Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Coleg newydd ar y Cyd ar gyfer Astudiaethau Tsieineaidd

13 Tachwedd 2014

Heddiw, mynychais ddigwyddiad arwyddo cytundeb newydd gyda Phrifysgol Normal Beijing. Mae’r cytundeb, a lofnodwyd gan ein His-Ganghellor a Llywydd y BNU, yn gosod y sylfeini ar gyfer datblygu Coleg newydd ar y Cyd, Coleg Tsieineaidd Normal-Caerdydd Beijing.

 

Bydd y Coleg hwn yn gartref i raglen flaenllaw, gradd ddeuol mewn Astudiaethau Tsieineaidd, gyda myfyrwyr yn treulio dwy flynedd yng Nghaerdydd a dwy yn Beijing. Yn flaenorol, mae’r llywodraeth Tseiniaidd wedi cefnogi sefydlu Colegau o’r fath ar y cyd yn unig yn Tsieina; bydd Coleg ar y cyd mewn man arall ‘y cyntaf yn y byd’ ar gyfer Caerdydd.

 

Mae cydweithwyr o’r Ysgol Ieithoedd Modern a’r Swyddfa Ryngwladol wedi gweithio’n galed i ddatblygu’r berthynas allweddol hon, a rhoddodd y cyfarfod heddiw y cyfle i gadarnhau ein hymrwymiad. Rwy’n ddiolchgar i Richard Cotton (Cyfarwyddwr Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol),Yr Athro Claire Gorrara (Pennaeth MLANG) a’r Athro Ken Hamilton (Deon Rhyngwladol AHSS) am ymweld â’r BNU gyda mi yn gynharach eleni a helpu i ddatblygu’r cynnig ar gyfer y Coleg ar y Cyd.

 

Bydd dirprwyaeth o Gaerdydd yn ymweld â Beijing yn gynnar yn 2015 er mwyn datblygu’r rhaglen gradd newydd yn llawn.