Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost mis Rhagfyr yr Is-Ganghellor i’r holl staff

18 Rhagfyr 2014

Annwyl gydweithiwr

Wel, bu’r aros yn hir ond mae canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014 wedi cyrraedd o’r diwedd ac mae’r newyddion i Gaerdydd yn wych. Ymhlith prifysgolion y DU rydym yn bumed am ansawdd ein hymchwil y tu ôl i’r un sydd ar y brig, sef Imperial College Llundain, ac yna’r LSE, Rhydychen a Chaergrawnt. Down yn ail yn y DU ar fesur o’n heffaith. Mae hynny’n gamp gwbl eithriadol: ein canlyniad gorau erioed mewn asesiad o’n hymchwil a gwelliant o 17 o leoedd o’i gymharu ag ymarfer 2008. Yn Y Ffordd Ymlaen gwnaethom ddatganiad beiddgar wrth gyhoeddi’n huchelgais i fod ymhlith y 10 uchaf am ansawdd yn yr REF ar sail cyflwyniad detholus. Fel mae’n digwydd, fe gyflwynon ni niferoedd tebyg i rai Durham, Caerwysg a Lerpwl a dal i allu cyrraedd safon hynod o uchel. Gallwn ni ddweud yn hyderus, ac ar sail asesiad annibynnol, ein bod ni’n brifysgol ymchwil sy’n arwain y byd gan i ni gael ein gosod nid yn unig yn y 10 uchaf ond yn y 5 uchaf yn y DU. Yn bendant iawn, felly, rydyn ni wedi cyflawni un o ddangosyddion perfformiad allweddol pwysicaf Y Ffordd Ymlaen. Bydd y ddau ddangosydd sy’n cyfeirio at ein safle yn y tabl cynghrair – y 100 uchaf yn Safon Ansawdd y Byd a’r 20 uchaf yn The Times – hefyd yn elwa o’r perfformiad nodedig hwn.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill, mae’n wych gweld mai Peirianneg Sifil ac Adeiladu yw’r Uned Asesu orau yn y DU, a gosodwyd 6 o’n 27 o Unedau Asesu ymhlith y 5 gorau am eu hansawdd. Yn ogystal ag Uned 14 Peirianneg Sifil ac Adeiladu, y rheiny yw Uned 04 Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth (ail yn y DU), Uned 36 Astudiaethau Cyfathrebu, Diwylliant a’r Cyfryngau, sef i bob pwrpas yr Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, (ail yn y DU), Uned 23 Cymdeithaseg (3edd yn y DU), Uned 03 Iechyd Cysylltiedig (cyd-4edd yn y DU), Uned 25 Addysg (cyd-5ed yn y DU). Gosodwyd cyfanswm o 15 o’n 27 o Unedau yn y deg uchaf am eu hansawdd. Ar fesur o’u heffaith daw 5 o’n Hunedau’n gyntaf yn y DU, sef Uned 16B Pensaernïaeth, yr Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio, Uned 14 Peirianneg Sifil ac Adeiladu, Uned 36 Astudiaethau Cyfathrebu, Diwylliant a’r Cyfryngau, Uned 15 Peirianneg Gyffredinol ac Uned 28 Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth (gan gynnwys Ysgol y Gymraeg). Llwyddiannau penodol yw’r rheiny ond rhaid i mi bwysleisio, wrth gwrs, mai ffrwyth ymdrech gan dîm ar draws y Brifysgol yw’r gamp fawr hon.

