Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Bord Gron y Cyngor Prydeinig

27 Hydref 2014

Gan ’mod i’n Gadeirydd Uned Ryngwladol Addysg Uwch y DU, cefais wahoddiad i gyflwyno trafodaeth Bord Gron y Cyngor Prydeinig mewn cyfarfod yn y Gymdeithas Frenhinol. Testun y trafod yno oedd cryfhau’r cydweithio â sefydliadau addysg uwch yn yr Almaen. Pam y byddem ni’n dymuno gwneud hynny? Wel, yr Almaen yw’n partner masnachu mwyaf ni a hi hefyd, ar ôl yr Unol Daleithiau, yw’r wlad y mae gennym ni’r nifer ail fwyaf o gysylltiadau academaidd â hi. Yn 2013 gwariodd Gwasanaeth Cyfnewid Academaidd yr Almaen (DAAD) €18.4m ar gydweithrediadau academaidd â’r DU, sef y swm pedwerydd uchaf a wariwyd ar unrhyw wlad. Ar ben hynny, darparodd y DAAD gyllid i 1,210 o fyfyrwyr/ymchwilwyr o’r Almaen astudio neu wneud ymchwil yn y DU yn ogystal â chyllid i 549 o fyfyrwyr ac academyddion o’r DU astudio, addysgu neu ymchwilio yn yr Almaen. Ariannwyd 4,792 o Almaenwyr eraill drwy raglenni symudedd yr UE yn y DU. O ran safle addysg uwch y DU yn yr UE, mae’r Almaen yn gynghreiriad am fod ein gwledydd ni, gyda’i gilydd, yn llais cryf iawn o blaid rhagoriaeth ymchwil yn ogystal â thros raglenni fel Erasmus+. Er y gallai mannau mwy pellennig ymddangos fel petaen nhw’n fwy hudolus, efallai y dylen ni gofio cryfder y cysylltiadau sy’n nes at y wlad hon. Byddwn ni’n cytuno â’n cydweithwyr yn yr Almaen ar gyfres o fesurau a fydd, gobeithio, yn cynyddu rhagor eto ar y cydweithio rhyngon ni, ac fe rodda i wybod i chi pan fydd y cytundeb ar ei ffurf derfynol.