Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Darlith nodedig Hadyn Ellis

13 Tachwedd 2014

Daeth Shami Chakrabarti, Cyfarwyddwraig Liberty, y mudiad hawliau dynol ac iawnderau sifil, i’r Brifysgol ar 13 Tachwedd i draddodi darlith flynyddol Hadyn Ellis. Mae Shami newydd gyhoeddi llyfr o’r enw On Liberty, sef teitl ei darlith. Siaradodd hi’n ddifyr, yn angerddol ac yn hynod effeithiol wrth amddiffyn pwysigrwydd eithriadol diogelu hawliau dynol sylfaenol – nid hawliau dinasyddion yn unig – os bwriadwn lynu wrth y rhyddid sy’n sail i ddemocratiaeth. Roedd cynhesrwydd ymateb y gynulleidfa’n amlwg a hyd y rhesi o bobl a arhosodd iddi lofnodi eu copi o’r llyfr yn tystio i boblogrwydd personol Shami ac i’w gafael gadarn ar y materion hollbwysig hyn. Mae hi’n ennyn edmygedd aruthrol – fel y gwelais yn glir wrth siarad â disgybl chweched-dosbarth ymlaen llaw – ac yn wych wrth eiriol yn gyhoeddus dros bobl na allan nhw gyflwyno’u hachos. Mae hynny’n bwysig dros ben am nad oes llawer o bobl a allai fod mor huawdl ynghylch problemau nad ydyn nhw, yn fynych, yn rhyw apelgar iawn nac yn hawdd eu hesbonio. Anogodd Shami’r gynulleidfa i brynu’r llyfr gan fod yr elw ohono’n mynd i Liberty, ac i ymuno â’r mudiad (mudiad o aelodau yw Liberty). Ar ddiwedd y ddarlith, fe wnes i’r un apêl er i mi gael gwybod wedyn fy ’mod i, ar ddamwain, wedi’u hannog i ymuno ag Amnest (ac mae croeso iddyn nhw wneud hynny, wrth gwrs). Rwy’n siŵr iddyn nhw gael y neges, serch hynny. Gan ’mod i wedi prynu’r llyfr ac wedi ymuno â Liberty, dylai hynny chwalu pob amheuaeth.