Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Gwelliant syfrdanol arall

15 Ionawr 2015

Yr wythnos hon fe ryddhawyd canlyniadau Workplace Equality Index Stonewall ar gyfer 2015. Braf dros ben oedd gweld bod Prifysgol Caerdydd yno unwaith eto, yn y24ain lle y tro hwn, ac i ni ragori ar ei 52ain lle yn 2014 (tipyn o naid i fyny’r rhestr).  Dim ond un brifysgol arall sydd yn yr 20 uchaf a Chaerdydd yw’r brifysgol ail uchaf.

Roedden ni i gyd wrth ein bodd ym mis Rhagfyr o weld ein canlyniad rhyfeddol yn yr REF, sef cael ein gosod yn 5ed brifysgol yn y DU am ansawdd ein hymchwil ac yn ail am ein heffaith (gwn eich bod chi’n gwybod hyn i gyd ond byddai’n drueni colli cyfle i glochdar!).  Ond mae hi lawn cyn bwysiced i ni ddal i symud ymlaen mewn meysydd fel cydraddoldeb ac amrywiaeth.  Fis Medi diwethaf, ni oedd un o ddim ond chwe phrifysgol yn y DU i gael marciau llawn yng nghanllaw Stonewall, Gay by Degree, a osododd 158 o brifysgolion y DU yn ôl pa mor gyfeillgar y maen nhw wrth hoywon a pha mor dda yw eu cefnogaeth i’r gymuned o fyfyrwyr LGB.  Mae’n wych bod lle mor uchel i ni yn yr arolygon hyn o’n myfyrwyr a’n staff.