Gwaith tîm sy’n canolbwyntio ar y claf
13 Hydref 2016Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig yr ystod lawn o bynciau gofal iechyd gan ein gwneud yn unigryw yn y DU. Mae cyflwyno rhaglen mor gynhwysfawr o addysg yn heriol, eto mae hefyd yn dod â chyfleoedd gwych yn ei sgil.
Bob blwyddyn rydym yn anfon llu o weithwyr meddygol proffesiynol medrus iawn allan i’r byd. Dros 300 meddyg, 400 nyrs, 100 ffisiotherapydd, 150 fferyllydd, 80 deintydd, 80 optegydd, seicolegwyr, biocemegwyr, radiograffyddion – mae’r rhestr yn ddiddiwedd.
Y llynedd yn unig graddiodd tua 1,800 o fyfyrwyr o’r Coleg Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, gyda’r mwyafrif helaeth yn awr yn darparu gwasanaethau hollbwysig o fewn y GIG.
Mae hon yn gamp sylweddol sy’n gyfraniad aruthrol i effeithiolrwydd parhaus y GIG ac i ansawdd uchel gofal cleifion yn y pen draw. Ond nid llinell gynhyrchu ar gyfer addysg myfyrwyr yn unig yw hon – ac ni fyddem byth eisiau iddi fod felly. Mae’n cymryd ymdrech enfawr i hyfforddi’r myfyrwyr gorau un â’r sgiliau cywir ar gyfer gwasanaeth iechyd heddiw.
Mae’r amgylchedd yn newid drwy’r amser ynghyd ag anghenion iechyd cleifion a heriau GIG sydd o dan bwysau. Mae sgiliau ac arbenigedd y rheini sy’n addysgu ein myfyrwyr yn parhau i addasu ac arloesi fel bod person graddedig o Brifysgol Caerdydd mewn sefyllfa dda bob amser i wneud cyfraniad sylweddol yn y proffesiwn o’u dewis.
Ond a ddylai’r gwaith o addysgu ein myfyrwyr gofal iechyd gael ei wneud o fewn ffiniau disgyblaeth benodol yn unig? Fel aelodau o’r cyhoedd rydym yn aml yn dod ar draws gweithwyr iechyd proffesiynol o amrywiaeth o ddisgyblaethau, naill ai ar gyfer ein triniaeth bersonol ein hunain neu driniaeth i’r teulu a ffrindiau. Mae gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn cydweithio ac ar y claf (ni) maen nhw bob amser yn canolbwyntio. Mae meddygon, nyrsys, ffisiotherapyddion, fferyllwyr, gweithwyr cymdeithasol i gyd yn cydweithio i ddarparu’r driniaeth orau posibl. Felly, os mai dyna sut caiff pethau eu darparu yn y gwasanaeth iechyd, yna pam nad ydym yn addysgu ein myfyrwyr mewn ffordd sy’n hybu’r cydweithio hwn? Wel, rwy’n falch o ddweud ein bod ni, ac mae Prifysgol Caerdydd yn arwain y ffordd.
Yn ddiweddar cefais wahoddiad i gyflwyno’r anerchiad agoriadol yn y Gynhadledd Addysg Ryngbroffesiynol (IPE) 2016 a gynhaliwyd yma yng Nghaerdydd. Fel un o’r sefydliadau blaenllaw ym maes addysg ryngbroffesiynol, mae cynnal cynhadledd sy’n canolbwyntio ar y maes hollbwysig hwn o ofal iechyd yn bwysig i yrru’r agenda yn ei blaen ac i hwyluso’r gwaith o rannu’r arferion gorau.
I’r rhai ohonoch nad ydych yn gyfarwydd â chysyniad addysg ryngbroffesiynol, mae’n cyfeirio at adegau pan fydd myfyrwyr o ddau neu ragor o broffesiynau Iechyd a gofal cymdeithasol yn dysgu gyda’i gilydd yn ystod eu hyfforddiant proffesiynol i gyd, neu yn ystod rhan ohono, er mwyn meithrin arferion cydweithredol ar gyfer darparu gofal iechyd sy’n canolbwyntio ar y cleient neu’r claf.
Darllenwch enghraifft dda o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a’r Ysgol Feddygaeth.
Mae addysg ryngbroffesiynol yn rhan bwysig o baratoi’r gweithlu gofal iechyd ar gyfer heriau byd-eang yr 21ain ganrif. Gan weithio gyda’r Ysgolion yn ein Coleg, rydym yn ymdrechu i wreiddio addysg ryngbroffesiynol yn natblygiad proffesiynol unigol myfyrwyr ar bob lefel.
Rhoddodd y gynhadledd ysgogiad go iawn i helpu i yrru newid ar draws y sector. Cawsom fwynhau rhai cyflwyniadau gwych – o straeon cleifion a oedd yn disgrifio canlyniadau cydweithredu gofal iechyd gwael, i weithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio’n agos gyda thîm rasio Fformiwla Un Williams i wella’r gwaith o ddarparu gwasanaethau.
Roedd hefyd yn galondid derbyn cefnogaeth gadarnhaol ar y diwrnod gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Les a Chwaraeon i’r hwb ychwanegol y mae Prifysgol Caerdydd yn ceisio ei roi ar waith.
Bu’r gynhadledd yn hynod lwyddiannus o ran hyrwyddo cydweithio amlddisgyblaethol a chynnig cyfeiriad clir ynghylch y dulliau o sefydlu addysg ryngbroffesiynol, ymchwil ac ymarfer. Fy ngobaith yn awr yw y bydd y dulliau hyn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r gwaith o ddarparu’r arferion gorau, a gofal iechyd cynhwysfawr, o ansawdd uchel i gleifion, i’w teuluoedd ac i’r gymuned.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014