Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Gŵyl Arloesedd ar Wib

2 Hydref 2014

Roeddwn i’n falch iawn o lansio System Arloesi Caerdydd yng Ngŵyl Arloesedd ar Wib y Brifysgol yn Adeilad Hadyn Ellis heddiw. Yn yr ŵyl honno, fe amlinellon ni’n cynlluniau i ddatblygu’n gorff ysgogi  rhyngwladol ei gydnabyddiaeth i sicrhau ffyniant, iechyd a thwf yng Nghymru, y DU a’r byd ehangach yn y dyfodol. Mae gennym ni weledigaeth uchelgeisiol i arloesi er mwyn sicrhau twf a fydd yn hwb i economi Cymru, a byddwn ni’n buddsoddi rhyw £300m mewn adeiladau newydd i wireddu’r weledigaeth honno. Mae’r cynlluniau’n cynnwys pedwar adeilad newydd a fydd yn trawsffurfio safle ar Heol Maendy drwy droi hen ofod diwydiannol yn gampws o’r radd flaenaf. Un o’r adeiladau newydd, y Parc Ymchwil i’r Gwyddorau Cymdeithasol, fydd y cyntaf o’i fath yn y byd i’w sefydlu a bydd yn trosi ymchwil sy’n arwain y byd yn atebion i broblemau pennaf cymdeithas a’r byd. I gael gwybod rhagor, ewch i’r tudalennau newyddion.