Yn yr ysbryd hwnnw hoffwn fynegi fy niolch o galon i bawb a gyfrannodd. Y rhai yn y rheng flaen yw’r cydweithwyr academaidd y cyflwynwyd eu gwaith, ond cynorthwyodd llawer o bobl eraill y cyflwyniad drwy eu cyfraniad i achosion effaith, i oruchwylio graddau PhD ac i’r amgylchedd ymchwil. Ni allem fod wedi gwneud y cyflwyniad heb yr holl gyfraniadau hynny a hoffwn gydnabod hynny yma. Roedd gennym hefyd 22 o aelodau o baneli, gan gynnwys 3 chadeirydd, a wnaeth waith aruthrol gan sicrhau i ni yng Nghaerdydd wneud ein rhan er mwyn i’r ymarfer cyfan o adolygu-gan-gydweithwyr gael ei gyflawni er lles yr holl gymunedau pwnc perthnasol. Gwnaeth y tîm Gwybodaeth Fusnes, a oedd newydd ei ffurfio ac a fu’n gweithio’n ehangach gyda’r tîm Cynllunio a dadansoddwyr data’r Colegau, waith gwych wrth ddadansoddi a chyflwyno’r data ac, yn wir, byddan nhw’n dal i wneud hynny am rai misoedd eto ac wrth i ni symud i gyfnod nesaf yr REF; byddem ni mewn twll mawr heb yr arbenigedd mawr hwnnw a gallwn edrych ymlaen at eu hymwneud â llu o agweddau pwysig eraill ar ofynion y Brifysgol o ran gwybodaeth. Gwnaeth tîm y Gwasanaethau Gwybodaeth waith glew wrth sicrhau diwallu’r holl anghenion o ran TG, a helpu’r holl gydweithwyr y soniwyd amdanynt uchod, ynghyd â’r tîm Cyfathrebu sy’n gweithio o’r Prif Adeilad am yr wythnos ac wrthi tan hanner nos ar ddiwrnod y canlyniadau i ddosbarthu’r data a’r negeseuon cywir. Fel y soniais dros flwyddyn yn ôl wrth i ni anfon ein cyflwyniad, mae nifer aruthrol o bobl wedi ymwneud â’r cyfan o’r broses hon dros saith mlynedd. Alla i ddim enwi pob un ohonyn nhw, ond mae’r Deoniaid Ymchwil, Rick Delbridge, Justin Lewis, Malcolm Mason a Roger Whitaker, i gyd wedi gwneud ymdrech aruthrol a hoffwn ddiolch i bob un ohonyn nhw. Diolch hefyd i bob aelod o Is-Grŵp yr REF a fu’n cyfarfod yn fisol am dair blynedd a rhagor i sicrhau bod y wybodaeth yng nghyflwyniad Caerdydd mor helaeth a chywir ag y gallai hi fod. Tywysodd Chris McGuigan ni’n lew ar hyd y daith tan fis Ebrill 2013, a chawsom gan Mark Gumbleton ddarn gwych o feddalwedd y mae unrhyw un sy’n ymwneud â’r REF yng Nghaerdydd yn gyfarwydd iawn ag ef; rhoddodd fantais wirioneddol i ni wrth lywio’r broses benderfynu. Sicrhaodd Terry Threadgold a Sue Midha y câi’r gofynion o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth eu bodloni er mwyn i ni fod mor deg ag y gallem â’n holl gydweithwyr yn ogystal â chydymffurfio â gofynion yr HEFCE. Aeth Hywel Thomas, fel y Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, â ni drwy’r broses hyd at y cyflwyno ac fe wnaeth waith rhagorol. Ni allai dim o hyn fod wedi digwydd heb arbenigedd hyfryd o dawel Jane Boggan, un sydd yn fy marn i yn haeddu clod arbennig am broses a gyflawnwyd yn eithriadol o gelfydd. Dylai pawb fod yn hynod o falch a hapus ynglŷn â’r hyn rydym ni wedi’i gyflawni: rydw i, yn sicr, yn un ohonynt.

Pan ddes i yma gyntaf, byddai pobl yn aml yn dweud mai’n harfer oedd cuddio’n campau ni. Rwy’n gwbl sicr bod hynny wedi peidio ac y bydd REF 2014 yn gyfle rhyfeddol i ni roi gwybod mor wych yw’r Brifysgol sydd gennym ni yma yng Nghaerdydd. Mae Claire Sanders, ein Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata, wedi gweithio’n wych i gydlynu a lledaenu’r negeseuon allweddol ynghylch REF 2014, yn ogystal â llwyddiannau pwysig eraill y Brifysgol, ers iddi ddod aton ni ym mis Mehefin. Gyda’i thîm, mae Claire wedi cyflwyno cyfle newydd i ni arddangos ein hymchwil, sef Herio Caerdydd, y gallwch chi ei weld yma. Ym mis Ionawr, fe gyflwynir mewnrwyd a fydd yn peri i’r cyfathrebu mewnol fod yn fwy hwylus a hefyd yn fwy effeithiol.

Ochr yn ochr â’n llwyddiant llai amlwg, ond nid llai pwysig, yn yr Arolwg o’r Sefydliad ychydig fisoedd yn ôl, mae canlyniad yr REF yn golygu bod 2014 yn flwyddyn gwbl ryfeddol i Brifysgol Caerdydd. Fe lwyddon ni mewn llawer maes arall hefyd, wrth gwrs, ac ni chafwyd cystal hwyl ar ambell beth. Ond gallwn ni gychwyn ar wyliau’r Nadolig gan deimlo iddi fod yn flwyddyn dda iawn. Hoffwn ddiolch i’n holl gydweithwyr am eu hymdrech a’u hymroddiad, ac rwy’n falch dros ben ein bod ni’n gweld ffrwyth yr holl waith caled hwnnw. Hoffwn ddymuno Nadolig a Blwyddyn Newydd hapus a thangnefeddus i bawb, ond cofiwch feddwl hefyd am y cydweithwyr a fydd yn cadw’r isadeiledd i fynd dros y gwyliau.

Gyda dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor