyllgor statudol â’r teitl Ymchwil ac Arloesi Cymru yn rhan o’r corff newydd. Mewn rhai ffydd mae hyn yn adleisio creu UK Research and Innovation, sy’n cynnwys Innovate UK a Research England oddi mewn iddo. Bydd addysg uwch yn Lloegr yn cael ei rheoleiddio gan gorff ar wahân o’r enw’r Office for Students, wrth gwrs; yng Nghymru bydd y ddwy swyddogaeth yn dod ynghyd dan yr un corff ymbarél, sy’n fanteisiol mewn sawl ffordd. Yr her fawr fydd sicrhau uniondeb y system ariannu ddeuol (QR ar y naill law a chyllid cyngor ymchwil neu strategol ar y llall) ynghyd â chadw egwyddor Haldane. Mae sicrwydd wedi’i roi ar y mater hwnnw yn y papur gwyn ond byddwn ni’n awyddus i edrych ar y goblygiadau’n fanwl. Mae’n braf gweld bod llawer o ymdrech yn cael ei neilltuo i’r broses ymgynghori ar y mater pwysig hwn, a bod gennym ni tan yr hydref ar ymgynghoriad y papur gwyn, a bydd ymgynghoriad technegol yn dilyn. Bydd hi’n beth amser cyn i unrhyw gynigion ddod i rym; blynyddoedd yn wir oherwydd byddai angen deddfwriaeth ar y diwygiadau, ac yna peth amser i’w rhoi ar waith.
Y mis hwn rydym ni hefyd wedi cael canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF); cyflawnodd Caerdydd arian yn ôl y disgwyl ac wrth gwrs byddwn yn gweithio’n galed i gyflawni aur neu beth bynnag fydd yn cyfateb i hynny yn y dyfodol. Rwyf i’n dweud hynny oherwydd yn 2019 cynhelir adolygiad annibynnol o’r TEF a allai arwain at nifer o newidiadau, neu, hyd yn oed ei ddiddymu, o bosibl. Er nad yw hyn yn debygol yn ôl pob golwg, go brin bod neb ag unrhyw synnwyr yn ceisio rhagweld dim byd y dyddiau hyn. Yn sicr mae angen ystyried y fethodoleg o ddifrif, yn enwedig mewn perthynas â’r cwestiwn a yw’r neges mae’n ei hanfon (drwy’r system medalau Olympaidd) at ddarpar ymgeiswyr a allai fod yn anghyfarwydd â phrifysgolion yn un sydd o reidrwydd yn ddefnyddiol iddyn nhw.
Hefyd codon ni dri safle yn Rhestr Detholion QS y Byd, i 137. Mae’n werth sylwi bod 51 o’r 76 prifysgol yn y DU sydd yn y QS wedi disgyn, sy’n dweud rhywbeth am y gystadleuaeth drwy’r byd a’r heriau rydym ni’n eu hwynebu yn y DU.
Y newyddion da arall oedd ei bod yn wych gweld cynifer o academyddion Caerdydd yn derbyn cydnabyddiaeth yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines Dyfarnwyd OBE i’r Athro Malcolm Mason, Athro Ymchwil Canser Cymru mewn Oncoleg Glinigol yn yr Ysgol Meddygaeth am ei wasanaethau i’r GIG ac ymchwil Canser; derbyniodd Dr Alison Parken o Ysgol Busnes Caerdydd OBE am ei gwaith ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, tra bo Ms Wendy Sadler o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi derbyn MBE am wasanaethau i wyddoniaeth, peirianneg cyfathrebu ac ymgysylltu. Dyfarnwyd CBE i’r Athro Pamela Taylor, deiliad Cadair Seiciatreg Fforensig yn yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol yn yr Ysgol Meddygaeth am ei gwasanaethau i seiciatreg fforensig. Hoffwn ddweud hefyd bod y Gymdeithas Ddaearegol wedi dyfarnu Medal Bigsby glodfawr eleni i’r Athro Carrie Lear o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr i gydnabod ei gwaith ar ddaeareg a’i chyfraniad i wyddoniaeth yr hinsawdd. Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonynt ar ran y Brifysgol.
Mewn mynegiant arall o hyder ym Mhrifysgol Caerdydd ac arbenigrwydd rhagorol ein hacademyddion, yn gynharach y mis hwn cyhoeddom ni sefydlu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Bydd y Ganolfan hon (sy’n adeiladu ar waith y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn flaenorol), yn cael £6m dros bum mlynedd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru. Y syniad yw darparu cyngor annibynnol a thystiolaeth ddibynadwy, drylwyr i hwyluso’r broses o lunio polisi. Nid yw hwn yn syniad newydd ynddo’i hun, ond mae ei roi ar waith yn effeithiol yn ddiarhebol o anodd a bydd y Ganolfan newydd yn defnyddio cyfuniad pragmataidd o gasglu’r dystiolaeth fwyaf dibynadwy o ffynonellau cyfredol a thynnu ar arbenigwyr blaenllaw ar faterion penodol, gydag ymchwil i’r hyn sy’n gweithio ac i ddulliau arloesol o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ac yn y blaen. Mae hon yn bluen wirioneddol yn ein het ac yn dangos y gallwn gyfrannu yn nhermau ymchwil, arloesi ac effaith ar draws ystod lawn o ymdrech academaidd.
Dymuniadau gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014